Skip to main content

Hylendid bwyd ar gyfer busnesau

Sgipio cynnwys

Storio a chludo bwyd

Pan fyddwch chi’n storio ac yn cludo bwyd, rhaid sicrhau’r canlynol:

  • mae bwyd yn cael ei roi mewn deunydd pecynnu neu gynwysyddion sydd wedi’u nodi’n addas i’w defnyddio fel deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd er mwyn ei ddiogelu rhag halogiad
  • rydych chi’n defnyddio oergelloedd ar wahân ar gyfer bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta os yw’n bosib neu’n storio bwyd amrwd o dan fwyd parod i’w fwyta yn yr un oergell
  • mae bwyd oer a bwyd rhew’n cael eu cadw ar y tymheredd cywir wrth eu cludo a’u storio
  • mae’r holl gynhwysion yn cael eu labelu i atal croeshalogi, yn enwedig bwyd sy’n cynnwys alergenau

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).