Skip to main content

Bwyta allan neu archebu bwyd pan fydd gennych alergedd

Sgipio cynnwys

Alergenau y mae’n rhaid i fusnesau ddweud wrthych amdanynt

Rhaid i fusnesau ddweud wrthych chi a yw eu bwyd yn cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen hyn:

  • seleri
  • grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten (fel gwenith, rhyg (‘rye’), haidd (‘barley’) a cheirch)
  • cramenogion (fel corgimychiaid, crancod a chimychiaid)
  • wyau
  • pysgod
  • bysedd y blaidd (gan gynnwys hadau bysedd y blaidd a chynhyrchion a wneir ohonynt, fel blawd bysedd y blaidd)
  • llaeth
  • molysgiaid (fel cregyn gleision ac wystrys)
  • mwstard *cnau, yn benodol cnau coed (fel cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashew, cnau pecan, cnau pistachio a chnau macadamia)
  • pysgnau
  • sesame
  • ffa soia
  • sylffwr deuocsid a sylffitau (mewn crynodiad o fwy na deg rhan fesul miliwn)

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os oes gennych chi alergedd i rywbeth arall, gallwch chi ofyn i’r busnes a yw eu bwyd yn ei gynnwys.