Canllawiau

Y Gwasanaeth Cofrestru Digidol

Cyflwyno ceisiadau Cofrestrfa Tir EF yn y porthol, gan leihau gwallau ac ymholiadau.

Applies to England and Wales

O 30 Tachwedd 2022, y Gwasanaeth Cofrestru Digidol yw’r llwybr diofyn i gwsmeriaid busnes gyflwyno ceisiadau trwy’r porthol, gan ddisodli ein Gwasanaeth Cofrestru Dogfennau electronig.

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ac wedi ei gynllunio i weithio i bawb. Ei nod yw gwneud cyflwyno ceisiadau mor syml â phosibl a lleihau gwallau yn sylweddol – ac felly ymholiadau.

Fe’i defnyddir yn eang, gyda dros 650,000 o geisiadau ers i’r gwasanaeth fynd yn fyw yn Ebrill 2021. Yn y cyfamser, mae’r gostyngiad o 40% mewn ymholiadau ynghylch enwau a ffïoedd anghywir yn dangos effaith gadarnhaol sylweddol ar wallau.

Y manteision

Mae nodweddion arbed amser a lleihau gwallau yn cynnwys:

  • gwybodaeth yn cael ei gwirio am wallau wrth ichi fynd yn eich blaen – gan ei chymharu â’r Gofrestr Tir
  • canllawiau ac awgrymiadau i’ch helpu i wneud pethau’n iawn y tro cyntaf a rhoi’r manylion gofynnol
  • llenwi meysydd yn awtomatig o’r Gofrestr Tir neu ddata a gofnodwyd eisoes
  • ffïoedd yn cael eu cyfrifo a’u hychwanegu’n awtomatig ichi
  • arbed wrth ichi fynd yn eich blaen er mwyn ichi allu dychwelyd at gais yn ddiweddarach (trwy View Applications)
  • gwirio cynnydd ceisiadau a gyflwynwyd gennych chi a’ch cydweithwyr, (trwy View Applications)

Dywed Emma Pickerin, o gwmni Simply Conveyancing Property Lawyers:

Rwy’n defnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol ar bob cais lle bo’n bosibl ac mae’n wasanaeth cyflym iawn a hawdd i’w ddefnyddio yn fy marn i. Rwy’n hoffi’r ffordd mae’n eich arwain trwy bob tudalen ac yn eich galluogi i ddiwygio yn ôl yr angen yn rhwydd. Mae’r amser ymateb i ymholiadau a chwblhau cofrestriad yn llawer mwy effeithlon.

Dechrau arni

Os ydych yn defnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF, gallwch ddechrau arni ar unwaith. Mewngofnodwch i’r porthol a dewiswch ‘Digital Registration Service’ o’r gwymplen ‘Services’ ym maner uchaf yr hafan.

Ddim yn defnyddio’r porthol?

Rhaid ichi fod yn gwsmer e-wasanaethau busnes a chael cyfrif porthol i ddefnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol. Nid oes ffi i gofrestru ar gyfer e-wasanaethau busnes Cofrestrfa Tir EF, ond rhaid bod gennych o leiaf un cyfrif Debyd Uniongyrchol amrywiol i dalu ffïoedd am y gwasanaethau a ddefnyddir gennych. Gwneud cais i ddefnyddio’n gwasanaethau electronig i gwsmeriaid busnes.

Awgrymiadau ac arweiniad

Mae’r system yn eich arwain ar hyd y ffordd ac yn eich annog am fanylion perthnasol. Ond i’ch helpu i gael y gorau ohono, mae digon o awgrymiadau a gwybodaeth arweiniad ar gael.

Gallwch ddarllen am ble i gyflwyno cais yn y porthol.

Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau a chanllawiau ar geisiadau ar ein rhestr chwarae Gwasanaeth Cofrestru Digidol.

Rydym yn gwella’r gwasanaeth a’r hyn sydd ar gael i gwsmeriaid yn barhaus. Mae eich adborth yn amhrisiadwy, felly defnyddiwch y cysylltau yn y Gwasanaeth Cofrestru Digidol i rannu eich barn ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn hoffech chi ei weld yn cael ei ychwanegu neu ei newid.

Ceisiadau sy’n cael eu cefnogi

Gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol i wneud y canlynol:

  • diweddaru teitlau cofrestredig
  • cofrestru teitlau newydd (gan gynnwys trosglwyddiadau o ran a phrydlesi newydd)
  • cofrestru estyniadau prydlesi (cau hen brydles a chofrestru prydles newydd o’r un eiddo i’r un tenant)
  • cau teitlau prydlesol (gan gynnwys ceisiadau i gyd-doddi)
  • dileu cyfyngiadau Ffurf A diofyn

Pryd i ddefnyddio gwasanaeth gwahanol

Mae tudalen gychwyn y Gwasanaeth Cofrestru Digidol yn dangos y diweddaraf am y ceisiadau sydd ar gael a chysylltau i unrhyw beth nad yw wedi ei gynnwys eto.

Parhewch i ddefnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Dogfennau electronig etifeddol ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys 26 i 50 o deitlau.

Ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys dros 50 o deitlau, cysylltwch â’r tîm ceisiadau swmp.

Ar gyfer cofrestriadau cyntaf (FR1), dylech gyflwyno ceisiadau trwy’r post.

Mae lleiafrif bach o gwsmeriaid yn cyflwyno trosglwyddiadau portffolio, gan ddefnyddio ffurflenni TR5 sy’n bodoli. Nid yw’r math hwn o gais ar gael yn y Gwasanaeth Cofrestru Digidol ar hyn o bryd, ond rydym yn blaenoriaethu gwaith i ddod o hyd i ateb. Yn y cyfamser, dylai cwsmeriaid gyflwyno’r ceisiadau hyn trwy’r Gwasanaeth Cofrestru Dogfennau electronig etifeddol.

Ychwanegiadau diweddaraf

O 25 Ebrill 2023, mae ceisiadau’n arbed yn gynharach yn y broses. Ar ôl nodi’r manylion craidd lleiaf posibl, bydd eich cais yn arbed yn awtomatig ac yna’n parhau i arbed wrth fynd ymlaen.

O 19 Ionawr 2023, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol i wneud y canlynol:

  • cofrestru estyniadau prydlesi
  • diwygio enw a chyfeiriad ar gyfer gohebu
  • diwygio enw morgeisai a’r cyfeiriad ar gyfer gohebu
  • cofrestru trosglwyddiad arwystl neu gydsyniad arwystl
  • cofrestru penodiadau ymddiriedolwyr newydd
  • cofrestru trosglwyddiad am werth RTB/RTA (hawl i brynu neu gaffael) neu drosglwyddiad trwy weithrediad y gyfraith ar farwolaeth
  • cofrestru rhyddhad o ran (DS3)
  • cofrestru cyfuniad o arwystl neu is-arwystl

Beth fydd yn cael ei ychwanegu

Rydym yn gweithio i ychwanegu:

  • rhagor o hyblygrwydd wrth olygu eich cais cyn ei gyflwyno
  • cyfrifiannell ffïoedd ar gyfer prydlesi a throsglwyddiadau o ran
Cyhoeddwyd ar 14 August 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 December 2023 + show all updates
  1. Added guidance about submitting a colleague's application in the Digital Registration Service.

  2. We have added the latest update for the Digital Registration Service under the 'Latest additions' heading. From 25 April 2023, applications save earlier in the process.

  3. Updates to 'Supported applications' and 'What will be added'.

  4. Updated page for the Digitial Registration Service.

  5. Update to Applications not yet accepted.

  6. We have added further information about the move from electronic to digital applications.

  7. Digital Registration Service can accept applications with more than 1 title.

  8. Added a Digital Registration Service webinar recording and moved assents to the list of services accepted by the Digital Registration Service.

  9. Added a link to our Introduction to Digital Registration Service webinar.

  10. Digital Registration Service is now available to all portal users.

  11. We added a link so you can sign up to receive an email when the service is available.

  12. First published.