Skip to main content

Systemau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer busnesau

Sgipio cynnwys

Creu system rheoli diogelwch bwyd

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r math o system rheoli diogelwch bwyd sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar y canlynol:

  • maint eich busnes
  • lefel risg a chymhlethdod eich busnes

Enghreifftiau

Mae caffi yn paratoi brechdanau, saladau a diodydd poeth i’w gwerthu’r un diwrnod. Mae angen i’r caffi nodi risgiau diogelwch bwyd allweddol, cadw bwyd wedi’i oeri ar dymheredd diogel, a darparu gwybodaeth am alergenau i gwsmeriaid.

Mae ffatri yn cynhyrchu prydau parod wedi’u hoeri sy’n cynnwys cig wedi’i goginio, ac mae’n eu dosbarthu ledled y wlad. Mae angen system â dogfennaeth gynhwysfawr arni, sy’n cynnwys rheolaethau ar gyfer olrheiniadwyedd, profi cynhyrchion, monitro amgylcheddol, a sicrwydd cyflenwyr.

Sut i greu system rheoli diogelwch bwyd

  1. Cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol. Bydd y tîm yn asesu maint a natur eich busnes, ac yn eich cynghori ar y math o system sydd ei angen arnoch chi.

  2. Datblygwch eich system gan ddefnyddio canllawiau a thempledi. Gallwch hefyd gyflogi ymgynghorydd diogelwch bwyd annibynnol neu gael cymorth gan eich cymdeithas ddiwydiant, os ydych chi’n aelod o un.

  3. Gwiriwch, adolygwch a diweddarwch eich system yn rheolaidd, a bob tro y byddwch yn newid eich prosesau bwyd neu’ch cyflenwyr.

Canllawiau a thempledi i ddatblygu’ch system

Pecynnau cymorth rheoli diogelwch bwyd ar gyfer busnesau llai

Mae pecynnau cymorth Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi’u cynllunio ar gyfer busnesau arlwyo bach fel bwytai, caffis a siopau tecawê.

Os yw’ch busnes yng Ngogledd Iwerddon, defnyddiwch y canllawiau arlwyo diogel yn lle’r pecynnau cymorth.

Mae’r pecynnau cymorth SFBB yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer rheoli croeshalogi, glanhau, oeri a choginio. Gellir eu haddasu yn ôl maint a natur eich busnes.

Mae gwybodaeth am SFBB sy’n benodol i’r sector hefyd ar gael ar gyfer:

  • manwerthwyr
  • siopau tecawê Indiaidd
  • siopau tecawê Tsieineaidd
  • gwarchodwyr plant
  • cartrefi gofal

Templedi dogfennau ar gyfer gweithdrefnau diogelwch bwyd

Gallwch ddefnyddio templedi dogfennau diogelwch bwyd yr ASB i reoli’r rhan fwyaf o arferion diogelwch bwyd, fel:

  • glanhau
  • cynnal a chadw
  • rheoli plâu
  • cofnodion cemegol
  • hyfforddi staff
  • hylendid staff
  • iechyd a salwch staff

Cynlluniau Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP)

Mae cynllun HACCP yn rhan fanylach o system rheoli diogelwch bwyd sy’n canolbwyntio ar nodi a rheoli risgiau diogelwch bwyd. Mae’n cynnwys dadansoddiad ffurfiol o beryglon, pwyntiau rheoli critigol, gweithdrefnau monitro, a chofnodion manwl.

Efallai y bydd eich tîm diogelwch bwyd lleol yn rhoi gwybod bod angen cynllun HACCP arnoch os yw’ch busnes yn fwy neu’n wynebu risg uwch.

Gallwch wneud cynllun HACCP:

  • ar-lein, drwy’r gwasanaeth MyHACCP
  • gan ddefnyddio templed cynllun HACCP yr ASB