Labelu a phecynnu bwyd
Trosolwg
I werthu cynhyrchion bwyd a diod, rhaid i’r wybodaeth am y cynnyrch (ar y label, ar unrhyw hysbysiadau gerllaw, neu ar-lein) fodloni’r canlynol:
- mae’n glir ac yn hawdd ei darllen
- mae’n barhaol
- mae’n hawdd ei deall
- mae’n hawdd ei gweld
- nid yw’n gamarweiniol
Gallech gael eich erlyn os byddwch yn disgrifio, yn hysbysebu neu’n cyflwyno cynnyrch bwyd yn anghywir.
Rhaid i chi ddangos gwybodaeth sylfaenol benodol a rhestru’r cynhwysion. Efallai y bydd hefyd yn rhaid i chi ddangos rhybuddion penodol.
Dysgwch sut i ddangos gwybodaeth ar labeli bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw.
Mae hefyd rheoliadau arbennig ar gyfer labelu gwin.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu’n rhydd neu wedi’u pecynnu ar y safle
Os ydych chi’n gwerthu bwyd yn rhydd, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau.
Os ydych chi’n pecynnu bwyd i’w werthu yn eich siop, rhaid i chi ddarparu:
- enw’r bwyd
- rhestr gynhwysion
- gwybodaeth am alergenau
Rhaid i chi ddangos mwy o wybodaeth os ydych chi’n gwerthu cynhyrchion cig yn rhydd yn Lloegr.
Ar gyfer rhai bwydydd rhydd neu fwydydd wedi’u pecynnu, efallai y bydd angen i chi ddangos y canlynol hefyd:
- p’un a yw unrhyw rai o’r cynhwysion wedi cael eu harbelydru, neu wedi dod o ffynonellau wedi’u haddasu’n enetig
- rhybuddion penodol
- unrhyw ychwanegyn bwyd rydych chi wedi’i ychwanegu
Dysgwch fwy am labelu:
Pecynnu
Os mai chi sy’n pecynnu bwyd, rhaid i chi ddefnyddio deunydd pecynnu sy’n addas i’w ddefnyddio ar gyfer bwyd. Os bydd deunydd pecynnu’n addas, bydd ‘for food contact’ wedi’i nodi arno, neu bydd symbol arno sy’n edrych fel gwydr gwin a fforc.
Mae rheolau arbennig ar gyfer defnyddio plastigau, cerameg neu seloffen ar gyfer deunydd pecynnu. Rhaid i chi fod â thystiolaeth ysgrifenedig eich bod wedi glynu atynt.
‘Datganiad cydymffurfiaeth’ yw’r enw ar hyn, a gallwch ei gael oddi wrth eich cyflenwr deunydd pecynnu. Bydd hefyd yn rhaid i chi gael un os byddwch chi’n prynu bwyd sydd eisoes wedi’i becynnu i’w werthu yn unrhyw un o’r deunyddiau hynny.
Gallwch ddysgu mwy am:
- y ddeddfwriaeth ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd ar gyfer Cymru
- y ddeddfwriaeth ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd ar gyfer Lloegr
- y ddeddfwriaeth ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd ar gyfer Gogledd Iwerddon
- y ddeddfwriaeth ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd ar gyfer yr Alban
Pecynnu dan wactod
Os ydych chi’n pecynnu bwyd dan wactod (‘vacuum pack’) neu mewn atmosffer wedi’i addasu, rhaid i chi sicrhau nad yw bwyd yn cael ei halogi wrth ei lapio neu ei becynnu.
Bydd y canlynol yn eich helpu i wneud hyn:
- defnyddio deunyddiau lapio a phecynnu na fyddant yn halogi bwyd
- storio deunyddiau lapio a phecynnu yn iawn
- cadw cynwysyddion yn lân a heb ddifrod
Cynlluniau sicrwydd bwyd
Gallech hefyd ymuno â chynlluniau sicrwydd bwyd gwirfoddol fel Tractor Coch. Gellir gynnwys logos cynlluniau sicrwydd ar labeli bwyd i ddangos bod y cynnyrch yn bodloni safonau penodol – er enghraifft, safonau diogelwch bwyd neu les anifeiliaid.