Canllawiau

Llenwi ffurflen ID3

Canllaw ar lenwi ffurflen ID3: tystysgrif hunaniaeth unigolyn preifat

Applies to England and Wales

Tystiolaeth hunaniaeth

Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer unrhyw barti (a’r sawl sy’n cyflwyno’r cais os yw’n wahanol) nad yw wedi ei gynrychiloli’n gyfreithiol.

Pan fydd hunaniaeth yn cael ei chadarnhau gan rywun yn y proffesiynau awdurdodedig, rhaid i’r dystiolaeth fod ar ffurflen ID3 a rhaid i bob person unigol sy’n barti i’r trafodion uchod nad yw wedi ei gynrychiloli’n gyfreithiol eu llenwi.

Gellir lawrlwytho ffurflen ID3 yn rhad ac am ddim o’n gwefan neu trwy ffonio’n cymorth i gwsmeriaid.

Rhaid i ddwy ran y ffurflen ID3 a gyflwynir i gefnogi cais gael eu dyddio a’u llofnodi dim mwy na thri mis cyn adeg y cyflwyno.

Nid yw ffurflen ID3 wedi ei llenwi yn agored i’r cyhoedd eu harchwilio ac fel rheol ni all person wneud cais am gopi swyddogol ohonynt. Ceir darpariaethau arbennig yn Rheolau Cofrestru Tir 2003 i ganiatáu archwiliad gan unigolion penodol, mewn rhai sefyllfaoedd sy’n gysylltiedig ag achosion llys, ansolfedd ac ymchwiliadau rhwymedigaeth treth. Rydym yn gobeithio y byddwch yn deall pam y mae angen tystiolaeth hunaniaeth arnom. Er y gall y gofyniad hwn ymddangos yn faich, credwn ei fod yn hanfodol i helpu i frwydro yn erbyn lladrad hunaniaeth a thwyll. Mae ein gofynion yn debyg i’r gwiriadau hunaniaeth a wneir gan sefydliadau eraill, gan gynnwys banciau.

Rhybudd am dwyll


Os oes gofyniad i gadarnhau hunaniaeth neu i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth, ac rydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.

Pryd ac ar gyfer pwy y bydd angen cadarnhad o hunaniaeth ar Gofrestrfa Tir EF

Mae angen cadarnhad o hunaniaeth arnom ar gyfer y mathau o drafodion a’r bobl a ddangosir yn y tabl canlynol, yn ogystal â’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cais, os yw’n wahanol. Gweler hefyd yr eithriadau a grybwyllir islaw’r tabl.

Gofynion cadarnhau hunaniaeth

Cais Unigolion y mae cadarnhad o hunaniaeth yn ofynnol ar eu cyfer
Trosglwyddo tir neu drosglwyddo morgais (p’un ai yw am arian ai peidio). Mae hefyd yn cynnwys trosglwyddiadau i benodi neu ddiswyddo ymddiriedolwr a chydsyniadau gan gynrychiolwyr personol Trosglwyddwr (gwerthwr), Trosglwyddai (prynwr), unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y gwerthwr neu’r prynwr, unrhyw gynrychiolydd personol
Prydles (p’un ai yw am arian ai peidio) Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r tenant
Ildio prydles gofrestredig: cais i gau’r teitl prydlesol (yn cynnwys ildio trwy drosglwyddiad a thrwy weithredu’r gyfraith) Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r tenant
Morgais (arwystl): o dir cofrestredig neu dir digofrestredig ar gofrestriad cyntaf gorfodol Rhoddwr benthyg (arwystlai), Cymerwr benthyg (arwystlwr) unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg neu’r cymerwr benthyg
Rhyddhau morgais ar bapur ar ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 Rhoddwr benthyg
Mae cofrestriad cyntaf gorfodol yn esbonio pryd bydd cais am gofrestriad cyntaf yn orfodol Gwerthwr neu landlord, Prynwr neu denant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran yr uchod
Cofrestriad cyntaf gwirfoddol ond dim ond lle collwyd y gweithredoedd ac nid yw’r ceisydd yn drawsgludwr neu’n gorff corfforaethol adnabyddus a gollodd y gweithredoedd eu hunain Ceisydd am gofrestriad cyntaf fel perchennog y tir, unrhyw atwrnai ar gyfer y ceisydd
Newid enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd Yr unigolyn sy’n newid ei enw (yn ei enw newydd)
Newid cyfeiriad Yr unigolyn sy’n newid ei gyfeiriad

Eithriadau

Ceir rhai eithriadau, a nodir yn llawn yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth. Y prif eithriadau sy’n effeithio ar geisiadau a anfonir gan rai nad ydynt yn drawsgludwyr lle nad oes angen cadarnhad o hunaniaeth arnom ar gyfer rhai neu bob parti yw:

  • prydles neu arwystl sy’n cael ei nodi’n unig yn y gofrestr
  • ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf oni bai bod y gweithredoedd teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio

Nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth chwaith ar gyfer rhai partïon sydd eisoes yn gorfod anfon tystiolaeth o’u penodiad atom. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr mewn methdaliad, datodwyr a dirprwyon Ddeddf Iechyd Meddwl (mae rhestr lawn ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth). Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pan fyddant yn bartïon i weithred, a phan fyddant yn anfon y cais o dan sylw atom eu hunain hefyd.

Sylwer er hynny bod cadarnhad o hunaniaeth yn ofynnol o hyd ar gyfer y buddiolwr o dan gydsyniad neu’r trosglwyddai o dan drosglwyddiad, a hefyd ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n cyflwyno’r cais (oni bai mai ef/hi yw’r ymddiriedolwr mewn methdaliad ac ati, fel y cyfeirir ato yn y paragraff uchod). Mae hyn yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle y mae’r tir eisoes yn gofrestredig a hefyd lle gwneir cais am gofrestriad cyntaf gorfodol. Yn ychwanegol at yr uchod, nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth arnom lle nad yw gwir werth y tir o dan sylw yn y gwarediad yn uwch na £6,000.

Llenwi ffurflen ID3

Pan fydd parti i drafodiad yn cynnwys mwy nag un person, rhaid i bob un ohonynt lenwi ffurflen ID ar wahân a chyflwyno tystiolaeth o’u hunaniaeth.

Mae’r enghreifftiau canlynol yn helpu i ddangos pryd y mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ac ar gyfer pwy (lle mae rhywun nad yw’n drawsgludwr yn un o’r proffesiynau awdurdodedig yn cadarnhau hunaniaeth).

  • mae cymydog A yn gwerthu rhan o’i ardd gefn i Gymydog B. Nid oes un ohonynt yn defnyddio trawsgludwr ac mae’r ddau yn unigolion preifat. Mae Cymydog B wedyn yn cyflwyno’r cais i gofrestru.

Mae angen ffurflenni ID3 ar wahân arnom gan Gymydog A fel y trosglwyddwr a Chymydog B fel y trosglwyddai.

  • Mae C yn morgeisio ei heiddo i D, sy’n gwneud cais i gofrestru’r morgais. Nid oes un ohonynt yn defnyddio trawsgludwr ac mae’r ddau yn unigolion preifat.

Mae angen ffurflenni ID3 ar wahân arnom gan C fel cymerwr benthyg a D fel rhoddwr benthyg.

  • mae E ac F yn trosglwyddo eu heiddo trwy rodd i G. Mae H yn cyflwyno’r cais i gofrestru ar ran G. Mae pob un yn unigolion preifat.

Bydd angen ffurflenni ID3 ar wahân arnom ar gyfer E ac F fel cyd-drosglwyddwyr, G fel y trosglwyddai a H fel yr unigolyn sy’n cyflwyno’r cais.

Pa rannau o’r ffurflen i’w llenwi

Rhaid ichi lenwi adran 1.

Rhaid i Adran 2 gael ei llenwi gan drawsgludwr neu Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Siartredig.

Cadarnhau hunaniaeth

Yn unol â’r cyfarwyddyd a wnaed gan y Prif Gofrestrydd Tir o dan adran 100(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 at ddiben cadarnhau hunaniaeth person, rhaid llenwi ffurflen ID3 bob amser pan fo’r hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan rywun sy’n gweithio yn un o’r proffesiynau awdurdodedig isod.

  • Meddyg
  • Deintydd
  • Cyfrifydd siartredig neu ardystiedig
  • Cynghorydd ariannol rheoledig
  • Aelod Seneddol
  • Aelod o’r Senedd

Roedd proffesiynau eraill wedi eu cynnwys yn flaenorol ar Ffurflen ID3. Gweler Cyfarwyddyd ymarfer 67 am ragor o wybodaeth.

Gofynion

Ni ddylai ffurflen ID3 fod yn hŷn na 3 mis oed pan gaiff ei chyflwyno gyda chais i gofrestru.

Rhaid bodloni pob un o’r amodau canlynol.

  • Rhaid i’r person y mae ei hunaniaeth i’w chadarnhau a’r cadarnhäwr feddu ar basbort llawn cyfredol dilys y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
  • Rhaid eu bod wedi adnabod ei gilydd ers o leiaf blwyddyn.
  • Rhaid iddynt beidio â bod yn perthyn i’w gilydd mewn unrhyw ffordd.
  • Rhaid iddynt beidio â bod yn rhan o’r un trafodiad.

Yn ogystal:

  • Rhaid i’r ddau ohonynt ddarparu copi o dudalen manylion personol eu pasbort i Gofrestrfa Tir EF. Sylwer, lle mae’r cadarnhäwr yn cadarnhau hunaniaeth mwy nag un person, rhaid iddo ddarparu nifer cyfatebol o gopïau o’u tudalen manylion personol i’r nifer o bobl y mae wedi cadarnhau eu hunaniaeth. Nid yw un copi i bawb yn dderbyniol.

  • Lle bo modd, dylai’r cadarnhäwr gynnwys ei rif cofrestru proffesiynol er mwyn galluogi i’r gwiriadau priodol gael eu gwneud

Gwybodaeth bellach

Gweler hefyd cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth a llenwi ffurflenni ID1 ac ID2 am wybodaeth bellach.

Cymorth pellach yn ofynnol

Os oes angen cymorth pellach arnoch oherwydd eich cyflwr neu amgylchiadau, cysylltwch â ni.

Anfon eich ffurflenni

Anfonwch y ffurflen(ni) wedi ei llenwi i’n Canolfan Dinasyddion – gweler cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.

Cyhoeddwyd ar 8 December 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 February 2024 + show all updates
  1. Guidance amended as a result of amendments to form ID3 and the withdrawal of form ID4.

  2. Following a review of our practice, a personal representative who assents or transfers land has been removed from the exception status and must now provide evidence of identity with any such application.

  3. First published.