Skip to main content

Labeli bwyd figan

Nid oes diffiniad cyfreithiol o fwyd figan yng nghyfraith y DU, ond mae’n rhaid i fusnesau labelu bwyd yn gywir a pheidio â bod yn gamarweiniol.

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os yw label bwyd yn dweud bod cynnyrch yn figan neu’n ddiogel i figaniaid, mae’n golygu nad oes unrhyw gynhwysion sy’n deillio o anifeiliaid wedi’u defnyddio’n fwriadol wrth greu’r cynnyrch.

Nid yw label figan yn gwarantu nad yw’r cynnyrch yn cynnwys unrhyw gynhwysion sy’n deillio o anifeiliaid.

Gall bwyd figan gael ei baratoi mewn mannau a ffatrïoedd lle mae alergenau neu gynhwysion sy’n deillio o anifeiliaid yn bresennol. Mae hyn yn golygu y gallai cynhwysion sy’n deillio o anifeiliaid fod yn y cynnyrch o ganlyniad i groeshalogi.

Os yw busnes bwyd wedi labelu cynnyrch fel un figan, ond wedi canfod risg o groeshalogi, dylai wneud yn siŵr bod y label yn dangos hyn yn glir. Gall y busnes wneud hyn drwy ddefnyddio’r broses o labelu alergenau rhagofalus (PAL), er enghraifft drwy gynnwys datganiad ‘gallai gynnwys’ ar y label.

Os oes gennych alergedd neu anoddefiad

Ni ddylech gymryd yn ganiataol bod cynnyrch sydd wedi’i labelu fel un figan yn ddiogel i’w fwyta os oes gennych alergedd bwyd neu anoddefiad i’r canlynol:

  • llaeth

  • wyau

  • cramenogion

  • pysgod

  • molysgiaid

Mae labeli diogelwch bwyd fel ‘rhydd rhag’ neu ‘rhydd rhag alergenau’ yn warant nad yw’r alergen dan sylw yn y cynnyrch. Mae’n rhaid i fusnesau bwyd sy’n creu cynhyrchion bwyd ‘rhydd rhag’ neu ‘rhydd rhag alergenau’ ddilyn prosesau llym i atal croeshalogi.

Fodd bynnag, nid oes rhaid i fusnesau ddilyn y prosesau hyn i labelu bwyd yn figan. Felly, mae dal i fod siawns o groeshalogi ag alergenau sy’n deillio o anifeiliaid.