Labelu a phecynnu bwyd
Bwyd organig
Os ydych chi’n fanwerthwr, gallwch chi labelu cynhyrchion yn organig cyn belled â bod y canlynol yn wir:
- mae o leiaf 95% o’r cynhwysion a dyfir ar ffermydd yn organig
- rydych chi’n gwerthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid yn eich siop
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ardystiad organig
Rhaid i chi gael eich ardystio gan un o’r cyrff rheoli organig os ydych chi’n cynhyrchu neu’n paratoi bwyd organig ac eisiau ei werthu neu ei labelu fel bwyd organig.
Gallwch benderfynu â pha gorff yr hoffech chi gofrestru, yn seiliedig ar eich lleoliad a’ch anghenion.
Ar ôl cofrestru, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
- dilyn set gaeth o ganllawiau a osodir gan gyfraith genedlaethol a rhyngwladol
- cadw cofnodion trylwyr a chywir o brosesau cynhyrchu
- caniatáu arolygiadau blynyddol a dirybudd
Bydd hefyd yn rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer labelu cynhyrchion organig.
Gallwch wirio sut mae rheolau labelu bwyd yn cael eu gorfodi.