Bwletin y Cyflogwr: Hydref 2025
Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Hydref o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- Gwneud eich taliadau Cytundeb Setliad TWE
- Arweiniad ar gyfer cadwyni cyflenwi llafur sy’n cynnwys cwmnïau ambarél — cyfrifoldebau TWE
- Cyfradd Drydanol Gynghorol newydd ar gyfer ceir cwmni sy’n gwbl drydanol
- Spotlight 71 – rhybudd i weithwyr asiantaeth a chontractwyr sy’n cael eu symud rhwng cwmnïau ambarél
- Ymgyrch ‘Help i Brosiectau Pres Poced’ — adnoddau newydd i gyflogeion
- diweddariad ar adfer Taliadau Tanwydd Gaeaf drwy’r system dreth
Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.
Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.