Canllawiau

Hanfodion Cofrestrfa Tir EF

Bydd ein pecyn hyfforddi hunanwasanaeth yn eich helpu gyda’r pethau sylfaenol – os ydych yn newydd i drawsgludo neu am gael sesiwn gloywi'n unig. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF, a pharatoi a chyflwyno ceisiadau o ansawdd uchel

Applies to England and Wales

Yr hyn mae Cofrestrfa Tir EF yn ei wneud

Dechreuwch gyda’n fideo byr (1:46) yn egluro’r hyn rydym yn ei wneud, y wybodaeth sydd gennym a sut rydym yn gweithio o ddydd i ddydd:

Beth mae Cofrestrfa Tir EF yn ei wneud? – YouTube

Sut mae Cofrestrfa Tir EF yn rhan o’r broses drawsgludo

Mae gennym ein rhan gydol y broses drawsgludo. Mae ein fideo byr (2:47) yn esbonio hyn yn fanylach, o ddarparu data i werthwyr tai i’w helpu i farchnata eiddo, hyd at gofrestru’r gwerthiant:

Cofrestrfa Tir EF a’r broses drawsgludo – YouTube

10 awgrym da ar gyfer ceisiadau penigamp

Darllenwch ein hawgrymiadau ar gyfer gwella ansawdd ceisiadau a anfonir i Gofrestrfa Tir EF.

Cofrestr teitl

Rydym yn edrych yma ar y tair rhan sydd fel arfer yn rhan o gofrestr teitl – y cofrestri eiddo, perchnogaeth ac arwystlon.

Gweithdy ceisiadau ar-alw

Mae ein gweithdy ceisiadau wedi ei ddylunio gyda chwsmeriaid i’ch helpu i gyflwyno ceisiadau o safon i Gofrestrfa Tir EF ac osgoi ceisiadau am wybodaeth (ymholiadau) a all achosi oedi sylweddol yn y broses gofrestru.

Rydym yn anfon ymholiad pan fydd angen eglurhad neu ragor o wybodaeth am rywbeth yn eich cais, felly mae’n fuddiol ei gael yn iawn y tro cyntaf.

Rydym wedi rhannu’r gweithdy yn bum modiwl unigol er mwyn ichi allu ymdrin â’r hyn sydd ei angen arnoch pan fydd ei angen arnoch.

Yn ogystal â sut i osgoi ceisiadau am wybodaeth, rydym yn archwilio ffurflenni a gweithredoedd, cyflawni, cyfyngiadau yn y gofrestr ac amrywiadau mewn enwau. Yn olaf, mae cyfle i feddwl fel gweithiwr cais – fyddech chi’n anfon ymholiad?

Gwyliwch ein fideos hanfodol ar gyfer trawsgludwyr, cyfreithwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill.

Canllaw ffïoedd

Bydd ein cyfrifiannell ffïoedd yn eich helpu i nodi cost pob math o gais.

Mae’r siart llif ffïoedd yn helpu gyda cheisiadau ‘Graddfa 2’ ar gyfer trosglwyddiadau neu gydsyniadau ar gyfer dim cydnabyddiaeth ariannol, gan nad yw’r gyfrifiannell yn ymdrin â’r rhain ar hyn o bryd.

Mae’r canllawiau Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru yn rhoi manylion llawn ein ffïoedd.

Gweminarau ffïoedd

Ein hyb hyfforddi

I gael deunyddiau hyfforddi manylach ar nifer fawr o bynciau, ewch i’n hyb hyfforddi a chanllawiau.

Adborth

Rydym yn gwerthfawrogi’ch sylwadau, syniadau ac awgrymiadau yn fawr felly os oes gennych unrhyw adborth am y dudalen hon neu unrhyw awgrymiadau am bynciau a deunyddiau hyfforddi yr hoffech inni eu darparu, anfonwch ebost at y tîm training@landregistry.gov.uk.

Cofrestrwch i gael negeseuon ebost am y dudalen hon gan y bydd rhagor o ddeunydd hyfforddi’n cael ei hychwanegu yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd ar 24 July 2023