Skip to main content

Tanysgrifio i’r gwasanaeth rhybuddion alergeddau

Gallwch danysgrifio i gael rhybuddion pan fo cynhyrchion bwyd yn cael eu gwerthu heb wybodaeth am alergenau neu â’r wybodaeth anghywir.

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r rhybuddion yn rhad am ddim. Maent yn cael eu hanfon drwy e-bost neu neges destun. Bydd y rhybuddion yn nodi’r cynnyrch dan sylw a beth i’w wneud os ydych chi wedi’i brynu.

Gallwch ddewis cael rhybuddion am bob alergen, neu rybuddion am eich alergedd bwyd chi yn unig.

Tanysgrifio i gael rhybuddion alergeddau