Canllawiau

10 awgrym da ar gyfer ceisiadau penigamp

Gwyliwch awgrymiadau da ein gweithwyr cais i wneud yn siwr bod eich ceisiadau'n gyflawn ac yn gywir, a'ch bod yn osgoi mwy nag 20 o bwyntiau ymholiad cyffredin.

Applies to England and Wales

Anfonwyd bron miliwn o ymholiadau gennym yn 2023, ac roedd 70% ohonynt yn ymwneud â thua 30 o faterion penodol. Nid oedd un ohonynt yn ymwneud â thystysgrif na chydsyniad, ond gyda’i gilydd, cymerodd y rhain lawer iawn o amser ac arian i ni eu datrys, ac yn bwysicach fyth, i’n cwsmeriaid.

Gofynnwyd i’n gweithwyr cais am eu hawgrymiadau gorau, a chrëwyd deg fideo byr wedi eu dylunio i’ch helpu i gyflwyno ceisiadau cyflawn a chywir.

Wedi eu hanelu at staff sy’n newydd i dimau trawsgludo neu ôl-gwblhau, gallwch weld y fideos byr yn unigol, gyda’i gilydd neu gellir eu lawrlwytho a’u hychwanegu at eich hyfforddiant mewnol eich hunan.

Cyhoeddwyd deunyddiau hyfforddi ychwanegol gennym hefyd megis canllawiau i’ch cynorthwyo i osgoi ymholiadau, gweminar am sut i osgoi ymholiadau am wybodaeth a’n dogfen camau cyflym ar gyfer llai o ymholiadau.

Enwau

Darllenwch am ble mae’r problemau mwyaf cyffredin yn codi gydag enwau mewn ceisiadau – a sut i’w hosgoi.

10 awgryn da 1: Enwau - (YouTube)

Rhagor o adnoddau

Blog: Beth sydd mewn enw?

Gweminarau:

Podlediad:

Siart-lif: Siart-lif amrywiadau mewn enwau

Manylion tystion

Anfonwyd dros 52,000 o ymholiadau ynghylch manylion tystion gennym yn 2023. Dysgwch sut i’w cael yn iawn y tro cyntaf gyda’n hawgrymiadau da.

10 awgrym da (2): Manylion tystion (youtube.com)

Rhagor o adnoddau

Canllawiau: Cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd

Gweminar: Cyflawni gweithredoedd

Math o berchnogaeth

Ydych chi’n anghofio dweud wrthym yn aml sut dylai perchnogion newydd ddal yr eiddo? Gwyliwch y fideo hwn am ffordd fachog i gofio.

10 awgrym da (3): Math o berchnogaeth (youtube.com)

Rhagor o wybodaeth

Blog: Pa fath o berchnogaeth sydd gen i?

Canllawiau:

Hunaniaeth

Darllenwch pryd mae angen tystiolaeth hunaniaeth arnom a sut i lenwi panel 13 ffurflen AP1 heb wallau.   

10 awgrym da (4): Hunaniaeth – YouTube

Rhagor o adnoddau

Canllawiau:

Fideo:

Sut i lenwi ffurflen ID1

Beth sydd ar goll?

Gwyliwch y fideo hwn am awgrymiadau ar beth i’w wirio cyn ichi anfon eich cais. Ar ôl enwau, dyma’r ail reswm uchaf dros anfon ymholiad.

10 awgrym da (5): Tudalennau coll (youtube.com)

Rhagor o adnoddau

Gweminar: Cyflwyniad byr: Ffurflenni a gweithredoedd

Ble mae’r dystiolaeth

Dysgwch pa dystiolaeth goll sy’n ysgogi ymholiad a sut i wneud yn siwr nad ydych yn cael un.

10 awgrym da (6): Ble mae’r dystiolaeth (youtube.com)

Rhagor o adnoddau

Canllawiau:

Dyddiadau a symiau

Mae dyddiad ar y weithred ond mae gennych ymholiad o hyd. Dysgwch pam – a’r hyn i’w wneud os nad ydych yn gwybod y pris a dalwyd – trwy wylio’r fideo byr hwn.

10 awgrym da (7): Dyddiadau a symiau (youtube.com)

Rhagor o adnoddau

Gweminar: Cyflwyniad byr: Ffurflenni a gweithredoedd

Gweithredoedd o ran

Mae’n well gennym gael un copi o drosglwyddiad, wedi ei gyflawni gan bob parti, ond os nad yw hynny’n bosibl, sut mae sicrhau nad ydych yn cael ymholiad?

10 awgrym da (8): Yn rhannol iawn (youtube.com)

Rhagor o adnoddau

Gweminar: Cyflwyniad byr: Ffurflenni a gweithredoedd

Cynlluniau a disgrifiadau

Gwyliwch y fideo hwn i weld beth sy’n gwneud cynllun penigamp y gallwn ei dderbyn y tro cyntaf.

10 awgrym da (9): Cynlluniau ac eiddo (youtube.com)

Rhagor o adnoddau

Gweminarau

Marwolaeth perchennog

Gwnewch yn siwr eich bod yn edrych ar y dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ddiwygio’r gofrestr os yw rhywun wedi marw.

10 awgrym da (10): Marwolaeth (youtube.com)

Rhagor o adnoddau

Blog: Yr hyn i’w wneud pan fydd perchennog eiddo’n marw

Canllawiau:

Cyhoeddwyd ar 22 January 2024