Skip to main content

Deall labelu bwyd

Sgipio cynnwys

Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ a ‘defnyddio erbyn’

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fwydydd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw ddangos naill ai dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad ‘ar ei orau cyn’.

Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch y bwyd, tra bo dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd y bwyd.

Gweithgynhyrchwyr sy’n penderfynu a fyddan nhw’n rhoi dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar eu cynhyrchion. Mae hyn yn dibynnu ar y math o fwyd a pha mor debygol yw hi y bydd y bwyd dan sylw yn mynd yn anniogel i’w fwyta dros amser.

Gwiriwch label y bwyd i weld a oes ganddo ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ‘ar ei orau cyn’.

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ (‘use-by’)

Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ar labeli bwyd yn dweud wrthych chi pryd mae bwyd bellach yn anniogel i’w fwyta. Mae’n rhaid eu dangos ar fwydydd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym, fel cynhyrchion cig a saladau parod i’w bwyta.

Gallai bwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ eich gwneud chi’n sâl.

Bydd y label yn dweud wrthych chi sut i storio’r bwyd yn iawn hyd nes y byddwch chi eisiau ei fwyta, gan gynnwys beth i’w wneud ar ôl i chi agor y pecyn. Er enghraifft, os yw’r cyfarwyddiadau ar y deunydd pecynnu yn dweud wrthych chi am roi’r bwyd yn yr oergell ar ôl ei agor, dylech chi gadw’r bwyd mewn oergell ar 5°C neu is.

Os na fyddwch chi’n storio bwyd yn iawn, gallai ddod yn anniogel i’w fwyta cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.

Pryd gallwch chi fwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’

Gallwch fwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ os cafodd ei goginio neu ei rewi ar y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, neu cyn y dyddiad hwnnw.

Os byddwch chi’n coginio bwyd cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, dylech chi ei oeri a’i gadw yn yr oergell. Yna, mae’n rhaid i chi ei fwyta o fewn 48 awr neu ei rewi i’w fwyta yn hwyrach.

Os byddwch chi’n rhewi bwyd cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, ni fydd yn dirywio gan na all bacteria dyfu ar fwyd sydd wedi’i rewi. Dylech chi gadw’ch rhewgell ar -18°C a dilyn y cyfarwyddiadau rhewi a dadmer ar y label. Dylech chi hefyd labelu’r bwyd fel eich bod chi’n gwybod beth yw ef a phryd cafodd ei rewi.

Unwaith y bydd y bwyd wedi dadmer, mae angen i chi ei ddefnyddio o fewn 24 awr.

Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’

Mae ansawdd rhai bwydydd yn gwaethygu dros amser. Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’, sydd weithiau i’w weld ar y pecyn fel ‘best before end’ (BBE), yn dweud wrthych chi pryd gallai ansawdd y bwyd ddechrau gwaethygu. Dylai dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ ymddangos ar gynhyrchion fel:

  • bwydydd wedi’u rhewi (er enghraifft, pys, sglodion a hufen iâ)

  • bwydydd sych (er enghraifft, pasta a reis)

  • bwydydd tun (er enghraifft, ffa pob a thomatos tun)

  • caws

Ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’, bydd y bwyd fel arfer yn ddiogel i’w fwyta ond efallai na fydd o’r un ansawdd.

Mae’r label yn dweud wrthych chi sut i storio’r bwyd yn iawn nes y byddwch chi eisiau ei fwyta.

Os na fyddwch chi’n storio bwyd yn iawn, gallai ansawdd y bwyd waethygu cyn y dyddiad ‘ar ei orau cyn’.

Ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’, gallwch chi ystyried golwg, blas neu arogl bwyd i benderfynu a ddylech chi ei fwyta – er enghraifft, drwy wneud y canlynol:

  • chwilio am lwydni amlwg ar fara

  • blasu bisgedi neu greision i weld a ydyn nhw wedi mynd yn hen

  • arogli rhai cynhyrchion llaeth i weld a ydyn nhw wedi suro