Bwyta allan neu archebu bwyd pan fydd gennych alergedd
Os byddwch chi’n cael adwaith alergaidd
Os byddwch chi’n teimlo’n sâl neu’n cael adwaith alergaidd ar ôl bwyta, dylech geisio cymorth meddygol ar unwaith.
Mae gan y GIG wybodaeth am adweithiau alergaidd a sut i’w trin. Os oes gennych chi chwistrellwr adrenalin awtomatig (AAI), cariwch ef gyda chi a’i ddefnyddio os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n cael adwaith alergaidd.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhoi gwybod am adwaith alergaidd
Cysylltwch â’r busnes a werthodd y bwyd i chi a dywedwch wrthyn nhw. Gallwch hefyd roi gwybod am ddigwyddiad diogelwch bwyd i dîm diogelwch bwyd eich cyngor lleol.
Ceisio cefnogaeth
Mae sawl sefydliad a all eich cefnogi i fyw gydag alergedd bwyd, gan gynnwys: