Skip to main content

Labelu maeth, honiadau iechyd, ac atchwanegiadau

Labelu maeth

Rhaid i chi ddilyn rheolau o ran labelu gwybodaeth am faeth ar gyfer pob cynnyrch wedi’i becynnu ymlaen llaw, oni bai bod y ddau beth canlynol yn wir:

  • rydych chi’n fusnes bach gyda llai na 10 o weithwyr a throsiant o lai nag £1.4 miliwn
  • rydych chi’n cyflenwi naill ai’n uniongyrchol i ddefnyddwyr neu i fanwerthwyr lleol – mae ‘lleol’ yn golygu o fewn eich sir, eich sir gyfagos, neu hyd at 30 milltir o ffin eich sir

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Honiadau am faeth ac iechyd

Rhaid i chi ddilyn rheolau penodol os ydych chi am wneud honiad am faeth (er enghraifft, braster isel) neu honiad iechyd (er enghraifft, mae calsiwm yn helpu i gynnal iechyd arferol yr esgyrn).

Ni allwch honni nac awgrymu y gall bwyd drin, atal na gwella unrhyw glefyd neu gyflwr meddygol.

Atchwanegiadau bwyd, bwydydd cyfnerthedig, a bwydydd ar gyfer grwpiau penodol

Rhaid i chi ddilyn rheolau penodol os ydych chi’n cynhyrchu, gwerthu neu fewnforio:

Mae rheolau penodol hefyd i fwydydd ar gyfer grwpiau penodol (FSGs), a oedd yn arfer cael eu galw’n ‘fwydydd at ddefnydd maethol neilltuol (PARNUTS)’, er enghraifft:

  • fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol
  • bwydydd babanod
  • bwydydd ar gyfer amnewid deiet yn llwyr ar gyfer rheoli pwysau
  • bwydydd at ddibenion meddygol arbennig

Yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban

Rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol os ydych chi am werthu fformiwla fabanod neu fwydydd at ddibenion meddygol arbennig.

Gallwch ddysgu mwy yn nhaflen wybodaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ddeddfwriaeth maeth.

Yng Ngogledd Iwerddon

Rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd os ydych chi am werthu fformiwla fabanod neu fwydydd at ddibenion meddygol arbennig.