Hylendid bwyd ar gyfer busnesau
Gwastraff bwyd
Rhaid i chi storio a chael gwared ar wastraff bwyd a sbwriel yn ddiogel. Os na fyddwch chi’n gwneud hynny, gallech chi halogi bwyd, offer ac arwynebau. Gallech chi hefyd ddenu plâu fel llygod, llygod mawr, adar, a phryfed. Gallai hyn wneud eich cwsmeriaid yn sâl. Gallai hefyd olygu eich bod chi’n cael sgôr hylendid bwyd isel.
Os oes risg ddifrifol ac uniongyrchol i iechyd, gallai eich busnes gael ei gau neu ei erlyn.
Dylai storio a chael gwared ar wastraff fod yn rhan o’ch system rheoli diogelwch bwyd.
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cael gwared ar wastraff o ystafelloedd lle mae bwyd yn bresennol cyn gynted â phosib
- storio gwastraff yn briodol
- cael gwared ar wastraff yn gywir
- cael gwared ar olew coginio’n ddiogel
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Storio gwastraff
Rhaid i chi storio gwastraff mewn ffordd sy’n atal halogiad a phlâu.
I wneud hyn, dylech chi roi’r holl wastraff bwyd a sbwriel mewn cynwysyddion y gellir eu selio.
Os na allwch chi roi gwastraff mewn cynwysyddion y gellir eu selio, rhaid i chi allu profi i’ch cyngor lleol fod eich system yn atal halogiad a phlâu.
Rhaid i gynwysyddion gwastraff:
- fod yn hawdd eu glanhau a’u diheintio
- bod yn gadarn ac yn gryf
- cael eu cadw mewn cyflwr da
- cael eu glanhau a’u diheintio’n rheolaidd
Dylech chi storio gwastraff i ffwrdd o ardaloedd paratoi a storio bwyd, pan fo hynny’n bosib.
Cael gwared ar wastraff
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- gwahanu gwastraff bwyd oddi wrth wastraff arall os yw’ch busnes yn Lloegr – os oes gan eich busnes lai o staff na’r hyn sy’n cyfateb i 10 gweithiwr amser llawn, rhaid i chi wneud hyn ar ôl 31 Mawrth 2027; rhaid i fusnesau mwy wneud hyn nawr
- gwirio’r rheolau ar gyfer gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid os ydych chi’n taflu mwy nag 20kg yr wythnos o gig, cynnyrch llaeth, wyau, pysgod, pysgod cregyn, neu gynhyrchion eraill sy’n dod o anifeiliaid
- gwneud yn siŵr bod gwastraff yn cael ei waredu gan gludwr gwastraff cofrestredig
- dilyn y rheolau i fusnesau ar gyfer gwaredu gwastraff
Gwiriwch y gofrestr o gludwyr gwastraff ar gyfer eich gwlad neu gofynnwch i’ch cyngor dosbarth am help os yw’ch busnes yng Ngogledd Iwerddon.
Cael gwared ar olew coginio
Rhaid cael gwared ar olew coginio’n ddiogel, oherwydd ei fod yn gallu blocio pibellau, achosi arogleuon drwg, a denu plâu.
Gallech chi wynebu dirwy neu gael eich erlyn os na fyddwch chi’n cael gwared ar olew coginio’n ddiogel.
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- storio olew ar wahân i wastraff arall
- trefnu i’ch gwastraff olew coginio gael ei gasglu gan gludwr gwastraff cofrestredig a fydd yn mynd ag ef i safle awdurdodedig
Gwiriwch y gofrestr o gludwyr gwastraff ar gyfer eich gwlad neu gofynnwch i’ch cyngor dosbarth am help os yw’ch busnes yng Ngogledd Iwerddon.
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- arllwys olew i mewn i ddraeniau na charthffosydd – bydd yn blocio pibellau a dyfrffyrdd
- mynd ag olew coginio i ganolfannau ailgylchu cartref i’w waredu mewn banciau olew injan – bydd yn gwneud yr holl gynnwys arall yn anaddas i’w ailgylchu
- taflu olew coginio allan gyda gwastraff arall – bydd rhai casglwyr gwastraff yn gwrthod cymryd gwastraff sydd wedi’i halogi ag olew
Lleihau gwastraff bwyd
Mae archebu gormod o stoc yn cynyddu’r risg y bydd bwyd yn mynd heibio i’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ cyn i chi allu ei ddefnyddio. Yn ogystal â chreu gwastraff, gall hyn achosi risgiau i ddiogelwch bwyd.
Gallwch chi leihau gwastraff bwyd drwy wneud y canlynol:
- monitro faint o fwyd rydych chi’n ei daflu, ac addasu’ch archebion
- adolygu gweddillion cwsmeriaid, ac addasu maint dognau
- defnyddio bwyd hŷn yn gyntaf i’w atal rhag mynd yn ddrwg neu rhag mynd heibio i’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’
- rhewi bwyd cyn iddo fynd yn ddrwg, yn hytrach na’i daflu
Gallwch chi gael cyngor ac adnoddau ar gyfer lleihau gwastraff bwyd gan Guardians of Grub.
Help a chyngor
Mae eich tîm diogelwch bwyd lleol yn gallu rhoi mwy o wybodaeth am reoli gwastraff a gwasanaethau casglu gwastraff yn eich ardal chi.
Mae cyngor ar reoli gwastraff ar gael yn y pecyn ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’, neu’r canllawiau ‘Arlwyo diogel’ os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon.