Labelu a phecynnu bwyd
Rhestr gynhwysion
Os oes gan eich cynnyrch bwyd neu ddiod ddau gynhwysyn neu fwy (gan gynnwys dŵr ac ychwanegion), rhaid i chi restru pob un.
Mae angen i chi ddefnyddio’r pennawd ‘Ingredients’ neu bennawd addas sy’n cynnwys y gair ‘ingredients’. Rhaid rhestru cynhwysion yn nhrefn eu pwysau, gyda’r prif gynhwysyn gyntaf.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Meintiau’r cynhwysion
Rhaid i chi hefyd ddangos canran cynhwysyn os yw un o’r canlynol yn wir:
- mae’r label neu’r llun ar y pecyn yn amlygu’r cynhwysyn – er enghraifft, ‘caws ychwanegol’
- mae enw’r cynnyrch yn crybwyll y cynhwysyn – er enghraifft, ‘pastai caws a nionyn’
- byddai’r defnyddiwr fel arfer yn cysylltu’r cynhwysyn â’r enw – er enghraifft, ffrwythau mewn pwdin haf
Rhaid i chi ddilyn y gofynion o ran labelu’r maint net ar gyfer pob bwyd wedi’i becynnu sy’n fwy na 5 gram neu 5 mililitr.
Efallai y bydd angen i chi hefyd ddweud wrth ddefnyddwyr am ganran cynhwysion penodol gan ddefnyddio datganiad meintiol o gynhwysion (QUID). Darllenwch yr adran ynghylch pryd i ddangos y QUID yn y canllawiau labelu bwyd.
Alergenau
Rhaid i chi amlygu alergenau ar y label drwy ddefnyddio ffont, arddull neu liw cefndir gwahanol. Rhaid i chi eu nodi yn y rhestr gynhwysion hefyd.
Dyma’r alergenau y mae angen i chi eu hamlygu a’u rhestru:
- bysedd y blaidd (‘lupin’)
- cnau
- cramenogion (‘crustaceans’) – gan gynnwys corgimychiaid, crancod a chimychiaid
- ffa soia
- grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten – gan gynnwys gwenith, rhyg (‘rye’), haidd (‘barley’) a cheirch
- hadau sesame
- llaeth
- molysgiaid – gan gynnwys môr lawes (‘squid’), cregyn gleision (‘mussels’), cocos (‘cockles’), cregyn môr (‘whelks’) a malwod
- mwstard
- pysgnau
- pysgod
- seleri
- sylffwr deuocsid neu sylffitau ar lefelau dros 10mg y cilogram neu’r litr
- wyau
Dysgwch sut i labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw.
Dylech ddefnyddio label alergenau rhagofalus (‘precautionary’) os oes siawns bod rhywfaint o alergenau wedi mynd i mewn i gynhyrchion ar ddamwain.