Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 31: rhyddhau arwystlon

Diweddarwyd 18 September 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn trafod:

  • rhyddhau arwystlon cyfreithiol cofrestredig
  • gollwng rhan o ystad gofrestredig mewn teitl cofrestredig o arwystl cofrestredig
  • rhyddhau arwystlon a nodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925 a Deddf Cofrestru Tir 2002
  • tynnu rhybuddion adneuo tystysgrifau tir ac arwystl yn ôl
  • cwblhad cynnar ceisiadau lle nad yw tystiolaeth o ryddhau wedi ei chyflwyno
  • rhyddhau is-arwystlon

Mae’n cwmpasu rhyddhau ar ffurf papur a thrwy ddull electronig. Rhaid rhyddhau a gollwng arwystlon cofrestredig yn unol â rheolau 114 ac 115 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae Rheol 114 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn amodi bod yn rhaid i ryddhad arwystl cofrestredig, yn ddarostyngedig i reol 115, fod ar ffurflen DS1, a bod yn rhaid i ollwng rhan o’r ystad gofrestredig o arwystl cofrestredig fod ar ffurflen DS3. Mae rheol 115 o Reolau Cofrestru Tir 3003 yn caniatáu hysbysiad rhyddhau neu ollwng rhan o arwystl cofrestredig a anfonwyd ar ffurf electronig.

Sylwch nad oes arwyddocâd cyfreithiol i dystysgrifau arwystl o dan Ddeddf Cwmnïau 2002. Rhaid i chi beidio eu cyflwyno i gofrestru rhyddhau ar ôl 12 Hydref 2003. Os gwnewch hynny, gallwn eu dinistrio ynghyd â’u cynnwys.

2. Rhyddhau a gollwng arwystlon cofrestredig

2.1 Cyffredinol: ffurflen DS1 a ffurflen DS3

Mae rhan hon y cyfarwyddyd yn cwmpasu rhyddhau trwy ffurflenni. Sylwch na fyddwn yn derbyn ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 os yw’n cael ei hanfon trwy’r ffacs.

Ni fyddwn yn derbyn unrhyw newid i ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 os nad oes darpariaeth ar ei gyfer yn Rheolau Cofrestru Tir 2003. Yn arbennig, ni ddylid newid y naill ffurflen na’r llall os oes arian yn dal heb ei dalu o dan yr arwystl fel dyled bersonol y cymerwr benthyg.

Os gwneir cais gan ddefnyddio ffurflen DS1, dylid ei anfon trwy’r post, neu trwy ein sianeli ar-lein ar gyfer trafodion: y porthol neu Business Gateway. Gall ceisiadau a wneir gan ddefnyddio ffurflen bapur DS1 gymryd mwy o amser i’w cwblhau oherwydd y gwiriadau ychwanegol a wnawn fel rhan o’n prosesau a’n systemau gwrth-dwyll.

Rhaid gwneud cais i gofrestru rhyddhau ar ffurflen DS1 ar ffurflen AP1 neu ffurflen DS2, a rhaid gwneud cais i gofrestru gollyngiad ar ffurflen DS3 ar ffurflen AP1.

Nid oes angen tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer atwrnai sy’n llofnodi ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 ar ran y rhoddwr benthyg.

Bydd angen ffurflen tystiolaeth hunaniaeth ID1 neu ffurflen ID2 ar gyfer y rhoddwr benthyg oni bai bod y rhoddwr benthyg yn fanc neu’n gymdeithas adeiladu yn y DU sy’n anfon y cais atom ei hunan, neu sy’n cael ei gynrychioli gan drawsgludwr neu gall yr unigolyn sy’n cyflwyno’r cais gadarnhau ei hunaniaeth.

Nid oes angen tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer atwrnai sy’n llofnodi ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 ar ran y rhoddwr benthyg.

Bydd angen ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 ar gyfer yr unigolyn sy’n cyflwyno’r cais hefyd, os nad yw’n drawsgludwr. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

2.2 Unig gais i ryddhau

Lle mai cais i ryddhau arwystl cofrestredig yw’r unig gais, ni ddylid ei gyflwyno gyda Chofrestrfa Tir EF cyn y ffurflen DS1. Mae’n bosibl y caiff ceisiadau a gyflwynir yn fynych heb y DS1 angenrheidiol eu gwrthod o dan reol 16(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel pe baent yn sylweddol ddiffygiol.

2.3 Mae’r ffurflen AP1 yn cynnwys ceisiadau eraill

Os gwneir cais i ryddhau arwystl cofrestredig o dan ffurflen AP1 sydd hefyd yn berthnasol i geisiadau eraill ond heb y ffurflen DS1, byddwn yn gwrthod y cais i ryddhau ar y sail ei fod yn sylweddol ddiffygiol o dan reol 16(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003 ac yn cwblhau’r ceisiadau eraill cyhyd ag sy’n bosibl. ‘Cwblhad cynnar’ yw’r enw ar hyn, gan mai ei fwriad yw galluogi i geisiadau eraill gael eu cwblhau ar yr adeg gynharaf bosibl. Pan fo’r cais yn cael ei gwblhau, byddwn yn rhoi gwybod i’r trawsgludwr a gyflwynodd y cais fod y cais i gofrestru’r rhyddhad wedi ei wrthod a bod y cofnodion yn ymwneud â’r arwystl yn aros yn y gofrestr. O dan reol 16(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwn wrthod cais ar ôl ei dderbyn neu ei ddileu ar unrhyw adeg wedi hynny lle bo’n ymddangos yn sylweddol ddiffygiol i ni. Yn y cyfarwyddyd hwn, rydym yn defnyddio’r term ‘gwrthod’ ar gyfer pob achos lle bo rheol 16(3) yn gymwys.

Yn y sefyllfa hon, os yw unrhyw ymholiadau’n codi o ran y ceisiadau eraill, byddwn yn cynnwys nodyn atgoffa nad oes tystiolaeth o ryddhau’r arwystl wedi ei chyflwyno. Os cydymffurfir â’r ymholiadau’n ymwneud â’r ceisiadau eraill ond nid yw’r ffurflen DS1 wedi ei chyflwyno o hyd, byddwn yn cwblhau cofrestriad y ceisiadau eraill ac yn gwrthod y cais i ryddhau. Ar ôl cydymffurfio â’r ymholiadau eraill, ni fyddwn yn estyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno’r ffurflen DS1 ymhellach.

Yn dilyn cwblhad cynnar, dylid gwneud cais pellach gan ddefnyddio ffurflen AP1 neu ffurflen DS2 pan fo’r ffurflen DS1 ar gael.

Ar ôl inni wneud cais am gwblhad cynnar, byddwn yn rhoi gwybod i’r ceisydd gwreiddiol os gwneir cais llwyddiannus i ryddhau’r arwystl gan geisydd gwahanol o fewn 6 mis o gwblhau’r cais gwreiddiol.

Pan fo trosglwyddiad neu arwystl newydd i’w gofrestru, yn ogystal â rhyddhau arwystl sy’n bodoli, bydd cyflwyno’r ffurflen AP1 cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau yn sicrhau bod blaenoriaeth y ceisiadau eraill yn cael ei gwarchod. Lle bo oedi o ran derbyn y rhyddhau, nid yw’n ddiogel oedi cyflwyno’r ffurflen AP1 a dibynnu ar gyflwyno chwiliad swyddogol o’r cyfan pellach i warchod blaenoriaeth y ceisiadau eraill. Nid yw gwneud chwiliad pellach yn estyn y cyfnod blaenoriaeth gwreiddiol; yn hytrach, caiff cyfnod blaenoriaeth newydd ei greu. Os yw unrhyw gais sy’n cystadlu’n cael ei gyflwyno cyn gwneud yr ail chwiliad, y cais hwnnw gaiff flaenoriaeth.

Sylwer: Nid yw cwblhad cynnar yn berthnasol i geisiadau deliadau o ran.

2.4 Cyfyngiad sy’n bodoli o blaid y rhoddwr benthyg

Os gwneir ceisiadau i ryddhau arwystl cofrestredig a chofrestru gwarediadau eraill ar yr un pryd a bod cyfyngiad yn y gofrestr o blaid y rhoddwr benthyg sy’n bodoli sy’n atal cofrestru’r gwarediadau hynny, byddwn yn gwneud ymholiad naill ai am dystiolaeth o ryddhau’r arwystl perthnasol neu dystiolaeth fod telerau’r cyfyngiad wedi eu hateb. Os na chydymffurfir â’r ymholiad, byddwn yn dileu o dan reol 16(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 nid dim ond y cais i ryddhau ond hefyd y ceisiadau i gofrestru unrhyw warediadau wedi eu dal gan y cyfyngiad. Er enghraifft, os gwneir ceisiadau i ryddhau arwystl cofrestredig a chofrestru trosglwyddiad ac arwystl, byddwn yn dileu’r ceisiadau i gofrestru’r trosglwyddiad a’r arwystl ynghyd â’r cais i ryddhau’r arwystl. Fodd bynnag, os yw’r cyfyngiad dim ond yn atal cofrestriad arwystl newydd, byddwn yn cwblhau cofrestriad y trosglwyddiad ond yn dileu’r cais i gofrestru’r arwystl newydd.

2.5 Ceisiadau sy’n cynnwys diffyg nad yw’n ymwneud â’r rhyddhau

Yn lle dileu’r cais cyfan pan gyflwynir tystiolaeth ddigonol o ryddhau, naill ai gyda’r cais neu pan fo’n aros i’w brosesu, ond ni ellir cydymffurfio ag ymholiad yn ymwneud â rhyw agwedd arall o’r cais, byddwn yn cwblhau rhyddhad yr arwystl. Byddwn hefyd yn cwblhau, cyhyd ag sy’n bosibl, unrhyw drafodion nad yw’r ymholiad yn effeithio arnynt. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ymholi a dileu Adran 4 Rhyddhau Arwystlon.

2.6 Dulliau a ffurfiau rhyddhau a gollwng eraill

Mae rheol 114(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhoi’r hawl i’r cofrestrydd benderfynu a yw am dderbyn unrhyw brawf arall o fodlonrwydd o ran arwystl y mae’n ei ystyried yn ddigonol. Yn achos arwystl wedi ei warantu ar dir digofrestredig, byddwn yn derbyn derbynneb ardystiedig ar ffurflen yr arwystl ei hun fel tystiolaeth o ryddhau.

Byddwn yn derbyn rhyddhau ar ffurflen 53 os yw’n ddyddiedig cyn 1 Hydref 1998.

2.7 Cwmnïau’n rhyddhau a gollwng

Gall cwmnïau sy’n gofrestredig o dan Ddeddf Cwmnïau 1985, neu y mae adran 718 o’r Ddeddf honno yn berthnasol iddynt, gyflawni naill ai ffurflen DS1 neu ffurflen DS3:

  • trwy ddodi’r sêl ym mhresenoldeb cyfarwyddwr ac ysgrifennydd
  • heb ddefnyddio sêl cwmni, naill ai:
    • gan gyfarwyddwr ac ysgrifennydd neu 2 gyfarwyddwr yn llofnodi’r ffurflen fel gweithred, neu
    • (ar gyfer gweithredoedd a gyflawnwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008) gan gyfarwyddwr unigol yn llofnodi’r ffurflen fel gweithred, ar yr amod bod y llofnod yn cael ei dystio a’i ardystio
  • by some other method permitted under the company’s constitution

Yn yr achos olaf, rhaid i chi amgáu copi ardystiedig o gyfansoddiad y cwmni ac unrhyw dystiolaeth angenrheidiol arall o bŵer y cwmni i gyflawni ffurf y rhyddhau trwy’r dull hwnnw, gyda’ch cais i gofrestru’r rhyddhau, ond gweler hefyd Trefniadau arbennig: llythyrau cyfleuster.

2.8 Cymdeithasau adeiladu’n rhyddhau a gollwng

Gall cymdeithasau adeiladu gyflawni ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 fel gweithred naill ai:

  • yn unol ag adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925
  • mewn rhyw ffordd arall y bydd eu cyfansoddiad neu reolau yn ei ganiatáu
  • trwy ddodi’r sêl, sy’n gorfod bod â chydlofnod rhywun yn gweithredu o dan awdurdod bwrdd cyfarwyddwyr y gymdeithas
  • heb y sêl, trwy lofnod rhywun gyda’r awdurdod hwnnw

Erbyn hyn mae’r 2 ddull olaf wedi eu pennu yn Rheolau Cymdeithasau Adeiladu (Ffurfiau Derbynneb Penodedig) 1997 ac, yn fanwl gywir, maent yn berthnasol i dderbynebau ardystiedig yn unig. Byddwn yn derbyn ffurflen DS1 a ffurflen DS3 a gyflawnwyd fel hyn fel prawf o dalu’r arwystl.

2.9 Cwmnïau tramor yn rhyddhau a gollwng

Gall cwmnïau tramor gyflawni gweithred heb fod o dan sêl, os yw’r weithred:

  • wedi ei llofnodi gan rywun neu rywrai sydd, yn unol â chyfreithiau’r diriogaeth lle corfforwyd y cwmni, yn gweithredu o dan awdurdod (pendant neu oblygedig) y cwmni hwnnw, ac
  • wedi ei mynegi, ar ba ffurf bynnag, i’w chyflawni gan y cwmni hwnnw

Ni fyddwn yn amau cyflawni ffurflen DS1 neu ffurflen DS3, ar yr amod bod y canlynol yn wir:

  • ei bod wedi ei chyflawni fel y disgrifiwyd uchod, a
  • bod tystiolaeth foddhaol bod y gorfforaeth gorfforedig sy’n cyflawni’r weithred yn gwmni tramor, ac o’r diriogaeth lle corfforwyd. Nid oes angen y dystiolaeth hon pan fo’r cwmni tramor eisoes yn berchennog cofrestredig arwystl cofrestredig
  • pan fydd cwmni tramor yn cyflawni rhyddhau neu ollwng o dan sêl trwy lofnodwyr awdurdodedig, gweler cyfarwyddyd ymarfer 78: cwmnïau tramor a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig.

2.10 Unrhyw gorfforaeth gorfforedig arall yn rhyddhau a gollwng

Rhaid i gorfforaethau corfforedig eraill, fel sefydliadau diwydiannol a darbodus a chwmnïau corfforedig trwy siarter frenhinol neu trwy statud, neu endidau eraill gyda chymeriad corfforaethol, naill ai gyflawni yn unol ag adran 74(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, neu brofi fod ganddynt hawl i gyflawni mewn rhyw ffordd arall. Yn yr achos olaf, byddwn yn derbyn y rhyddhau os ydym yn fodlon bod yr offeryn neu statud sy’n ffurfio neu’n rheoli busnes y rhoddwr benthyg yn caniatáu iddo gyflawni ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 fel y cynigiwyd, gwelwch hefyd Trefniadau arbennig: llythyrau cyfleuster.

2.11 Trefniadau arbennig: llythyrau cyfleuster

Gall corfforaethau sy’n bwriadu cyflawni sawl rhyddhad a gollyngiad heblaw yn unol ag adran 74 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 neu adran 36A o Ddeddf Cwmnïau 1985, ofyn i Bencadlys Cofrestrfa Tir EF am drefniant arbennig.

Ar yr amod ein bod yn fodlon fod ganddynt bŵer i wneud fel y maent yn cynnig, byddwn yn gwneud trefniant fydd yn osgoi’r angen i’r dystiolaeth y cyflawnwyd y rhyddhad neu ollyngiad yn briodol ddod gyda phob cais.

Bydd y rhoddwr benthyg yn gorfod ymrwymo i’n hysbysu o unrhyw newid yn y pŵer, neu’r personél a awdurdodwyd, i ganiatáu rhyddhau neu ollwng yn enw’r sefydliad. Gall trefniant arbennig o’r math hwn fod ar sail naill ai:

  • lythyr cyfleuster
  • ffurflen DS1 wrth fesur (yn achos rhyddhau o’r cyfan) neu ffurflen DS3 (yn achos gollwng o ran)

Lle gwnaed trefniadau o’r fath cyn 1 Ebrill 1998, rhaid i chi gyflwyno copi o’r llythyr cyfleuster gyda’r ffurflen DS1 neu ffurflen DS3. Fodd bynnag, lle gwnaed trefniant ar neu ers 1 Ebrill 1998, dylech roi dyddiad y llythyr cyfleuster ym mhanel 7 ffurflen DS1 neu ffurflen DS3. Os bydd angen cadarnhad arnoch fod llythyr cyfleuster yn bod, neu y cyflawnwyd ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 yn unol ag ef, dylech gyfeirio eich ymholiad at y rhoddwr benthyg.

Mae modd gwneud trefniadau tebyg ar gyfer mathau eraill o roddwyr benthyg.

2.12 Gollwng rhan o’r tir mewn teitl cofrestredig o arwystl cofrestredig

Rhaid bod gollyngiad o ran o’r tir mewn teitl cofrestredig o arwystl cofrestredig ar ffurflen DS3. Rhaid nodi’r tir ar gynllun cysylltiedig neu trwy gyfeirio at y cynllun teitl. Rhaid i’r rhoddwr benthyg, neu rywun ar ei ran, lofnodi unrhyw gynllun cysylltiedig. Dylid defnyddio ffurflen DS3 hefyd lle bo rhan o’r tir mewn teitl cofrestredig, a chyfan y tir mewn teitl cofrestredig arall neu deitlau cofrestredig eraill, yn cael eu rhyddhau o arwystl cofrestredig.

3. Rhyddhau a gollwng arwystlon a nodwyd

3.1 Cyffredinol

Gall arwystl ystad gofrestredig fod wedi ei nodi o dan adran 49 o Ddeddf Cofrestru Tir 1925 neu o dan adran 32 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Bydd y rhan fwyaf o arwystlon a nodwyd wedi cael eu cofnodi mewn un o dair ffordd:

  • yn dilyn cais yr arwystlai o dan adran 34(2)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 am rybudd a gytunwyd
  • gennym ni ar gofrestriad cyntaf yr ystad gofrestredig
  • o dan adran 49 o Ddeddf Cofrestru Tir 1925

Gall arwystl fod wedi ei nodi fel rhybudd unochrog yn dilyn cais yr arwystlai o dan adran 34(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae darpariaethau ar wahân yn rheoli dileu rhybuddion unochrog i’r rhai sy’n rheoli dileu rhybuddion eraill.

Sylwch: Gall fod rhybuddiad o dan adran 54 o Ddeddf Cofrestru Tir 1925 ar arwystl hefyd. Mae rheolau 222 a 223 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn delio â thynnu’n ôl neu ddileu’r rhybuddiadau hyn.

3.2 Rhybuddion heblaw rhybuddion unochrog yn cynnwys arwystlon a nodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925

Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd (heblaw rhybudd unochrog) ar ffurflen CN1. Rhaid i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth ddigonol y rhyddhawyd yr arwystl fel a ganlyn.

3.2.1 Rhyddhau arwystlon ecwitïol sefydlog

Byddwn yn derbyn:

  • ffurflen DS1 neu ffurflen DS3
  • derbynneb ardystiedig ar offeryn yr arwystl
  • llythyr wedi ei gyfeirio at Gofrestrfa Tir EF yn cadarnhau y talwyd yr arwystl, wedi ei lofnodi gan yr arwystlai a nodwyd (neu lofnodwr awdurdodedig yr arwystlai a nodwyd os yw’n gorfforaeth), ac yn cynnwys cadarnhad na fu unrhyw aseiniad o fudd yr arwystl

Os gwnaed aseiniad, rhaid cyflwyno tystiolaeth drawsgludo disgyniad teitl arferol.

Nid oes rhaid i chi gyflwyno’r arwystl ei hun ond (os yw ar gael) gall fod yn ddefnyddiol fel tystiolaeth bod y ceisydd yn dal â hawl i’w fudd.

3.2.2 Rhyddhau arwystlon ansefydlog

Byddwn yn derbyn:

  • copi o hysbysiad am foddhad ar Ffurflen MR04 Tŷ’r Cwmnïau
  • llythyr oddi wrth y Cofrestrydd Cwmnïau yn cadarnhau y talwyd yr arwystl
  • llythyr wedi ei gyfeirio at Gofrestrfa Tir EF yn cadarnhau y talwyd yr arwystl, wedi ei lofnodi gan yr arwystlai a nodwyd (neu lofnodwr awdurdodedig yr arwystlai a nodwyd os yw’n gorfforaeth), ac yn cynnwys cadarnhad na fu unrhyw aseiniad o fudd yr arwystl, neu os gwnaed aseiniad, rhaid cyflwyno tystiolaeth drawsgludo disgyniad teitl arferol
  • lle cyflwynwyd trosglwyddiad dilynol i’w gofrestru ar werthu’r tir, tystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr neu ysgrifennydd y cwmni arwystlo na ddigwyddodd unrhyw un o’r digwyddiadau fyddai’n peri i’r arwystl ddod yn sefydlog cyn dyddiad y trosglwyddiad

3.2.3 Rhyddhau is-arwystl

Ymddengys mai’r sefyllfa ddiofyn yw bod gan y prif arwystlai a’r is-arwystlai bŵer i ryddhau’r prif arwystl, ond mae’r sefyllfa ddiofyn yn ddarostyngedig i delerau’r is-arwystl. Gan fod y gyfraith yn y maes hwn yn gymhleth ac ansicr, ein dewis yw cael rhyddhad o’r prif arwystl gan y prif arwystlai a rhyddhad ar wahân o’r is-arwystl gan yr is-arwystlai ar ffurflen DS1 neu DS3 yn ôl y digwydd.

3.3 Rhybuddion unochrog

Rhaid gwneud cais i ddileu cofnod rhybudd unochrog ar:

  • ffurflen UN2: lle bo’r cais am i’r buddiolwr cofrestredig godi’r rhybudd o dan reol 85 o Reolau Cofrestru Tir 2003
  • ffurflen UN4: lle bo’r cais am i’r perchennog cofrestredig dileu’r rhybudd o dan reol 86 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Nid oes angen tystiolaeth rhyddhau yn y naill sefyllfa na’r llall.

4. Rhyddhau morgais a warchodwyd trwy rybudd adneuo

Yn lle cofrestru morgais yng Nghofrestrfa Tir EF a dal tystysgrif arwystl, roedd rhoddwr benthyg yn arfer gallu dal tystysgrif tir neu arwystl y cymerwr benthyg fel gwarant am y benthyciad. Cyn Ebrill 1995, gallai’r rhoddwr benthyg wneud cais am gael cofnod yn y gofrestr yn rhoi rhybudd fod y dystysgrif wedi cael ei hadneuo yno.

Er nad ydym mwyach yn cofrestru rhybuddion o’r fath, mae cofnodion rhybudd adneuo yn dal i ymddangos ar rai cofrestri. Lle maent yn ymddangos, eu heffaith yw rhybuddio’r adneuo a gweithredu fel rhybuddiad yn erbyn delio. Bydd y sefyllfa hon yn aros yn ddigyfnewid ar waethaf dileu tystysgrifau tir ac arwystl o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Byddwn yn derbyn y dystiolaeth ganlynol i ddileu cofnod rhybudd adneuo.

  • Cais ar ffurflen 86 o Reolau Cofrestru Tir 1925, dim ond iddi gael ei dyddio cyn 13 Hydref 2003
  • Rhan ddyblyg ffurflen 85A, ffurflen 85B neu ffurflen 85C o Reolau Cofrestru Tir 1925, dim ond iddi gael ei dyddio cyn 13 Hydref 2003
  • Y rhoddwr benthyg y rhybuddiwyd o’i blaid yn tynnu’n ôl ar ffurflen WCT
  • Perchennog yr ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig sydd a wnelo â’r rhybudd yn gwneud cais ar ffurflen CCD ar yr amod y dangosir nad yw’r rhybudd yn gwarchod budd dilys, neu y daeth y budd i ben

5. Hysbysiadau rhyddhau electronig (ENDs)

Dull o ryddhau morgais a ddaeth i ben ar 3 Ionawr 2010 oedd END. Roedd gan rai rhoddwyr benthyg yr hawl i drosglwyddo ENDs i Gofrestrfa Tir EF yn lle llenwi ffurflen DS1.

Yn debyg i ffurf bapur rhyddhau, nid yw END, ohono’i hun, yn peri dileu’r arwystl. Pan gaiff yr hysbysiad rhyddhau electronig ei anfon, caiff ei ddal fel neges ar ein system gyfrifiadurol nes i gais ar ffurflen AP1, ffurflen DS2 neu ffurflen DS2E i ryddhau’r arwystl gael ei dderbyn. Yna, ar yr amod bod gweddill y cais mewn trefn, byddwn yn dileu’r cofnodion yn ymwneud â’r arwystl heb ffurf bapur ar ryddhau. Er na all rhoddwyr benthyg anfon hysbysiadau rhyddhau electronig atom, mae nifer yn aros am gais i dynnu’r cofnodion arwystl ymaith.

6. Rhyddhau electronig

Rhyddhau arwystl cofrestredig trwy ddull electronig o systemau cyfrifiadurol y rhoddwyr benthyg yn uniongyrchol atom yw rhyddhau electronig. Bydd system gyfrifiadurol Cofrestrfa Tir EF yn gwneud nifer o wiriadau ac, os yw popeth mewn trefn, bydd yn dileu cofnodion yr arwystl yn awtomatig a hynny, yn y rhan fwyaf o achosion, ar unwaith wedi derbyn y rhyddhad.

Dim ond ar gyfer rhyddhau’r cyfan y gall rhyddhau electronig gael ei anfon.

Bydd pob rhyddhau electronig yn cael ei anfon trwy rwydweithiau rhithwir preifat diogel. Ymgorfforwyd nifer o nodweddion diogelu i sicrhau mai dim ond y rhoddwyr benthyg all anfon rhyddhau electronig atom.

Mae rhyddhau electronig yn wahanol i hysbysiadau rhyddhau electronig. Neges electronig oddi wrth roddwr benthyg i Gofrestrfa Tir EF yw hysbysiadau rhyddhau electronig yn awdurdodi dileu cofnodion yr arwystl. Rhaid i gais ffurfiol ar bapur ddilyn hyn fel yr eglurir yn Hysbysiadau rhyddhau electronig. Bydd rhyddhau electronig yn dileu cofnodion yr arwystl yn awtomatig ac, yn y rhan fwyaf o achosion, ar unwaith. Nid yw’n gofyn am gais ffurfiol ar bapur ar wahân i ryddhau’r arwystl, nac yn gofyn am ymyriad rhywun. Mae’n broses rhwng cyfrifiadur a chyfrifiadur.

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cyflwyno rhyddhau electronig oherwydd mae angen system rhyddhau arwystlon cofrestredig awtomatig ar gyfer e-drawsgludo. Er y gall rhyddhau electronig weithredu’n effeithiol ar gyfer rhyddhau yn unig, bydd hefyd yn ffurfio rhan o system e-drawsgludo gyfun.

Bydd rhyddhau electronig hefyd yn datrys rhai o’r problemau sy’n gysylltiedig â ffurflen DS1 a’r drefn hysbysiadau rhyddhau electronig flaenorol, yn enwedig yr oediadau cynhenid. Mae’r rhoddwyr benthyg sy’n defnyddio rhyddhau electronig yn sefydlu prosesau newydd sy’n awtomeiddio a chyflymu’r ffordd maent yn delio ag adbryniadau ac yn eu galluogi i anfon rhyddhau electronig yn gynt na DS1 neu ryddhau electronig.

6.1 Meini prawf derbyn rhyddhau electronig

Fe all fod nifer bach o sefyllfaoedd pan fydd ED yn cael ei wrthod. Byddwn yn hysbysu’r rhoddwyr benthyg ar unwaith os na allwn dderbyn ED. Yna byddant yn ymchwilio i’r rheswm pam y gwrthodwyd ED ac yn defnyddio dull arall i ryddhau’r arwystl.

6.2 Dileu cofnodion arwystl

Fe all fod achlysuron pan na fyddwn yn gallu dileu cofnodion yr arwystl ar unwaith. Er enghraifft, fe allai fod cais yn aros i’w brosesu ar gyfer y teitl o dan sylw. Byddai raid cwblhau hwn gyntaf cyn y byddai modd dileu cofnodion yr arwystl. Yn y sefyllfa hon, byddwn yn derbyn yr ED ond ni fydd cofnodion yr arwystl yn cael eu dileu cyn cwblhau’r cais blaenorol. Bydd y rhoddwyr benthyg yn dweud wrthych os bydd hyn yn digwydd.

Os yw cofnodion yr arwystl wedi cael eu dileu ar unwaith, bydd y rhoddwyr benthyg yn cadarnhau bod yr arwystl wedi cael ei ryddhau’n electronig gan Gofrestrfa Tir EF. Os na ellir dileu cofnodion yr arwystl ar unwaith, bydd y rhoddwyr benthyg yn cadarnhau eu bod wedi cyflwyno ED i ni a’n bod ni wedi rhoi gwybod iddynt ein bod yn ymdrin â dileu’r arwystl oddi ar y gofrestr.

6.3 Sut y bydd trawsgludwyr yn gwybod bod cofnodion yr arwystl wedi cael eu dileu

Bydd y rhoddwr benthyg yn dweud wrthych naill ai:

  • y rhyddhawyd yr arwystl
  • ein bod wedi cadarnhau i ni dderbyn yr ED ond na allwn ddileu cofnodion yr arwystl ar unwaith

6.4 Yr hyn y dylech ei wneud os byddwch yn cynrychioli cymerwr benthyg

Bydd y rhoddwyr benthyg yn dweud wrthych yn eu datganiad adbrynu y byddant yn rhyddhau’r arwystl trwy ED. Rhaid i chi ddweud wrthynt pa arwystlon sy’n cael eu hadbrynu a thalu’r arwystl(on) yn y ffordd arferol.

Dim ond i’r taliad cywir gael ei dderbyn, a bod yr arwystl yn un sy’n gallu cael ei ryddhau trwy ED, bydd y rhoddwyr benthyg yn anfon ED atom. Os caiff ei dderbyn, bydd cofnodion yr arwystl yn cael eu dileu yn awtomatig. Yna bydd y rhoddwyr benthyg yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod yr arwystl wedi cael ei ryddhau’n llwyddiannus.

Os oes rhywun arall yn gysylltiedig, bydd angen i chi gytuno ar ffurf ymrwymiad newydd i ddarparu ar gyfer y gwahanol ddull rhyddhau.

6.5 Yr hyn y dylech ei wneud os byddwch yn cynrychioli prynwr

Dylech fwrw ymlaen gyda’r trafodiad yn yr un modd ag y byddech gydag unrhyw un arall, heblaw y bydd angen i chi ganiatáu am y gwahanol ddull rhyddhau trwy gytuno ar ffurf ymrwymiad newydd.

Dylech wneud y trefniadau ar gyfer cwblhau fel y byddech fel arfer, heblaw am addasu’r ymrwymiad.

Os yw’r adbrynu yn rhan o drafodiad mwy dylech ardystio eich ffurflen gais ‘Rhyddhawyd yr arwystl mewn dull electronig’. Os ydych yn cyflwyno’r cais cyn i ED gael ei gyflwyno, byddwn yn cwblhau’r ceisiadau eraill cyn gynted ag sy’n bosibl ond yn cymryd dim camau o ran yr arwystl sy’n bodoli. Os yw’r ffurflen gais yn cyfeirio at y rhyddhau electronig, byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fyddwn yn cwblhau’r cais nad yw’r cofnodion arwystl wedi eu dileu.

Bydd cyflwyno’r ffurflen AP1 cyn gynted â phosibl yn y sefyllfa hon yn gwarchod blaenoriaeth y ceisiadau eraill. Os yw unrhyw ymholiadau’n codi o ran y ceisiadau eraill, byddwn yn dilyn y drefn a nodir yn Mae’r ffurflen AP1 yn cynnwys ceisiadau eraill.

6.6 Sut mae gwneud yn siwr bod rhyddhau electronig wedi cael ei drosglwyddo

Os oes gennych fynediad i borthol Cofrestrfa Tir EF, gallwch ddarganfod hyn trwy ddefnyddio’r gwasanaeth application enquiry. Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael o Business Gateway.

Os nad oes gennych fynediad i’r porthol, dylech ffonio swyddfa briodol Cofrestrfa Tir EF ar gyfer yr eiddo o dan sylw. Byddant yn cadarnhau naill

  • bod cofnodion yr arwystl wedi cael eu dileu ar ôl derbyn rhyddhau
  • y derbyniwyd rhyddhau electronig
  • na dderbyniwyd rhyddhau electronig

7. E-DS1

Ffurf electronig o ryddhau a gyflwynir gan roddwyr benthyg neu eu hasiantau awdurdodedig trwy’r porthol yw e-DS1. Mae’r e-DS1 yn gweithredu fel tystiolaeth o’r rhyddhau a’r cais i dynnu’r arwystl o’r gofrestr.

Dim ond ar gyfer rhyddhau o’r cyfan y tir a arwystlir y gellir cyflwyno e-DS1 ac mae’n disodli hysbysiadau rhyddhau electronig. Mae cais ar wahân yn ofynnol ar gyfer pob teitl y mae’r arwystl i’w ryddhau ohono, a hefyd os oes gan y rhoddwr benthyg fwy nag un arwystl i’w ryddhau.

Yn wahanol i hysbysiadau rhyddhau electronig, gall e-DS1 ddarparu sicrwydd o gyflwyno rhyddhad ar unwaith gan fod trefnau dilysu amser real mewn grym i gynorthwyo’r defnyddiwr pan fo’n mewnbynnu’r data, ac unwaith i’r rhoddwr benthyg anfon yr e-DS1, bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon cydnabyddiaeth electronig at y defnyddiwr.

7.1 Pwy sy’n gallu cyflwyno e-DS1

Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth e-DS1 wedi ei lunio ar gyfer rhoddwyr benthyg corfforaethol a’u hasiantau’n unig. Trwy’r porthol y mae cael mynediad i’r e-DS1. Wedi i ddefnyddiwr gwblhau’r broses gofrestru ar gyfer y porthol, bydd ganddo fynediad seiliedig ar rôl, sy’n darparu diogelwch ac yn negyddu’r angen am lofnod rhoddwr benthyg. Bydd y mynediad seiliedig ar rôl yn adnabod y defnyddiwr ac ni fydd yn gofyn am unrhyw fanylion am ei sefydliad. Mae hyn yn sicrhau y gall y defnyddiwr ryddhau arwystlon o blaid y sefydliad y mae’n ei gynrychioli yn unig.

7.2 Sut mae e-DS1 yn cael ei gyflwyno

Ar ôl i’r defnyddiwr gael mynediad i’r porthol bydd yn gorfod cwblhau camau a fydd yn ei arwain trwy’r broses o fysellu’r data priodol ar gyfer yr e-DS1. Wrth gwblhau’r e-DS1, bydd y defnyddiwr yn derbyn negeseuon dilysu amser real mewn ymateb i’r wybodaeth a ddarparwyd a chânt eu gwirio gan y system. Ar ôl i’r e-DS1 gael ei gwblhau’n llwyr, rhaid ei gyflwyno oherwydd nid oes modd arbed yr e-DS1 wedi ei gwblhau.

7.3 Dileu cofnod yr arwystl

Er na chaiff y cofnod arwystl ei ddileu ar unwaith, mewn nifer o achosion, caiff y cais ei brosesu’n awtomatig gan y system fel y bydd y gofrestr yn cael ei diweddaru’n gyflym iawn, mewn mater o eiliadau. Fodd bynnag, ar rai adegau, ni fydd modd inni ddileu’r cofnodion arwystl yn awtomatig, er enghraifft pan fo cais sy’n aros i’w brosesu blaenorol yn erbyn y teitl o dan sylw. Byddai’n rhaid cwblhau hyn cyn y gellid dileu’r cofnodion. Mae modd cyflwyno’r e-DS1 o hyd, ond ni chaiff y cofnodion arwystl eu dileu nes cwblhau’r cais blaenorol.

Ar ôl i’r rhoddwr benthyg gyflwyno’r e-DS1, bydd yn derbyn neges electronig yn cadarnhau ein bod wedi derbyn ei gais.

7.4 Sut y bydd trawsgludwyr yn gwybod bod cofnodion arwystl wedi eu dileu

Bydd y rhoddwr benthyg yn gallu dweud wrthych naill ai:

  • bod yr arwystl wedi ei ryddhau, oherwydd y bydd wedi cael hysbysiad o gwblhau’r cofrestriad
  • ein bod wedi cadarnhau inni dderbyn yr e-DS1 ond nad yw’r rhoddwr benthyg wedi derbyn cadarnhad o gwblhau’r cofrestriad eto

7.5 Yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn gweithredu ar ran cymerwr benthyg

Dylai’r rhoddwr benthyg nodi yn ei ddatganiad adbrynu y bydd yn rhyddhau’r arwystl gan ddefnyddio e-DS1. Rhaid ichi ddweud wrthym pa arwystlon sy’n cael eu hadbrynu a thalu’r arwystl(on) yn y modd arferol.

Ar ôl i’r rhoddwr benthyg dderbyn y tâl cywir, bydd yn trefnu i e-DS1 gael ei gyflwyno. Gall y rhoddwr benthyg ddewis i gael hysbysiad wedi ei anfon ato ar gwblhad y cofrestriad .

7.6 Yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn gweithredu ar ran prynwr

Dylech barhau â’r trafodiad yn yr un modd ag y byddech gydag unrhyw un arall, heblaw y bydd yn rhaid ichi ganiatáu ar gyfer y dull gwahanol o ryddhau trwy gytuno ar ffurf ddiwygiedig o ymgymeriad. Efallai y carech ddefnyddio dull tebyg i’r hyn a ddefnyddir ar gyfer ED.

Dylech wneud y trefniadau ar gyfer cwblhau yn y modd arferol heblaw am yr ymgymeriad wedi ei addasu. Os yw’r adbryniad yn rhan o drafodiad mwy, dylech arnodi’ch ffurflen gais â’r geiriau ‘Arwystl wedi ei ryddhau trwy e-DS1’. Os ydych yn cyflwyno’r cais cyn i e-DS1 gael ei gyflwyno, byddwn yn cwblhau’r ceisiadau eraill cyhyd ag sy’n bosibl ond yn cymryd dim camau o ran yr arwystl sy’n bodoli. Os yw’r ffurflen gais yn cyfeirio at yr e-DS1, byddwn yn eich hysbysu ar ôl cwblhau’r cais nad yw’r cofnodion arwystl wedi eu dileu. Bydd cyflwyno’r ffurflen AP1 cyn gynted â phosibl yn y sefyllfa hon yn gwarchod blaenoriaeth y ceisiadau eraill. Os oes unrhyw ymholiadau’n codi o ran y ceisiadau eraill, byddwn yn dilyn y drefn a welir yn Mae’r ffurflen AP1 yn cynnwys ceisiadau eraill.

7.7 Sut mae gwneud yn siwr bod e-DS1 wedi cael ei drosglwyddo

Os oes gennych fynediad i borthol Cofrestrfa Tir EF, gallwch ddarganfod hyn trwy ddefnyddio’r gwasanaeth application enquiry. Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael o Business Gateway.

Os nad oes gennych fynediad i’r porthol, dylech ffonio swyddfa briodol Cofrestrfa Tir EF ar gyfer yr eiddo o dan sylw. Byddant yn cadarnhau naill ai:

  • bod cofnodion yr arwystl wedi cael eu dileu ar ôl derbyn rhyddhau electronig
  • bod e-DS1 wedi ei dderbyn
  • nad oes e-DS1 wedi ei dderbyn

8. Cyfyngiadau

Yn gyffredinol, bydd unrhyw gofnod cyfyngiad sy’n ymwneud yn benodol â’r arwystl sy’n cael ei ryddhau gennych yn cael ei ddileu’n awtomatig pan gaiff yr arwystl ei ryddhau. Fodd bynnag, os nad yw cyfyngiad o blaid y rhoddwr benthyg yn cyfeirio’n benodol at yr arwystl sy’n cael ei ryddhau, rhaid tynnu’r cyfyngiad hwnnw’n ôl ar wahân ar ffurflen RX4 gyda’r cais i gofrestru’r rhyddhad. Os na chyflwynir ffurflen RX4, bydd y cyfyngiad yn aros yn y gofrestr.

Pan gaiff arwystl ei ryddhau o ran, yn annibynnol ar drosglwyddiad o ran, caiff nodyn ei ychwanegu fel rheol at unrhyw gyfyngiad o blaid yr arwystlai nad yw’r cyfyngiad yn effeithio ar y rhan a gaiff ei rhyddhau.

9. Ffïoedd

Nid oes dim i’w dalu am wneud y canlynol:

  • cofrestru rhyddhau arwystl cofrestredig
  • tynnu rhybudd adneuo yn ôl
  • dileu neu dynnu ymaith rhybudd o arwystl

10. Pethau i’w cofio

Gwnewch yn siwr:

  • eich bod wedi defnyddio’r ffurf ryddhau gywir ar gyfer yr holl dir/rhan o’r tir
  • y cafodd y ffurf ryddhau ei chyflawni’n gywir a’ch bodi wedi amgáu tystiolaeth o gyfansoddiad corfforaeth gorfforedig, lle bo angen hynny

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.