Labelu a phecynnu bwyd
Labelu bwyd – yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddangos
Rhaid i chi ddangos yr wybodaeth ganlynol:
- enw’r bwyd
- dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, os oes angen
- unrhyw rybuddion angenrheidiol
- gwybodaeth am y maint net
- rhestr gynhwysion (os oes mwy nag un cynhwysyn)
- y wlad neu’r man tarddiad, os oes angen
- rhif y lot neu’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’
- unrhyw amodau storio arbennig
- cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio neu goginio’r cynnyrch, os oes angen
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Hefyd, mae’n rhaid i chi gynnwys enw a chyfeiriad ar y deunydd pecynnu neu’r label bwyd, ar gyfer un o’r canlynol:
- y busnes y mae’r bwyd yn cael ei farchnata yn ei enw
- y busnes sydd wedi mewnforio’r bwyd
Gwybodaeth am y maint
Rhaid i chi nodi’r maint net mewn gramau, cilogramau, mililitrau neu litrau ar labeli’r canlynol:
- bwyd wedi’i becynnu dros 5g neu 5ml
- perlysiau a sbeisys wedi’u pecynnu
Rhaid i fwydydd caled sy’n cael eu pecynnu mewn hylif – neu mewn sglein (‘glaze’) iâ – ddangos pwysau net y bwyd wedi’i ddraenio.
Rhaid i’r maint net fod yn ddigon agos at enw’r bwyd fel y gallwch weld yr holl wybodaeth hon ar yr un pryd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gryfder diodydd alcoholaidd.
Nid oes rhaid i chi ddangos y pwysau na’r cyfaint ar fwydydd sy’n cael eu gwerthu ar sail nifer – er enghraifft, 2 rôl fara – ar yr amod y gallwch weld nifer yr eitemau yn y pecyn yn glir.
Gallwch ddarllen mwy o ganllawiau ar labelu meintiau.
Gwybodaeth y gallai fod yn rhaid i chi ei dangos
Rhaid i chi hefyd gynnwys datganiad os yw eich cynnyrch:
- yn ddiod sydd â chynnwys alcohol dros 1.2%
- yn cynnwys cynhwysion wedi’u haddasu’n enetig (GM), oni bai eu bod yn bresennol yn ddamweiniol ac yn cyfrif am 0.9% neu lai o’r cynnyrch
- wedi cael ei arbelydru
- wedi’i becynnu gan ddefnyddio nwy pecynnu – os felly, rhaid i chi ddefnyddio’r geiriau ‘packaged in a protective atmosphere’
Gwlad neu fan tarddiad
Rhaid i chi ddangos y wlad neu’r man tarddiad ar gyfer:
- cig eidion, cig llo, cig oen, cig dafad, porc, cig gafr a dofednod
- pysgod a physgod cregyn
- mêl
- olew olewydd
- gwin
- ffrwythau a llysiau
Gwiriwch y rheolau ar gyfer pryd i nodi’r wlad tarddiad wrth labelu cig, pysgod a physgod cregyn.
Rhaid i chi hefyd ddangos y wlad tarddiad os yw’n bosib y byddai cwsmeriaid yn cael eu camarwain heb yr wybodaeth hon – er enghraifft, os yw label pizza yn dangos Tŵr Gogwyddol Pisa er bod y pizza wedi’i wneud yn y DU.
Os yw label yn nodi bod cynnyrch wedi’i wneud mewn un man ond bod prif gynhwysyn y bwyd yn dod o fan gwahanol, rhaid i’r label ddangos hynny hefyd. Er enghraifft, ar gyfer pastai porc sydd wedi’i labelu’n ‘Brydeinig’ ac sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU gan ddefnyddio porc o Ddenmarc, rhaid i’r label ddatgan ‘with pork from Denmark’ neu ‘made with pork from outside the UK’.
Rheolau arbennig ar gyfer rhai cynhyrchion
Mae rheolau arbennig ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddangos ar y label os ydych chi’n cyflenwi unrhyw un o’r canlynol:
- bara a blawd
- brasterau ac olewau
- cig a chynhyrchion cig
- coffi toddadwy (‘soluble’)
- cynhyrchion coco a siocled
- dŵr potel
- jamiau a chyffeithiau (‘preserves’)
- llaeth a chynhyrchion llaeth
- mêl
- pysgod
- siwgr
- sudd a neithdar ffrwythau