Rhifyn mis Hydref 2025 o Fwletin y Cyflogwr
Cyhoeddwyd 15 Hydref 2025
Rhagarweiniad
Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:
TWE
- Nodyn atgoffa i gyflogwyr am ddulliau cyfrifo Yswiriant Gwladol ar gyfer cyfarwyddwyr
- Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
- Gwneud eich taliadau Cytundeb Setliad TWE
- Dim Angen Ffonio — Dulliau Ar-lein o Gysylltu â CThEF
- Arweiniad i gyflogwyr ar rwymedigaethau adrodd Gwybodaeth Amser Real ar gyfer taliadau a wneir yn gynnar adeg y Nadolig
- Math o Gynllun Benthyciad Myfyriwr newydd — Cynllun 5
- Arweiniad ar gyfer cadwyni cyflenwi llafur sy’n cynnwys cwmnïau ambarél — cyfrifoldebau TWE
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
- Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — Cymorth gyda Phorthladdoedd Rhydd
- Cyfradd Drydanol Gynghorol newydd ar gyfer ceir cwmni sy’n gwbl drydanol
- Spotlight 71 – rhybudd i weithwyr asiantaeth a chontractwyr sy’n cael eu symud rhwng cwmnïau ambarél
- Pryd y dylid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar enillion cyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol neu’n fyd-eang
- Sut i gywiro cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar enillion ar gyfer cyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol neu’n fyd-eang
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
- Dyletswyddau cofrestru awtomatig — cyflogi staff am y tro cyntaf
- Helpu’ch cyflogeion i baratoi ar gyfer ymddeol a chynllunio ar gyfer y dyfodol
- Ymgyrch ‘Help i Brosiectau Pres Poced’ — adnoddau newydd i gyflogeion
- Diweddariad ar adfer Taliadau Tanwydd Gaeaf drwy’r system dreth
- Fframwaith Adrodd Cryptoasedion newydd: Beth sydd angen i gyflogwyr wybod
- Deall gwasanaethau cyfryngol mewn gweinyddiaeth dreth — gwybodaeth newydd i gwsmeriaid
- Nid yw’n rhy hwyr i rieni pobl ifanc fynd ar-lein i ymestyn eu hawliad Budd-dal-Plant
- Rhagor o amser i nifer o rieni gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
- Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr
- Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.
Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.
TWE
Nodyn atgoffa i gyflogwyr am ddulliau cyfrifo Yswiriant Gwladol ar gyfer cyfarwyddwyr
Dylech wirio’r Cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn dreth gan ddefnyddio’r dull cyfnod enillion blynyddol i nodi unrhyw ddiffygion. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddwyr yr ydych wedi cyfrifo eu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan ddefnyddio’r dull amgen drwy gydol y flwyddyn dreth.
Er bod hyn yn berthnasol i bob blwyddyn dreth, mae pryderon penodol lle mae newidiadau mawr yn ystod y flwyddyn i gyfraddau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, er enghraifft, blwyddyn dreth 2022 i 2023. Dylech adolygu’ch cyflwyniadau ar gyfer blynyddoedd treth 2022 i 2023 ac ymlaen i wneud yn siŵr nad oes unrhyw Gyfraniadau Yswiriant Gwladol pellach yn ddyledus. Os byddwch yn nodi unrhyw dandaliadau, rydym yn argymell eich bod yn cywiro’ch hun drwy TWE lle bo modd.
Os na allwch gywiro’ch hun, byddem yn eich annog i wneud datgeliad i CThEF. Os oes gennych Reolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid (CCM) penodedig, rhowch wybod iddo am unrhyw hunangywiriadau neu ddatgeliadau. Os nad oes gennych CCM, gallwch wneud datgeliad gwirfoddol i CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Ym mhob achos, nodwch y cyfeirnod ‘DNIC2025’ mewn unrhyw ddatgeliadau i CThEF. Cyfraddau a throthwyon ar gyfer 2022 i 2023 ar gael.
Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
Ym mis Tachwedd 2025, mae’r dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar ddydd Sadwrn, 22 Tachwedd. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 21 Tachwedd 2025, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os yw’ch taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.
Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn talu TWE cyflogwr.
Gwneud eich taliad Cytundeb Setliad TWE
Mae Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn caniatáu i chi wneud un taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth ac Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.
Os oes gennych PSA ar gyfer 2024 i 2025, mae’n rhaid i unrhyw dreth ac Yswiriant Gwladol glirio i gyfrif CThEF erbyn 22 Hydref 2025 os ydych yn talu’n electronig ac erbyn 19 Hydref 2025 os ydych yn talu drwy’r post. Os daw eich taliad i law’n hwyr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb neu log am dalu’n hwyr.
I dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’r cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE, er enghraifft — XA123456789012, o’r slip cyflog a anfonasom atoch.
Os nad oes gennych slip cyflog, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cyfeirnod a nodwyd yn y llythyr eglurhaol pan gafodd eich PSA ei ffurfioli gyntaf, gelwir hyn yn gyfeirnod SAFE. Gallwch hefyd gael eich cyfeirnod SAFE drwy ffonio’r Ganolfan Cyswllt Cymraeg ar 0300 200 1900.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod cyflwyno, cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE, er enghraifft 123PA12345678, i wneud eich taliad Cytundeb Setliad TWE. Bydd taliadau a ddaw gyda’r cyfeirnodau hyn yn cael eu dyrannu i’ch cyfrif TWE arferol, a byddwch yn parhau i gael nodynnau atgoffa ar gyfer y Cytundeb Setliad TWE er eich bod wedi talu.
Unwaith y byddwch wedi cael eich PSA, mae angen i chi roi gwybod i CThEF faint sydd arnoch bob blwyddyn dreth. Nid oes angen i chi aros nes bod CThEF wedi prosesu’ch cyfrifiad PSA i wneud taliad.
I gael unrhyw ymholiadau am daliadau, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Gymraeg ar gyfer Taliadau ar 0300 200 3860.
Mae rhagor o wybodaeth am Gytundebau Setliad TWE ar gael:
- talu Cytundeb Setliad TWE
- help gyda chyfrifiadau Cytundeb Setliad TWE — GfC1 (yn agor tudalen Saesneg)
Mae rhagor o gymorth i’w gael yn y fideos PSA ar-lein canlynol:
- sut ydw i’n cyflwyno cyfrifiad Cytundeb Setliad TWE ar-lein (yn agor tudalen Saesneg)
- sut ydw i’n talu Cytundeb Setliad TWE (PSA) (yn agor tudalen Saesneg)
Dim angen ffonio — dulliau ar-lein o gysylltu â CThEF
Mae mwy o gwsmeriaid yn defnyddio ein gwasanaethau digidol, sy’n caniatáu iddynt hunanwasanaethu’n gyflym ac yn hawdd.
Sefydlwch eich Cyfrif Treth Busnes i fwrw golwg dros eich sefyllfa dreth a rheoli’ch holl drethi busnes ar-lein. Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’ch cyfrif, gallwch chi hefyd osod eich dewisiadau diogelwch i helpu i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel.
TWE Ar-lein
Ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr ar-lein, bydd CThEF yn anfon llythyr atoch yn awtomatig gyda chod actifadu, sy’n eich galluogi i gofrestru ar gyfer TWE Ar-lein. Mae angen i chi ddefnyddio’r cod i actifadu’ch cyfrif cyn pen 28 diwrnod i’r dyddiad ar y llythyr a gewch gan CThEF.
Fel arall, os na wnaethoch actifadu’ch cyfrif ar-lein mewn pryd neu os gwnaethoch gofrestru fel cyflogwr dros y ffôn neu drwy’r post, gallwch gofrestru ar gyfer TWE Ar-lein.
Gellir diweddaru’ch manylion cyswllt hefyd drwy TWE Ar-lein, rhag ofn y bydd unrhyw beth yn newid.
Gwirio’ch balans a’r hyn sydd arnoch i CThEF
Gan ddefnyddio’ch cyfrif TWE Ar-lein ar gyfer cyflogwyr, gallwch wneud y canlynol:
- gwirio’ch balans a gweld faint sydd arnoch i CThEF
- cael hysbysiadau pwysig am adrodd yn hwyr neu daliadau hwyr
- cael mynediad at godau treth ar gyfer eich cyflogeion
- apelio yn erbyn cosbau
- gwirio hanes eich taliadau, a ddylai ddiweddaru cyn pen 6 diwrnod gwaith i’ch taliad — nid oes angen ffonio CThEF i wirio a yw’ch taliad wedi dod i law
Dulliau ar-lein i hawlio ad-daliadau, ailddyraniadau, a chymorth i gywiro gwallau yn eich bil TWE
Os oes angen i chi hawlio ad-daliad neu ailddyrannu didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu a ddioddefwyd fel isgontractwr cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg) gallwch gyflwyno’ch ceisiadau ar-lein.
Gallwch hefyd hawlio ad-daliad neu ailddyraniad am ordaliad ar eich bil TWE ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol, neu flwyddyn dreth flaenorol, ar-lein yn hawlio ad-daliad os ydych wedi talu gormod i CThEF ar eich bil TWE (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych chi’n credu bod bil TWE eich cyflogwr yn anghywir ac nad ydych wedi gallu ei gywiro na dod o hyd i’r rheswm dros y gwall trwy ddilyn yr arweiniad ar drwsio problemau gyda rhedeg cyflogres, gallwch ofyn i CThEF am help trwy gyflwyno’ch cais ar-lein yn cael help i gywiro bil TWE cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg).
Amserlenni ar gyfer atebion gan CThEF
Gallwch wirio pryd i ddisgwyl ateb gan CThEF ar-lein, heb orfod ffonio. Mae hyn yn darparu’r amserlen ymateb ddisgwyliedig i wneud y canlynol:
- cofrestru fel is-gontractwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu
- hawlio ad-daliad Cynllun y Diwydiant Adeiladu
- cofrestru ar gyfer TWE
- gwneud cais am ad-daliad TWE y Cyflogwr
- gofyn am eich Cyfeirnod TWE — yn cynnwys cyfeirnodau sydd heb ddod i law neu sydd wedi’u colli
Rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru’r offeryn hwn ymhellach i gynnwys mwy o fathau o ymholiadau, fel y byddwch yn gallu gwirio’n hawdd ar-lein pryd i ddisgwyl ateb.
Cymorth Technegol
Mae arweiniad pellach ar gymorth technegol gyda gwasanaethau ar-lein CThEF (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Arweiniad i gyflogwyr ar rwymedigaethau adrodd Gwybodaeth Amser Real ar gyfer taliadau a wneir yn gynnar adeg y Nadolig
Mae angen i rai cyflogwyr dalu eu cyflogeion yn gynharach na’r arfer ym mis Rhagfyr. Gall hyn fod am sawl rheswm, fel busnesau sy’n cau yn ystod cyfnod yr ŵyl ac angen talu gweithwyr yn gynt na’r arfer. Mae hyn er mwyn eich atgoffa o’r hawddfraint barhaol ar adrodd am RTI (Gwybodaeth Amser Real) sy’n berthnasol yn ystod y cyfnod hwn.
Os byddwch yn talu’n gynnar dros gyfnod y Nadolig, mae’n rhaid i chi roi gwybod am eich dyddiad talu arferol neu gontractiol ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS). Er enghraifft, os ydych yn talu ar 19 Rhagfyr ond eich dyddiad talu arferol yw 31 Rhagfyr, rhowch wybod i’r dyddiad talu ar 31 Rhagfyr. Yn yr enghraifft hon, bydd angen anfon y FPS ar neu cyn 31 Rhagfyr.
Bydd gwneud hyn yn helpu i ddiogelu cymhwystra’ch cyflogai ar gyfer budd-daliadau ar sail incwm fel Credyd Cynhwysol, gan y gallai taliad cynnar effeithio ar hawliau nawr ac yn y dyfodol.
Math o Gynllun Benthyciad Myfyriwr Newydd — Cynllun 5
Mae CThEF yn rhoi rhybudd ymlaen llaw i gyflogwyr bod yr Adran Addysg (DfE) wedi cyflwyno Cynllun benthyciadau myfyriwr newydd math 5. Mae ad-daliadau i fod i ddechrau o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
Mae manylion allweddol yn cynnwys y canlynol:
- bydd Cynllun 5 yn cael ei weithredu a’i gasglu yn yr un modd â mathau presennol o gynlluniau 1, 2 a 4
- y cynharaf y bydd ad-daliadau’n dechrau ar gyfer TWE yw 6 Ebrill 2026
- y trothwy blynyddol ar gyfer ad-dalu fydd £25,000
- bydd ad-daliadau’n cael eu gwneud ar 9% ar enillion dros y trothwy o £25,000
- bydd cyflogwyr yn dechrau cael hysbysiadau dechrau benthyciadau myfyriwr o fis Mawrth 2026 ymlaen ar gyfer benthycwyr Cynllun 5 sydd i fod i ddechrau ad-dalu o fis Ebrill 2026 ymlaen
- mae Cynllun 5 ar gyfer y rhai a wnaeth gais i Gyllid Myfyriwr Lloegr a dechrau cyrsiau o fis Awst 2023 ymlaen
Mae datblygwyr meddalwedd yn gweithio ar ddiweddariadau cyflogres a ddisgwylir iddynt fod ar waith erbyn 6 Ebrill 2026. Bydd arweiniad a ffurflenni’n cael eu diweddaru erbyn 6 Ebrill 2026.
Atgoffir cyflogwyr y gallant wneud y canlynol:
- didynnu un math o gynllun yn unig ar y tro, Cynllun 1, Cynllun 2, Cynllun 4 neu, o fis Ebrill 2026 ymlaen, Cynllun 5
- didynnu’r benthyciad ôl-raddedig ar yr un pryd ag un math o gynllun benthyciad myfyriwr — Cynllun 1, Cynllun 2, Cynllun 4 neu Gynllun 5
Mae gwybodaeth gyffredinol ar arweiniad ynghylch ad-dalu benthyciadau myfyriwr a benthyciadau ôl-raddedig i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Arweiniad ar gyfer cadwyni cyflenwi llafur sy’n cynnwys cwmnïau ambarél — cyfrifoldebau TWE
Mae CThEF wedi cyhoeddi arweiniad ar reolau TWE ar gyfer cadwyni cyflenwi llafur sy’n cynnwys cwmnïau ambarél (yn agor tudalen Saesneg), mewn ymateb i geisiadau gan randdeiliaid i ddarparu gwybodaeth gynnar am sut y bydd y rheolau’n gweithio. Bydd yr arweiniad hwn yn cael eu diweddaru os bydd unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd asiantaethau recriwtio, neu yn eu habsenoldeb cleientiaid terfynol, yn agored i TWE ar daliadau i weithwyr a gyflenwir drwy gwmnïau ambarél.
Mae’r arweiniad yn darparu gwybodaeth fanwl am y newidiadau sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio ym marchnad y cwmnïau ambarél. Gall asiantaethau a phartïon eraill mewn cadwyni cyflenwi llafur hefyd gofrestru ar gyfer un o weminarau manwl CThEF (yn agor tudalen Saesneg) ar 21 Hydref 2025 neu 17 Tachwedd 2025, er mwyn deall gofynion gweithredu a sicrhau parodrwydd i gydymffurfio.
Mae’r Llawlyfr Statws Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnwys y ESM2400 - deddfwriaeth cwmnïau ambarél: Pennod 11 ITEPA 2003 (yn agor tudalen Saesneg) hefyd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — Cymorth gyda Phorthladdoedd Rhydd
Yn ddiweddar, mae CThEF wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio newydd — Help gyda Phorthladdoedd Rhydd — GfC14 (yn agor tudalen Saesneg).
Mae Porthladdoedd Rhydd, a elwir yn borthladdoedd rhydd Gwyrdd yn yr Alban, yn ardaloedd arbennig wrth ffiniau’r DU lle mae rheoliadau economaidd gwahanol ar waith. Maent yn cynnig amrywiaeth o ryddhadau treth i fusnesau, gan gynnwys arbedion ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol, Treth Dir y Tollau Stamp, a lwfansau cyfalaf ar gyfer buddsoddiadau cymwys. Maent hefyd yn darparu mynediad at weithdrefnau tollau symlach a buddiol, megis gohirio tollau a phrosesau mewnforio ac allforio symlach.
Mae’r arweiniad hwn yn bennaf ar gyfer cwsmeriaid sydd â safle busnes mewn Porthladd Rhydd neu sy’n ystyried gwneud busnes o fewn Porthladd Rhydd. Fodd bynnag, byddant hefyd yn ddefnyddiol i gyrff llywodraethu Porthladdoedd Rhydd, gweithredwyr safleoedd tollau a chyrff proffesiynol sy’n cynghori cleientiaid ar Borthladdoedd Rhydd.
Maent yn rhoi cymorth ymarferol drwy wneud y canlynol:
- egluro’r rhyddhadau a’r buddion sydd ar gael o fewn Porthladdoedd Rhydd
- tynnu sylw at feysydd lle mae CThEF yn nodi gwallau
- annog cydymffurfiaeth drwy egluro meysydd o ansicrwydd
- helpu cwsmeriaid i leihau’r risg o hawlio rhyddhad neu fuddion yn anghywir
- cynghori ar ba gofnodion a thystiolaeth y dylid eu cadw
- egluro beth i’w wneud os gwneir camgymeriad
Mae Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (GfC) yn rhan o ymrwymiad parhaus CThEF i gyhoeddi cymorth ymarferol i gwsmeriaid. Mae arweiniad wedi’u cynllunio i ategu arweiniad presennol CThEF drwy egluro ein safbwynt mewn meysydd cymhleth, sydd wedi’u camddeall yn eang, neu sy’n newydd o’r rheolau treth.
Mae rhagor o wybodaeth ar GfC, gan gynnwys ein cyhoeddiadau eraill, ar gael ar Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfradd Drydanol Gynghorol Newydd ar gyfer ceir cwmni sy’n gwbl drydanol
Mae Cyfraddau Tanwydd Ymgynghorol (AFR) wedi’u cynllunio i symleiddio gweinyddiaeth i gyflogwyr a gyrwyr ceir cwmni. Wedi’u diweddaru’n chwarterol, mae’r cyfraddau hyn yn cynorthwyo cyflogwyr i ad-dalu cyflogeion am gostau tanwydd a achosir yn ystod teithio busnes mewn ceir cwmni. Gall cyflogeion hefyd ddefnyddio’r cyfraddau hyn i ad-dalu eu cyflogwr am gost unrhyw ddefnydd tanwydd preifat.
Mae arweiniad ar Gyfraddau Tanwydd Ymgynghorol (yn agor tudalen Saesneg) bellach yn cynnwys Cyfradd Drydanol Gynghorol (AER) newydd ar gyfer ceir cwmni sy’n gwbl drydanol sy’n cael eu gwefru mewn pwyntiau gwefru cyhoeddus — gwefrwyr araf neu gyflym o dan 50 cilowat. Os yw cost y filltir ar gyfer gwefrydd cyhoeddus yn fwy na’r AER, gall cyflogwyr neu gyflogeion ddefnyddio cyfradd uwch, ar yr amod y gallant ddangos bod y gost y filltir yn uwch.
Ar gyfer teithiau lle mae car cwmni’n cael ei wefru mewn lleoliadau cyhoeddus a phreswyl, gallwch rannu’r milltiroedd i adlewyrchu cyfran y gwefru ym mhob lleoliad. Dylid cynnal unrhyw ddosraniad ar sail gyfiawn a rhesymol.
Spotlight 71 – rhybudd i weithwyr asiantaeth a chontractwyr sy’n cael eu symud rhwng cwmnïau ambarél
Mae rhai cwmnïau ambarél yn annog gweithwyr asiantaeth a chontractwyr i ddefnyddio cynlluniau arbed treth. Nid yw’r cynlluniau hyn yn dilyn rheolau treth y DU. Maent yn aml yn symud gweithwyr rhwng gwahanol gwmnïau ambarél i guddio’r arbed treth rhag CThEF.
Mae CThEF wedi cyhoeddi Spotlight 71 (yn agor tudalen Saesneg) i helpu’r rhai sy’n gweithio drwy gwmnïau ambarél i adnabod arwyddion arbed treth, yn enwedig y rhai sy’n cael eu symud heb yn wybod rhwng cwmnïau ambarél.
Mae Spotlight 71 yn darparu gwybodaeth am rai o arwyddion arbed treth a ble y dylech edrych i’w hadnabod. Mae’r spotlight hefyd yn rhoi enghreifftiau o’r hyn y gallech gael ei ddweud gan y rhai sy’n gweithredu cynlluniau arbed treth wrth gysylltu â nhw ynglŷn ag arbed posibl.
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi neu’ch gweithwyr fod yn rhan o’r math hwn o drefniant, gall CThEF eich helpu i ddod allan. Mae CThEF yn cynnig amrywiaeth o gymorth i helpu pobl i wneud pethau’n iawn neu osgoi cael eu dal wrthi yn y lle cyntaf. Cysylltwch â CThEF am help i gael allan o gynllun arbed (yn agor tudalen Saesneg) os oes gennych unrhyw bryderon.
Gallwch roi gwybod am dwyll treth a threfniadau arbed treth, cynlluniau a’r person sy’n eu cynnig i chi i CThEF drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am dwyll treth.
Pryd y dylid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar enillion cyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol neu’n fyd-eang
Mae CThEF wedi ychwanegu mwy o wybodaeth at arweiniad i helpu cyflogwyr i benderfynu pryd mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ddyledus ar enillion a thaliadau a delir i gyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol.
Gall cyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol:
- byw yn y DU ond gweithio dramor
- dod o dramor am gyfnodau o waith yn y DU
- bod yn breswylwyr yn y DU neu dramor sy’n symud i mewn ac allan o’r DU i weithio
- gweithio mewn sawl gwlad a chael cyflogwr wedi’i leoli dramor
Er bod enillion fel arfer yn cael eu talu ar yr adeg y mae’r gwaith yn cael ei wneud, gall cyflogeion cael taliadau diweddarach, fel bonysau, ar ôl iddynt gael eu hennill. Er enghraifft, ar ôl gadael swydd mewn un wlad a dychwelyd adref neu gymryd rôl arall mewn gwlad wahanol.
Mae’r arweiniad wedi’i ddiweddaru yn cadarnhau, os oedd y cyflogai’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar yr adeg y gwnaed y gwaith, y byddant yn parhau i fod yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn perthynas â’r enillion hynny, hyd yn oed os ydynt yn cael eu talu’n ddiweddarach.
Yn gyntaf, dylai cyflogwyr benderfynu a oedd eu cyflogai’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar yr adeg y gwnaed y gwaith. Gallwch wirio sut i gyfrifo Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogeion sy’n gweithio dramor (yn agor tudalen Saesneg) a chyflogeion newydd sy’n dod i weithio o dramor (yn agor tudalen Saesneg), neu gyfeirio at enghreifftiau yn y Llawlyfr Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) (NIM).
Os oedd eich cyflogai’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar yr adeg y gwnaed y gwaith, dylai cyflogwyr gyfrifo a didynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol o’r enillion, hyd yn oed os ydynt yn cael eu talu’n ddiweddarach pan fydd y cyflogai wedi mynd dramor.
Os nad oedd y cyflogai’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar yr adeg y gwnaed y gwaith, ni fydd unrhyw rwymedigaeth i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan delir yr enillion.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio’ch meddalwedd cyflogres i gyfrifo’r swm i’w ystyried wrth gyfrifo a didynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Os na allwch ddefnyddio’ch meddalwedd cyflogres:
-
mae arweiniad pellach ac enghreifftiau o gyfrifiadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol ar y dudalen ‘Enillion ar gyfer cyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol’ yn adran NIM33000 o’r Llawlyfr Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg)
-
mae arweiniad wedi’i ddiweddaru ar sut i gyfrifo Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogeion sy’n gweithio dramor (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnwys gwybodaeth am gadarnhau a ydynt yn agored a manylion am wledydd penodol
-
dysgwch sut i gyfrifo a gwneud didyniadau TWE ar gyfer cyflogeion sy’n dod i weithio yn y DU o dramor (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys gwahaniaethau penodol i wledydd
Darllenwch ragor am sut i gywiro cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar enillion ar gyfer cyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol neu’n fyd-eang yn yr erthygl ganlynol.
CWG2: mae arweiniad pellach i gyflogwyr ar TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnwys arweiniad technegol pellach ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol gan gynnwys cyflogeion sy’n dod i’r DU neu’n gadael.
Sut i gywiro cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar enillion ar gyfer cyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol neu’n fyd-eang
Lle mae cyflogwyr wedi ystyried yr arweiniad wedi’i ddiweddaru yn yr erthygl flaenorol i gyfrifo taliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol, mae’n bosibl y byddant bellach yn canfod eu bod wedi talu gormod neu dandalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Sut i gywiro Ffurflenni Treth cyflogwr lle mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u gor-dalu neu eu tan-dalu
Lle mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogeion sy’n symud yn rhyngwladol wedi’u gor-dalu neu eu tan-dalu, dylai cyflogwyr wneud cywiriadau trwy Wybodaeth Amser Real (RTI) sy’n mynd yn ôl 6 blynedd. Mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau bod tystiolaeth berthnasol yn cael ei chadw i gefnogi unrhyw ddiwygiad, gan gynnwys:
- cofnod o’r cyflogeion, gyda’u rhifau Yswiriant Gwladol
- cyfanswm y swm a disgrifiad o’r enillion perthnasol a swm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd eisoes wedi’u talu arno
- pryd y talwyd yr enillion perthnasol a’r cyfnod y cawsant eu hennill
- swm yr enillion perthnasol a ystyrir bellach yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol
- swm cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogai a’r cyflogwyr a ystyrir bellach yn gywir
- swm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd bellach yn ddyledus i’w talu neu i’w had-dalu
- esboniad o’r hyn a achosodd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol gael eu gor-dalu neu eu tan-dalu
Mae Datrys problemau gyda rhedeg cyflogres: gwnaethoch dalu’r swm anghywir i’ch cyflogai neu gwnaethoch ddidyniadau anghywir yn rhoi arweiniad ar sut i gywiro’ch Ffurflen Dreth drwy Gyflwyniad Taliadau Llawn a sut i wneud hawliad am ad-daliad pan fydd cyflogwyr wedi gordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn methu â diwygio eu ffurflenni RTI.
Os ydych yn gwneud hawliad, yn ogystal â’r dystiolaeth sydd ei hangen ar sut i gywiro Ffurflenni Treth cyflogwyr lle mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u gor-dalu neu eu tan-dalu, mae angen i chi hefyd:
- defnyddio’r cyfeirnod ‘Ad-daliad CYG ar gyfer Cyflogeion sy’n Symud yn Rhyngwladol’
- rhoi’r rheswm pam na allwch wneud y diwygiad drwy RTI
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i wneud datgeliad gwirfoddol i CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Yn eich llythyr datgelu defnyddiwch y cyfeirnod ‘Datgeliad CYG ar gyfer Cyflogeion sy’n Symud yn Rhyngwladol’.
Dylai busnesau mawr sydd â Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid (CCM) CThEF eu hysbysu am unrhyw gywiriadau RTI, a chyn gwneud unrhyw hawliadau ar gyfer ad-daliad. Dylid anfon datgeliadau gwirfoddol a wneir gan gwsmeriaid busnes mawr yn uniongyrchol i CThEF yn unol â’r broses bresennol.
Beth i’w ddweud wrth eich cyflogeion sy’n dymuno hawlio ad-daliad lle mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u gor-dalu
Pan fydd cyflogeion yn credu eu bod yn ddyledus i ad-daliad, mae’n rhaid iddynt gysylltu â’u cyflogwr yn gyntaf. Os gwnaethoch chi fel cyflogwr ddiwygiad RTI, dylech ad-dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi’u gordalu ac sy’n ddyledus i’r cyflogai. Os nad ydych wedi cyflwyno diwygiad RTI nac wedi gwneud cais am ad-daliad, bydd yn rhaid i’ch cyflogai ddarparu’r wybodaeth ganlynol i CThEF yn seiliedig ar yr holl gyfnodau cyflog yr effeithir arnynt:
- rhif Yswiriant Gwladol
- disgrifiad o’r enillion perthnasol
- pryd y talwyd yr enillion perthnasol a’r cyfnod y cawsant eu hennill
- cyfeirio at y ffaith mai achos cyflogai sy’n symud yn rhyngwladol yw hwn lle cafodd cyfraniadau Yswiriant Gwladol eu gordalu, er enghraifft, ar yr adeg y gwneir y gwaith nid oeddent yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol
- y Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1 sy’n cael eu hadennill
- y rheswm pam nad yw eu cyflogwr yn gwneud cais am yr ad-daliad ar ei ran
Bydd proses arferol CThEF ar gyfer hawlio ad-daliadau Yswiriant Gwladol yn berthnasol.
Mae CThEF yn ymwybodol bod y broses ad-dalu’n hir ac yn gymhleth ar hyn o bryd ac maent yn gweithio ar ddatrysiad digidol i’w wella. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol.
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Dyletswyddau cofrestru awtomatig — cyflogi staff am y tro cyntaf
Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau wedi adnewyddu ei amserlen dyletswyddau i gyflogwyr wedi’i theilwra. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall eich dyletswyddau cofrestru awtomatig, beth sydd angen i chi ei wneud a phryd.
Mae dyletswyddau cyfreithiol cyflogwyr yn dechrau ar y diwrnod y mae’ch aelod cyntaf o staff yn dechrau gweithio. Gelwir hyn yn ddyddiad cychwyn eich dyletswyddau. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl na fydd angen i chi gynnwys staff mewn cynllun pensiwn gweithle, bydd gennych ddyletswyddau o hyd.
Mae cofrestru awtomatig yn ddyletswydd gyfreithiol ar gyflogwr ac os na fyddwch yn gweithredu mewn pryd, gallech gael dirwy.
I gyfrifo’ch dyletswyddau cyfreithiol cofrestru awtomatig fel cyflogwr newydd, dechreuwch drwy ateb cwpl o gwestiynau ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.
Helpu’ch cyflogeion i baratoi ar gyfer ymddeol a chynllunio ar gyfer y dyfodol
Gallwch roi cymorth i’ch cyflogeion wrth gynllunio ymddeoliad a chyllid eich cyflogeion gyda’r ap CThEF.
Gall eich cyflogeion ddefnyddio’r ap i wneud y canlynol:
- cael at eu rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
- bwrw golwg dros eu hoedran pensiwn rhagamcanedig
- gwneud taliadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol os bydd yn cynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth
Mae ap CThEF yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho ac mae’n rhoi mynediad drwy’r dydd bob dydd i’ch cyflogeion i’w gwybodaeth am eu pensiwn. Mae CThEF hefyd wedi lansio arweiniad i helpu i wirio a oes rhaid i chi dalu treth ar eich pensiwn (yn agor tudalen Saesneg). Ystyriwch argymell ap ac offeryn gwirio CThEF i roi pŵer cynllunio pensiwn yn nwylo’ch cyflogeion.
Ymgyrch ‘Help i Brosiectau Pres Poced’ – adnoddau newydd i gyflogeion
Mae ymgyrch ‘Help i Brosiectau Pres Poced’ (yn agor tudalen Saesneg) CThEF yn helpu’r rhai sydd â phrosiectau pres poced i gael eu treth yn gywir.
Ers mis Chwefror 2025, mae’r ymgyrch wedi rhoi cymorth i‘r rhai sy’n ennill incwm ychwanegol, y tu allan i’w swydd ddyddiol, i gael eu treth yn gywir. Boed yn creu cynnwys digidol, gwerthu dillad ar-lein, neu diwtora, mae prosiectau pres poced yn dod yn rhan gynyddol bwysig o economi Prydain, gan gyfrannu at greu swyddi a thwf economaidd.
Mae ymgyrch help i brosiectau pres poced yn esbonio’r camau y mae angen i bobl â phrosiectau pres poced eu cymryd i gyflawni eu rhwymedigaethau treth wrth ennill incwm ychwanegol, gan eu helpu i osgoi unrhyw syrpreisys treth.
Rydym yn gofyn i gyflogwyr ddefnyddio ‘adnoddau ymgyrch CThEF’ (yn agor tudalen Saesneg) mewn negeseuon mewnol i ddarparu gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i gyflogeion, yn enwedig os oes ganddynt brosiectau pres poced.
Diweddariad ar adfer Taliadau Tanwydd Gaeaf drwy’r system dreth
O aeaf 2025 ymlaen, bydd y meini prawf cymhwystra ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a’r Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn yn yr Alban, yn cael eu hehangu fel bod mwy o bensiynwyr yn gymwys.
Os oes gan unigolyn gyfanswm incwm o dros £35,000, bydd CThEF yn adennill taliadau gaeaf drwy’r system dreth. Bydd tâl treth incwm yn berthnasol sy’n hafal i werth llawn y taliad sy’n dod i law. Bydd y tâl treth yn berthnasol ym mhob rhan o’r DU.
Ar gyfer cwsmeriaid TWE, bydd CThEF yn casglu’r taliad yn awtomatig trwy newid cod treth y cwsmer, oni bai eu bod eisoes yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Bydd newid y cod treth yn golygu y bydd eu taliad gaeaf yn cael ei ddidynnu o’u hincwm a’i dalu i CThEF mewn rhandaliadau misol ar draws blwyddyn dreth 2026 i 2027, gan ddechrau o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Ar gyfer cwsmeriaid Hunanasesiad, nid oes angen i neb gynnwys eu taliad yn Ffurflen Dreth eleni. Os byddant yn llenwi Ffurflen Dreth ar-lein bob blwyddyn, lle bo modd, bydd CThEF yn cynnwys y taliad yn awtomatig ar eu Ffurflen Dreth 2025 i 2026, sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2027. Dylai cwsmeriaid wirio bod eu taliad tanwydd y gaeaf ar eu Ffurflen Dreth ar-lein a’i gynnwys eu hunain os nad yw. Os ydynt yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad bapur, bydd angen iddynt gynnwys y taliad ar eu Ffurflen Dreth 2025 i 2026, sy’n ddyledus erbyn 31 Hydref 2026. Nid oes angen i neb gofrestru ar gyfer Hunanasesiad oherwydd y taliadau gaeaf.
Mae arweiniad pellach ar gael ar Taliadau Tanwydd Gaeaf, Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn (yn agor tudalen Saesneg) a deall treth a’ch pensiwn (yn agor tudalen Saesneg).
Mae CThEF hefyd wedi darparu cyfrifiannell i helpu cwsmeriaid i wirio a fydd eu hincwm dros £35,000 (yn agor tudalen Saesneg)
Fframwaith Adrodd Cryptoasedion Newydd — beth sydd angen i gyflogwyr wybod
O 1 Ionawr 2026 ymlaen, bydd y DU yn cyflwyno’r Fframwaith Adrodd Cryptoasedion (yn agor tudalen Saesneg).
Darparwyr Gwasanaeth Adrodd Cryptoasedion
Os yw’ch busnes yn cyfnewid cryptoasedion ar ran cwsmeriaid neu’n darparu modd i gwsmeriaid gyfnewid cryptoasedion, byddwch yn cael eich dosbarthu fel Darparwr Gwasanaeth Adrodd Cryptoasedion ac mae’n bosibl y bydd angen i chi wirio a fydd angen i chi adrodd data cryptoasedion i CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn yn cynnwys cyfnewidfeydd, broceriaid a deliwr cryptoasedion.
O fis Ionawr 2026 ymlaen, bydd angen i chi gasglu data manwl sy’n berthnasol i gwsmeriaid a threthi, gan gynnwys:
- enwau
- cyfeiriadau
- rhifau adnabod treth ar gyfer pob defnyddiwr
- data trafodion crypto
Mae’n rhaid i chi gofrestru gyda gwasanaeth ar-lein CThEF erbyn 31 Ionawr 2027 a chyflwyno’ch adroddiad cyntaf erbyn 31 Mai 2027. Mae dirwyon o hyd at £300 fesul defnyddiwr yn berthnasol am ddiffyg cydymffurfio, adrodd yn hwyr, neu ddata anghywir.
Defnyddwyr gwasanaeth cryptoasedion yn y DU
Rydym hefyd wedi cyhoeddi arweiniad ar yr wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi i ddarparwyr gwasanaethau cryptoasedion y DU (yn agor tudalen Saesneg) os ydych chi’n ddefnyddiwr gwasanaeth cryptoasedion y DU. Mae’r wybodaeth a roddwch yn golygu y byddwn yn gallu cysylltu’ch gweithgarwch cryptoasedion â’ch cofnod treth. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i ni ddarganfod pa dreth sydd angen i chi ei thalu.
Paratoi ar gyfer Fframwaith Adrodd Cryptoasedion
Mae’r fframwaith newydd yn cynyddu tryloywder data mewn cryptoasedion a bydd yn hyrwyddo gallu CThEF i fynd i’r afael â’r bwlch treth. Mae arweiniad pellach ar gael ar adrodd i CThEF os ydych yn darparu gwasanaethau cryptoasedion yn y DU (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys gwybodaeth am ofynion casglu data, gweithdrefnau adrodd, a rhwymedigaethau defnyddwyr.
Deall gwasanaethau cyfryngol mewn gweinyddiaeth dreth — arweiniad newydd i gwsmeriaid
Mae CThEF wedi cyhoeddi gwybodaeth newydd i gwsmeriaid am gyfryngwyr yn y system dreth, gan gydnabod y rôl hanfodol y mae cyflogwyr a chyfryngwyr eraill yn ei chwarae wrth fynd i’r afael ag arferion a allai fod yn niweidiol gan leiafrif.
Mae deall ymgynghorwyr treth a chydnabod arferion a allai fod yn niweidiol yn darparu adnoddau ar:
- dewis cynrychiolaeth
- deall cyfrifoldebau trethdalwyr
- adrodd am ymddygiad camfanteisiol
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i gyflogwyr sy’n rheoli TWE ar ran cyflogeion, yn ogystal ag adnoddau ar gyfer cyflogeion a all ddefnyddio cwmnïau ambarél trwy asiantaethau cyflogaeth.
Nod CThEF yw cynnal safonau uchel mewn gweinyddu treth drwy helpu cwsmeriaid i ddeall beth yw gwasanaeth da ac annog dewisiadau gwybodus wrth ddewis cynrychiolaeth.
Nid yw’n rhy hwyr i rieni pobl ifanc fynd ar-lein i ymestyn eu hawliad Budd-dal-Plant
Os yw Budd-dal Plant wedi dod i ben i’ch cyflogeion, nid yw’n rhy hwyr i rieni fynd ar-lein neu ar ap CThEF i ymestyn eu Hawliad Budd-dal Plant a chadarnhau a yw eu plant yn aros mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn.
Os oes gennych gyflogeion sydd â phlant rhwng 16 a 19 oed, gallant hawlio hyd at £1,354 y flwyddyn mewn Budd-dal Plant os ydynt yn gymwys. Gallwch helpu’ch cyflogeion i gael y taliadau y maen nhw’n gymwys i’w cael drwy eu hatgoffa i ymestyn eu hawliad am Fudd-dal Plant ar-lein neu drwy ap CThEF. Unwaith y bydd eu manylion wedi’u diweddaru, bydd unrhyw daliadau sy’n ddyledus yn cael eu hôl-ddyddio.
Mae’r llythyr y byddant wedi’i gael yn cynnwys cod QR defnyddiol sy’n mynd â nhw’n syth i’r gwasanaeth digidol o fewn arweiniad Budd-dal Plant pan fydd eich plentyn yn troi’n 16 oed (yn agor tudalen Saesneg). Yn yr arweiniad gallant hefyd wirio cymhwystra, neu gallant chwilio am ’ymestyn Budd-dal Plant’ a mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein.
Os yw eich cyflogeion neu eu partneriaid wedi dewis peidio â chael taliadau Budd-dal Plant oherwydd eu hincwm, mae angen iddynt ymestyn eu hawliad o hyd. Mae rhieni sydd ag incwm net wedi’i addasu unigol o £60,000 neu fwy yn agored i’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Dylech annog eich cyflogeion i ddefnyddio’r ar-lein cyfrifiannell treth Budd-dal Plant i gael amcangyfrif o faint o fudd-dal y byddant yn ei gael, a beth allai’r tâl fod. Mae’n bosibl y bydd hi’n werth iddynt nawr ddewis ailymuno â thaliadau neu wneud hawliad os nad ydynt wedi gwneud hynny o’r blaen. Mae’n gyflym ac yn hawdd i’w wneud drwy ap CThEF neu ar-lein.
Rhagor o amser i nifer o rieni gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
Os oes gennych ddechreuwyr newydd neu gyflogeion sy’n dychwelyd o absenoldeb ar y cyd i rieni ac sy’n dymuno cofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mae ganddynt ragor o amser i wneud cais nawr.
Mae newidiadau newydd a gyflwynwyd ar 15 Medi 2025 yn golygu y gall y rhai sy’n dechrau swydd newydd neu’n dychwelyd i’r gwaith yn dilyn absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhieni ar y cyd neu fabwysiadu buddio o wythnosau o gymhwystra ychwanegol a chyd-fynd â’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim i Rieni sy’n Gweithio.
Yn flaenorol, roedd angen i rieni aros hyd at 31 diwrnod cyn iddynt ddechrau gweithio, ond nawr mae cyfnodau perthnasol hirach, gan ddarparu cymorth mwy hyblyg i rieni.
Y rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith:
-
rhwng 1 Hydref 2025 a 31 Ionawr 2026 gall wneud cais o 1 Medi 2025 i 31 Rhagfyr 2025
-
rhwng 1 Chwefror 2026 a 30 Ebrill 2026 gall wneud cais o 1 Ionawr 2026 i 31 Mawrth 2026
-
rhwng 1 Mai 2026 a 30 Medi 2026 gall wneud cais o 1 Ebrill 2026 i 31 Awst 2026
Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr
Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:
- nam ar eu golwg
- anawsterau echddygol
- anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
- trymder clyw neu nam ar eu clyw
Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):
- argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
- dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
- i gadw’r ddogfen fel PDF:
- dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
- ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF
Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).
Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy e-bostio GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.