Canllawiau

Llenwi’r paneli tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflenni AP1, FR1, DS2

Ffurflenni AP1, FR1 a DS2: cyfarwyddyd yn ymwneud â phryd y mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth hunaniaeth i gefnogi cais i gofrestru.

Applies to England and Wales

Cyflwyniad

Tir ac adeiladau yw’r asedau mwyaf gwerthfawr sydd gan bobl fel arfer. Gellir eu gwerthu a’u morgeisio i godi arian ac felly gallant fod yn dargedau deniadol i dwyllwyr.

Mae gan Gofrestrfa Tir EF, trawsgludwyr proffesiynol a rhoddwyr benthyg morgeisi fesurau diogelwch i leihau’r perygl o dwyll llwyddiannus ac mae hyn yn cynnwys gwirio hunaniaeth cleientiaid a phartïon sy’n ymwneud â thrafodion sy’n effeithio ar eiddo.

Rhaid i Gofrestrfa Tir EF hefyd wirio hunaniaeth partïon sy’n ymwneud â rhai mathau o drafodion eiddo lle nad yw trawsgludwr yn gweithredu, i wneud yn siwr nad yw’r cais yn dwyllodrus.

Rhybudd am dwyll


Os oes gofyniad i gadarnhau hunaniaeth neu i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth, ac rydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.

Gwneud cais

Os ydych yn anfon neu’n dod â chais atom, gwnewch yn siwr bod yr holl ddogfennau cywir a’r dystiolaeth ofynnol sydd eu hangen ar gyfer eich cais gyda chi. Gwnewch yn siwr hefyd bod popeth wedi ei lenwi’n gywir. Yna bydd angen ichi lenwi’r ffurflen gais ofynnol ar gyfer eich math o gais a gwirio hunaniaeth unrhyw berson sydd heb gynrychiolaeth, lle bo hyn yn angenrheidiol.

  1. Rhaid ichi ddarparu cadarnhad hunaniaeth ar gyfer unrhyw un o’r partïon neu bersonau a grybwyllir yn Gofynion cadarnhau hunaniaeth trwy lenwi’r paneli perthnasol yn ffurflen AP1, ffurflen DS2 neu ffurflen FR1.

  2. Os nad oes gan unrhyw un o’r partïon a grybwyllir yn y tabl gynrychiolaeth gyfreithiol, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth hefyd.

  3. Os yw’r cais yn cael ei anfon i Gofrestrfa Tir EF gan rywun nad yw’n un o’r partïon neu bersonau a grybwyllir yn y tabl, bydd yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o’u hunaniaeth.

Bydd gweithredoedd a dogfennau a anfonir atom gyda cheisiadau yn cael eu sganio ac yna eu dinistrio – os ydynt yn rhai gwreiddiol neu’n gopïau.

Os ydych am gadw dogfen wreiddiol, ni ddylech ei hanfon atom. Yn lle hynny, dylech wneud llungopi ac yna ardystio ei fod yn gopi gwir o’r gwreiddiol. Gwneir hyn trwy ysgrifennu “Tystiaf fod hwn yn gopi gwir o’r gwreiddiol” ac arwyddo ar frig tudalen 1. Gallwch anfon copïau o ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 atom ond bydd yn rhaid i’r sawl sy’n cwblhau rhan B lofnodi a dyddio’r llun ar y cefn a bydd yn rhaid i’ch copi ardystiedig gopïo dwy ochr y llun.

Ceir un eithriad. Os nad yw eich tŷ yn gofrestredig, bydd yn rhaid ichi anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol sydd yn eich meddiant atom, a byddwn yn eu dychwelyd.

Gofynion cadarnhau hunaniaeth

Cais Unigolion y mae cadarnhad hunaniaeth yn ofynnol ar eu cyfer
Trosglwyddo tir neu drosglwyddo morgais (p’un ai yw am arian ai peidio. Mae hefyd yn cynnwys trosglwyddiadau i benodi neu ddiswyddo ymddiriedolwr a chydsyniadau gan gynrychiolwyr personol Trosglwyddwr (gwerthwr), Trosglwyddai (prynwr), unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y gwerthwr neu’r prynwr, unrhyw gynrychiolydd personol
Prydles (p’un ai yw am arian ai peidio) Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r tenant
Ildio prydles gofrestredig: cais i gau’r teitl prydlesol (yn cynnwys ildio trwy drosglwyddiad a thrwy weithredu’r gyfraith) Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r tenant
Morgais (arwystl): o dir cofrestredig neu dir digofrestredig ar gofrestriad cyntaf gorfodol Rhoddwr benthyg (arwystlai), Cymerwr benthyg (arwystlwr) unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg neu’r cymerwr benthyg
Rhyddhau morgais ar bapur ar ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 Rhoddwr benthyg
Mae cofrestriad cyntaf gorfodol yn esbonio pryd bydd cais am gofrestriad cyntaf yn orfodol Gwerthwr neu landlord, Prynwr neu denant, unrhyw atwrnai sy’n gweithredu ar ran yr uchod
Cofrestriad cyntaf gwirfoddol ond dim ond lle collwyd y gweithredoedd ac nid yw’r ceisydd yn drawsgludwr neu’n gorff corfforaethol adnabyddus a gollodd y gweithredoedd eu hunain Ceisydd am gofrestriad cyntaf fel perchennog y tir, gan gynnwys lle mai cynrychiolydd personol yw’r ceisydd, unrhyw atwrnai ar gyfer y ceisydd
Newid enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd Yr unigolyn sy’n newid ei enw (yn ei enw newydd)
Newid cyfeiriad Yr unigolyn sy’n newid ei gyfeiriad

Eithriadau

Ceir rhai eithriadau, a nodir yn llawn yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr. Y prif eithriadau sy’n effeithio ar geisiadau a anfonir gan rai nad ydynt yn drawsgludwyr lle nad oes angen cadarnhad hunaniaeth arnom ar gyfer rhai neu bob parti yw:

  • prydles neu arwystl sy’n cael ei nodi’n unig yn y gofrestr
  • ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf oni bai bod y gweithredoedd teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio

Nid oes angen cadarnhad hunaniaeth chwaith ar gyfer rhai partïon sydd eisoes yn gorfod anfon tystiolaeth o’u penodiad atom. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr mewn methdaliad, datodwyr a dirprwyon Ddeddf Iechyd Meddwl (mae rhestr lawn ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr). Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pan fyddant yn bartïon i weithred, a phan fônt yn anfon y cais o dan sylw atom eu hunain hefyd.

Sylwer er hynny bod cadarnhad hunaniaeth yn ofynnol o hyd ar gyfer y buddiolwr o dan gydsyniad neu’r trosglwyddai o dan drosglwyddiad, a hefyd ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n cyflwyno’r cais (oni bai mai ef/hi yw’r ymddiriedolwr mewn methdaliad ac ati fel y cyfeirir ato yn y paragraff uchod). Mae hyn yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle y mae’r tir eisoes yn gofrestredig a hefyd lle gwneir cais am gofrestriad cyntaf gorfodol. Yn ychwanegol at yr uchod, nid oes angen cadarnhad hunaniaeth arnom lle nad yw gwir werth y tir o dan sylw yn y gwarediad yn uwch na £6,000.

Cadarnhau paneli hunaniaeth ar geisiadau gan rywun nad yw’n drawsgludwr

Ffurflen AP1

Panel 12: Cadarnhau hunaniaeth

Rhaid ichi gwblhau’r ail ddewis, ac yna mynd i banel 14.

12 in welsh

Panel 14: Lle y mae’r cais yn cael ei anfon i Gofrestrfa Tir EF gan rywun nad yw’n drawsgludwr

(1) Manylion y trawsgludwr gweithredol

Os yw eich cais yn un o’r rhai a grybwyllir yng ngholofn gyntaf y tabl yn adran 2 uchod, rhaid ichi wedyn gwblhau rhan gyntaf panel 14 gydag enwau llawn y partïon neu bersonau y cyfeirir atynt yn y tabl rydych yn eu hanfon atom, a nodi manylion unrhyw drawsgludwr a weithredodd ar eu rhan. Os nad yw unrhyw un o’r partïon yn cael eu cynrychioli’n gyfreithiol ysgrifennwch ‘Dim’ yn yr ail golofn.

Mae’r canlynol yn enghraifft o sut i gwblhau’r panel hwn.

14 in welsh

Dim ond mewn achosion lle y mae rhyddhau neu ollwng morgais ar bapur trwy ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 yn cael ei gyflwyno gyda’r cais y mae angen cwblhau ail ran y panel hwn. Mae’r cwblhau yn debyg i’r rhan gyntaf uchod.

(2) Tystiolaeth hunaniaeth

Rhaid ichi gwblhau’r adran hon ar bob amser. Am wybodaeth am hyn, gweler Llenwi ffurflenni ID1 ac ID2 hefyd.

Dim ond os yw’r ceisydd a ddangosir ym mhanel 6 eich ffurflen yn wahanol i unrhyw un o’r personau a enwyd ym mhanel 14 mae angen ichi groesi’r blwch cyntaf (‘ar gyfer pob ceisydd a restrir ym mhanel 6 wedi’i hamgáu’).

Rhaid ichi groesi’r ail flwch (‘ar gyfer pob trosglwyddwr, ac ati’) os ydych wedi ysgrifennu ‘Dim’ yn yr ail golofn yn unrhyw un o’r paneli uchod.

Yn yr enghraifft uchod, mae angen tystiolaeth hunaniaeth Alwena Evans am nad oes ganddi gynrychiolaeth gyfreithiol. Os bydd rhywun ar wahân iddi hi’n anfon y cais atom, bydd angen tystiolaeth hunaniaeth ar eu cyfer nhw hefyd os nad ydynt yn drawsgludwr.

15 in welsh

Panel 15: Llofnod

Rhaid ichi gwblhau’r panel hwn ar bob adeg, hyd yn oed os nad ydych yn cwblhau panel 14. Rhaid i bob person a restrir ym mhanel 6 lofnodi. Nid yw’n ddigonol i’r sawl a enwir ym mhanel 7 (os yw’n wahanol) lofnodi.

Ffurflen FR1

Paneli 14, 16 ac 17

Yn ei hanfod, mae’r cwblhau yr un fath â gyda ffurflen AP1. Nid oes panel rhyddhau ar wahân oherwydd ni fydd unrhyw arwystl cofrestredig i’w ryddhau.

Nid oes yn rhaid ichi lenwi paneli 14 ac 16 os ydych yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol.

Rhaid i chi lenwi panel 17 bob tro, hyd yn oed os nad ydych yn cwblhau panel 14. Rhaid i bob person a restrir fel ceisydd ym mhanel 6 lofnodi.

Ffurflen DS2

Panel 8: Cadarnhau hunaniaeth

Rhaid ichi gwblhau’r ail opsiwn.

Panel 10: Os yw’r cais yn cael ei anfon i Gofrestrfa Tir EF gan rywun nad yw’n drawsgludwr

Yn ei hanfod, mae cwblhau’r un fath ag yn adran 4.1 ffurflen AP1, ac eithrio mai panel rhoddwr benthyg yn unig sydd i’w gwblhau. Lle nad oes trawsgludwr yn gweithredu ar ran y naill barti neu’r llall, mae angen tystiolaeth hunaniaeth arnom ar gyfer y rhoddwr benthyg a’r ceisydd (ac eithrio pan fo’r ceisydd yn fanc neu gymdeithas adeiladu yn y DU mewn perthynas â’i arwystl ei hun). Fodd bynnag, os yw ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 wedi eu llofnodi gan atwrnai ar gyfer y rhoddwr benthyg (neu trwy lofnodwr awdurdodedig arall), nid oes angen cadarnhau hunaniaeth ar gyfer yr atwrnai/asiant.

Panel 11: Llofnod

Rhaid ichi gwblhau’r panel hwn bob tro.

Eiddo lle nad yw’r gwir werth dros 6,000

Nid oes rhaid ichi gadarnhau hunaniaeth y rheiny sy’n ymwneud â thrafodion lle nad yw gwir werth y tir sy’n destun y gwarediad dros £6,000. Yn yr achosion hyn gallwch yn lle hynny gyflwyno tystysgrif gan rywun sy’n gymwys i roi prisiadau eiddo yn cadarnhau gwerth y tir, er enghraifft gwerthwr tai, arolygwr tir, prisiwr tir ac eiddo neu arwerthwr sy’n dal cymhwyster gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig neu ryw berson arall sydd â chymhwyster tebyg.

Gallwch ddarparu tystiolaeth hunaniaeth o hyd os yw’n well gennych, ac rydym hefyd yn cadw’r hawl i fynnu tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID1 neu ffurflen ID2, mewn unrhyw achos penodol.

Trefniadau llythyr cyfleuster

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cyhoeddi ‘llythyrau cyfleuster’ ar gyfer nifer gyfyngedig o bobl sy’n ymwneud yn rheolaidd â Chofrestrfa Tir EM. Mae’r rhain yn eithrio’r unigolion hyn o’n gofynion hunaniaeth arferol. Rhaid amgáu copi o’r llythyr cyfleuster gydag unrhyw gais lle mae angen cadarnhad hunaniaeth fel arfer, yn lle ffurflen ID1 neu ffurflen ID2.

Dim ond lle nad yw gwerth yr eiddo’n uwch na £100,000 y gellir defnyddio llythyr cyfleuster.

Os ydych am wneud cais am drefniant o’r fath, cysylltwch â’n cymorth i gwsmeriaid.

Os oes angen cymorth pellach arnoch

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ymrwymo i sicrhau hygyrchedd i’n holl gwsmeriaid. Os oes angen cymorth pellach arnoch oherwydd eich cyflwr neu amgylchiadau, cysylltwch â ni.

Anfon eich ffurflenni

Anfonwch y ffurflen(ni) wedi ei llenwi i’n Canolfan Dinasyddion – gweler cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.

Cyhoeddwyd ar 18 August 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 September 2023 + show all updates
  1. Following a review of our practice, a personal representative who assents or transfers land has been removed from the exception status and must now provide evidence of identity with any such application.

  2. Amended to reflect our current identity policy which is contained in practice guide 67.

  3. Clarified the guidance for form DS2 where no conveyancer is acting for either party. We require evidence of identity for the lender and the applicant (except where the applicant is a UK bank or building society in respect of their own charge).

  4. First published.