Bwyta allan neu archebu bwyd pan fydd gennych alergedd
Yr hyn y mae’n rhaid i fwytai a siopau tecawê ei ddweud wrthych chi am alergenau
Mae 14 alergen y mae’n rhaid i fusnesau roi gwybod i chi amdanynt.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae sut a phryd y mae angen i fusnesau ddweud wrthych chi yn dibynnu a ydych chi’n prynu:
- bwyd mewn bwyty
- bwyd tecawê
- bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS), er enghraifft, brechdanau wedi’u pecynnu
Bwytai
Rhaid i fwytai roi gwybodaeth gywir i chi am alergenau, gan gynnwys a yw bwyd yn cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen y mae’n rhaid i fusnesau roi gwybod i chi amdanynt. Efallai y byddwch chi’n gallu cael yr wybodaeth hon o fwydlen ar-lein cyn i chi fynd.
Gallwch ffonio ymlaen llaw i ofyn:
- a yw’r bwyty’n cynnig prydau sy’n addas i chi
- sut mae’r bwyd yn cael ei drin yn y gegin ac a allai eich bwyd fod wedi’i halogi â rhywbeth y mae gennych alergedd iddo
Gallwch atgoffa staff a gofyn cwestiynau eto pan ewch chi i’r bwyty. Gallwch hefyd ofyn a yw’r cynhwysion mewn pryd o fwyd wedi newid. Gallwch ofyn iddyn nhw goginio rhywbeth gwahanol i chi, ond does dim rhaid iddyn nhw wneud hynny.
Siopau tecawê
Rhaid i fusnesau sy’n gwerthu bwyd tecawê ddweud wrthych chi a oes unrhyw un o’r 14 alergen i’w cael yn eu bwyd. Mae angen iddyn nhw wneud hyn:
- cyn i chi brynu’r bwyd – naill ai’n ysgrifenedig ar wefan neu mewn bwydlen, neu dros y ffôn
- pan fydd y bwyd yn cael ei ddanfon – naill ai’n ysgrifenedig, gan ddefnyddio sticeri ar fwyd neu fwydlen er enghraifft, neu wyneb yn wyneb gan y gyrrwr sy’n dosbarthu’r bwyd. Os ydych chi’n archebu bwyd i sawl person, gallwch ofyn i’r busnes labelu’r cynwysyddion fel eich bod chi’n gwybod pa bryd yw’ch un chi
Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)
Dyma fwyd sy’n cael ei wneud a’i becynnu yn yr un man lle mae’n cael ei werthu, cyn i chi ei brynu. Er enghraifft, brechdanau wedi’u pecynnu neu fyrgyrs wedi’u lapio. Dylai enw’r bwyd fod ar y label ynghyd â rhestr gynhwysion sy’n dangos mewn llythrennau bras unrhyw un o’r 14 alergen y mae’n rhaid i fusnesau ddweud wrthych amdanynt.
Dyma fwy o wybodaeth am fwyd PPDS.