Deall labelu bwyd
Trosolwg
Mae angen i chi ddeall yr wybodaeth ar labeli bwyd er mwyn i chi allu penderfynu a yw bwyd yn ddiogel i chi ei fwyta. Mae hyn yn cynnwys:
-
dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’
-
labeli alergenau
-
labeli figan
-
labeli ‘rhydd rhag’
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Beth i’w wneud os yw label bwyd yn gamarweiniol
Mae’n rhaid i fusnesau bwyd ddilyn rheolau penodol wrth labelu eu cynhyrchion.
Mae’n rhaid i labeli ddangos gwybodaeth benodol. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn gywir a pheidio â bod yn gamarweiniol.
Gallwch gysylltu â Safonau Masnach i roi gwybod am fusnes bwyd os ydych chi’n credu bod rhywfaint o wybodaeth ar goll ar label, neu fod yr wybodaeth yn gamarweiniol mewn perthynas â’r canlynol:
-
honiadau iechyd
-
cynhwysion
-
pwysau
-
disgrifiad y cynnyrch
-
alergenau
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â’ch tîm diogelwch bwyd lleol os oes problem gyda gwybodaeth goll neu gamarweiniol. Am unrhyw broblemau eraill gyda’r pwysau neu’r mesuriadau ar labeli bwyd, cysylltwch â Safonau Masnach.