Canllawiau

Hyb hyfforddi Cofrestrfa Tir EF

Cipolowg cyflym a hawdd ar ganllawiau a deunyddiau hyfforddi i’ch helpu i baratoi a chyflwyno ceisiadau o ansawdd uchel a defnyddio gwasanaethau Cofrestrfa Tir EF

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mynd i’r afael ag ymholiadau y gellir eu hosgoi

Defnyddiwch ein hyfforddiant, awgrymiadau da a chanllawiau di-dâl i’ch cynorthwyo i leihau ymholiadau ‘y gellir eu hosgoi’.

Ein gweithdai sydd ar ddod:

Canllawiau cyhoeddus

Ewch i’n Canllawiau i aelodau’r cyhoedd am amrywiaeth o faterion eiddo gan gynnwys perchnogaeth eiddo, cofrestru eiddo a therfynau eiddo. Mae’r canllawiau hyn wedi eu hanelu’n bennaf at aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn drawsgludwyr.

Yr hanfodion

Bydd ein pecyn hyfforddi hunanwasanaeth yn eich helpu gyda’r pethau sylfaenol – os ydych yn newydd i drawsgludo neu am gael sesiwn gloywi’n unig. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF, a pharatoi a chyflwyno ceisiadau o ansawdd uchel.

10 awgrym da ar gyfer ceisiadau penigamp

Darllenwch ein hawgrymiadau ar gyfer gwella ansawdd ceisiadau a anfonir i Gofrestrfa Tir EF.

Canllawiau

Ewch i’n canllawiau unigol am ddeunyddiau hyfforddi a gwybodaeth ar y pynciau canlynol:

Business Gateway Cymorth i gwsmeriaid busnes sy’n defnyddio system rheoli achosion i ddefnyddio gwasanaethau trawsgludo trwy Business Gateway.
Ceisiadau digidol Cymorth i gwsmeriaid busnes gyflwyno ceisiadau’n ddigidol.
Y Gwasanaeth Cofrestru Digidol Cymorth i gwsmeriaid busnes gyflwyno ceisiadau’n ddigidol gan ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF.
Cyflawni gweithredoedd Sut i sicrhau bod gweithredoedd yn cael eu cyflawni’n ddilys cyn iddynt gael eu cyflwyno gyda cheisiadau i gofrestru.
Ffïoedd Cymorth wrth gyfrifo’r ffi gywir ar gyfer ceisiadau a gwasanaethau Cofrestrfa Tir EF.
Cofrestriadau cyntaf Cymorth wrth gofrestru tir digofrestredig am y tro cyntaf, gan gynnwys cofrestru tir pan fydd gweithredoedd yn cael eu colli neu eu dinistrio.
Ffurflenni Cymorth wrth lawrlwytho a defnyddio’r ffurflenni cywir ar gyfer eich cais.
Hunaniaeth Help gyda’r gofynion hunaniaeth ar gyfer ceisiadau.
Gwasanaethau Gwybodaeth Sut i gael gafael ar wybodaeth o’r Gofrestr Tir a gwneud cais am chwiliadau.
Prydlesi Help gyda chofrestru a nodi prydlesi.
Cynlluniau Sut i gyflwyno cynlluniau o safon gyda’ch cais.
Y porthol Cymorth i gwsmeriaid busnes ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF.
Data Pris a Dalwyd – sut i’w ddefnyddio Sut i gael gwybodaeth am Ddata Pris a Dalwyd.
Y Gofrestr Endidau Tramor – cofrestru a chadarnhau Canllawiau technegol ar gyfer deall y Gofrestr Endidau Tramor a’r gofynion mae’n eu gosod ar endidau tramor sy’n berchen ar dir yn y DU.
Ymholiadau Sut i osgoi ymholiadau ar geisiadau a’r hyn sy’n digwydd pan fydd angen eu codi.
Cyfyngiadau Sut i gofrestru cyfyngiadau newydd ac ymdrin â chyfyngiadau sy’n bodoli yn y gofrestr.
Gwasanaethau cymorth arbenigol Sut i gael arweiniad ar wasanaethau cymorth arbenigol Cofrestrfa Tir EF.
Data Trafodion Sut i gael gwybodaeth am y math o geisiadau a’r nifer sy’n cael eu cwblhau gan Gofrestrfa Tir EF bob mis.
Amrywiadau mewn enwau Sut i osgoi ymholiadau ynghylch amrywiadau rhwng enwau yn y gofrestr, ffurflenni cais a gweithredoedd a gyflwynir i’w cofrestru.

Cyfarwyddiadau ymarfer

Gweler ein cyfarwyddiadau ymarfer am wybodaeth fanwl am gofrestru tir. Mae’r cyfarwyddiadau hyn wedi eu hanelu’n bennaf at drawsgludwyr ac maent yn aml yn ymdrin â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

Mae cyfarwyddiadau ymarfer a ddarllenir yn gyffredin yn cynnwys:

Gweminarau

Ewch i GoToWebinar stage i wylio gweminarau byw ac wedi eu recordio sy’n cwmpasu cyflwyno ceisiadau digidol, osgoi ymholiadau, cynnyrch a gwasanaethau, cynlluniau, prydlesi a chofrestriadau cyntaf. Gallwch wylio recordiadau o’n gweminarau gyda chapsiynau hefyd ar ein sianel gweminar â chapsiynau.

Mae gweminarau poblogaidd yn cynnwys:

Cofrestrwch i gael hysbysiadau ebost i wneud yn siwr eich bod yn clywed am ddeunyddiau hyfforddi newydd.

Podlediadau

Ewch i’n sianel Soundcloud i glywed arbenigwyr Cofrestrfa Tir EF yn siarad am ein harferion, cynnyrch a gwasanaethau cofrestru tir.

Lawrlwytho’r trawsgrifiadau:

Fideos

Ewch i’n sianel YouTube am amrywiaeth o fideos defnyddiol ar bynciau cofrestru tir.

Mae fideos sy’n cael eu gwylio’n aml yn cynnwys:

Rhestrau gwirio

Defnyddiwch ein rhestrau gwirio i’ch helpu i osgoi ymholiadau.

Siartiau llif

Defnyddiwch ein siartiau llif i’ch helpu i osgoi ymholiadau.

Adborth

Rydym yn gwerthfawrogi’ch sylwadau, syniadau ac awgrymiadau yn fawr felly os oes gennych unrhyw adborth am y dudalen hon neu unrhyw awgrymiadau am bynciau a deunyddiau hyfforddi yr hoffech inni eu darparu, anfonwch ebost at y tîm training@landregistry.gov.uk.

Lle bynnag y bo modd, defnyddir eich sylwadau i wella’n canllawiau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Chwefror 2026 show all updates
  1. New workshops added for 2026

  2. Removed information about the captioned webinar channel as the channel is being retired. The GoToWebinar channel now supports captioning.

  3. New workshops added for October and November.

  4. We have added a short survey for users of the training hub.

  5. Added videos for forms AP1, AS1 and ID1.

  6. Added the transcripts for the practice guides podcast (parts 1 and 2).

  7. First published.

Argraffu'r dudalen hon