Deall labelu bwyd
Labeli alergenau
Mae 14 o alergenau y mae’n rhaid i fusnesau bwyd eu datgan os ydyn nhw yn eu cynhyrchion bwyd neu ddiod. Yr alergenau hyn yw:
-
seleri
-
grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten – gan gynnwys gwenith, rhyg (‘rye’), haidd (‘barley’) a cheirch
-
cramenogion (‘crustaceans’) – gan gynnwys corgimychiaid, crancod a chimychiaid
-
wyau
-
pysgod
-
bysedd y blaidd (‘lupin’)
-
llaeth
-
molysgiaid – gan gynnwys môr-lewys (‘squid’), cregyn gleision, cocos, cregyn moch (‘whelks’) a malwod
-
mwstard
-
cnau
-
pysgnau
-
hadau sesame
-
ffa soia
-
sylffwr deuocsid neu sylffitau ar lefelau dros 10mg y cilogram neu’r litr
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gall labeli bwyd roi gwybodaeth am alergenau i chi mewn sawl ffordd wahanol. Gall hyn ddibynnu ar y mathau o fwydydd neu ddiodydd rydych chi’n eu prynu ac o ba fathau o fusnesau y maen nhw’n dod.
Dysgwch beth i’w wneud wrth fwyta allan neu archebu bwyd pan fydd gennych alergedd.
Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw
Ystyr bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw yw unrhyw fwydydd neu ddiodydd sy’n cael eu rhoi mewn deunydd pecynnu gan weithgynhyrchwr cyn iddyn nhw gael eu rhoi ar werth gan fusnes bwyd arall. Dyma rai enghreifftiau o gynhyrchion sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw:
-
pecynnau o greision
-
caniau o ddiodydd pop
-
bara wedi’i becynnu
Os yw bwydydd neu ddiodydd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw yn cynnwys unrhyw un o’r 14 o alergenau, mae’n rhaid i’r label ddangos hyn yn glir yn y rhestr gynhwysion. Er enghraifft, gallai’r alergenau fod mewn print trwm, italig neu liw gwahanol.
Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llawn i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)
Ystyr cynhyrchion PPDS yw bwydydd neu ddiodydd sydd wedi’u pecynnu ar y safle lle maen nhw’n cael eu gwerthu cyn i chi eu dewis. Dyma rai enghreifftiau o gynhyrchion PPDS:
-
brechdanau wedi’u pecynnu ar y safle mewn caffi
-
danteithion crwst neu gacennau wedi’u pecynnu ar y safle mewn becws
-
bocsys salad wedi’u pecynnu ymlaen llaw mewn deli
-
byrgyrs wedi’u pecynnu ar y safle mewn siop gig
Mae’n rhaid i’r alergenau gael eu labelu’n glir yn rhestr gynhwysion y bwyd neu ddiod PPDS hefyd. Gallwch ofyn i’r busnes am gynhwysion a dylech sôn wrthyn nhw am eich alergedd neu anoddefiad.
Bwyd rhydd
Mae bwyd rhydd nad yw wedi’i becynnu ymlaen llaw (‘non-prepacked food’) yn cynnwys:
-
bwyd sy’n cael ei werthu’n rhydd mewn siopau manwerthu (er enghraifft, rholiau bara heb eu lapio wrth gownter becws, ffrwythau a llysiau rhydd a salad o gownter hunanwasanaeth)
-
bwyd nad yw’n cael ei werthu wedi’i becynnu ymlaen llaw (er enghraifft, prydau mewn bwytai wedi’u gweini ar blatiau, prydau tecawê a gaiff eu pecynnu ar ôl eu harchebu ac eitemau wedi’u torri a’u lapio ar gais wrth gownteri deli)
Mae’n rhaid i fusnesau bwyd roi gwybodaeth am alergenau i chi ar gyfer unrhyw eitem rhydd rydych chi’n ei brynu sy’n cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen. Gall busnesau roi’r wybodaeth hon ar lafar neu’n ysgrifenedig. Os byddan nhw’n rhoi’r wybodaeth ar lafar, mae’n rhaid iddyn nhw roi gwybod i chi ble gallwch chi ddod o hyd i gadarnhad ysgrifenedig.
Labeli ‘rhydd rhag’
Mae labeli diogelwch bwyd fel ‘rhydd rhag’ neu ‘rhydd rhag alergenau’ yn warant nad yw’r alergen dan sylw yn y cynnyrch. Mae’n rhaid i fusnesau bwyd sy’n creu cynhyrchion bwyd ‘rhydd rhag’ neu ‘rhydd rhag alergenau’ ddilyn prosesau llym i atal croeshalogi.
Os nad yw busnes yn gallu cael gwared ar y risg o groeshalogi, dyai roi gwybod i chi. Ni ddylai wneud unrhyw honiadau ‘rhydd rhag’.
Nid yw labeli figan yn gwarantu bod y bwyd yn rhydd rhag alergen penodol.
Labelu alergenau rhagofalus (PAL)
Gall busnesau ddefnyddio’r broses o labelu alergenau rhagofalus i ddweud wrth gwsmeriaid y gallai olion alergenau fod wedi mynd i mewn i gynhyrchion ar ddamwain. Yn aml, bydd y labeli hyn yn defnyddio geiriad fel “gallai gynnwys llaeth” neu “ddim yn addas i bobl ag alergedd i gnau”.
Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd ddefnyddio’r broses PAL.