Skip to main content

Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL)

Os ydych chi wedi sylwi ar risg o groeshalogi alergenau posib na ellir ei rheoli, dylech chi ddefnyddio labelu alergenau rhagofalus (‘precautionary’) (PAL) er mwyn rhybuddio defnyddwyr.

Croeshalogi alergenau yw pan fo’r mymryn lleiaf (‘traces’) o alergenau yn mynd i mewn i gynhyrchion ar ddamwain. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch ddefnyddio geiriad fel ‘may contain milk’ neu ‘not suitable for people with a nut allergy’.

Ni ddylech ddefnyddio datganiadau cyffredinol fel ‘may contain allergens’.

Os cewch unrhyw wybodaeth ragofalus am alergenau gan gyflenwyr cynhwysion, dylech ei throsglwyddo i’r defnyddwyr terfynol, oni bai bod eich asesiad risg yn disodli’r wybodaeth honno.

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pryd na ddylech ddefnyddio PAL

Ni ddylech ddefnyddio PAL:

  • ar y cyd â datganiad rhydd rhag ar gyfer yr un alergen – er enghraifft, os ydych chi’n dweud wrth ddefnyddwyr fod cynnyrch yn rhydd rhag llaeth, ni allwch chi hefyd ddweud y gallai gynnwys llaeth
  • yn lle arferion hylendid a diogelwch bwyd

Os byddwch yn defnyddio PAL pan nad oes unrhyw risg wirioneddol i’r defnyddiwr wedi’i nodi, gallech chi fod yn camarwain defnyddwyr ac felly’n torri cyfraith bwyd.

Sut i ddefnyddio PAL

Nid oes angen nodi gwybodaeth ragofalus am alergenau ar y label bwyd. Gellir roi gwybod amdani mewn ffyrdd eraill, fel rhybuddion llafar gan staff neu arwyddion a ddangosir yn y safle bwyd.

Dylech adolygu eich PALs yn rheolaidd, yn enwedig pan fydd cyflenwyr neu brosesau’n newid.

Gallwch ddarllen canllawiau mwy manwl ar ofynion a deddfwriaeth labelu alergenau.

Cael cymorth

Cysylltwch â thîm gorsensitifrwydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) os oes angen cyngor arnoch am PAL.

Tîm gorsensitifrwydd yr ASB
hypersensitivitypolicy@food.gov.uk