Canllawiau

Sut i apelio i’r Tribiwnlys Treth Haen Gyntaf (T242)

Diweddarwyd 21 Tachwedd 2025

Ynglŷn â’r canllaw hwn

Mae’r canllaw hwn yn egluro:

  • sut i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Dreth)
  • beth sy’n digwydd gyda’r apêl ar ôl i chi apelio
  • beth sy’n digwydd cyn i’r barnwr wneud eu penderfyniad
  • beth allwch chi ei wneud wedyn

Canllaw yn unig yw hwn. Nid yw’n cynnwys pob sefyllfa, nac yn darparu eglurhad llawn o’r rheolau gweithdrefnol.

Dylech hefyd ddarllen y trosolwg o’r canllawiau ar apelio i’r tribiwnlys treth.

Ynglŷn â’r tribiwnlys

Mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Dreth) yn gwrando a phenderfynu ar apeliadau cysylltiedig â threth yn erbyn y rhan fwyaf o benderfyniadau a wnaed gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) ac yn erbyn rhai penderfyniadau a wnaed gan:

  • Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
  • Llu’r Ffiniau
  • Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
  • Comisiwn Hapchwarae (penderfyniadau am yr Ardoll Trosedd Economaidd)

Ni ellir gwrando ar benderfyniadau ar gredyd treth (sy’n hawl budd-dal) a wnaed gan CThEF gan y tribiwnlys. Mae yna ffyrdd gwahanol i apelio yn erbyn penderfyniadau am  gredydau treth a Threth y Cyngor. Gweler rhestr o enghreifftiau o benderfyniadau y gellir eu hapelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae’r system apeliadau treth, a holl farnwyr ac aelodau yn annibynnol o CThEF, yr ACC, Llu’r Ffiniau, yr NCA a’r Comisiwn Hapchwarae.

Nid yw barnwyr a staff tribiwnlys yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol. Cyn ichi apelio, mae’n bosibl y byddwch yn dymuno dod o hyd i gyngor cyfreithiol.

Cysylltu â’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Tribiwnlys Haen-gyntaf (Siambr Dreth)
Blwch Post 16972
Birmingham
B16 6TZ

Rhif ffôn: 0300 303 5857
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Beth gall y tribiwnlys ei benderfynu

Apeliadau

Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf os yw penderfyniad apeladwy wedi’i gyflwyno ichi neu’n effeithio’n uniongyrchol ar eich atebolrwydd i dalu treth. Fodd bynnag, nid oes gennych hawl i apelio yn erbyn pob penderfyniad sy’n gysylltiedig â threth. Gellir ond gwrando’r apeliadau yn erbyn penderfyniadau credyd treth gan y Siambr Hawl Cymdeithasol yn unig.

Ni all y Tribiwnlys Haen gyntaf wrando cwynion am ymddygiad CThEF. Cysylltwch â CThEF os ydych yn anhapus am y ffordd maent wedi delio gyda’r materion treth. Os ydych eisoes wedi bod drwy broses gwynion CThEF ac yn dal angen cwyno, cysylltwch â Swyddfa’r Dyfarnwr.

Ceisiadau ac atgyfeiriadau

Gall y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Dreth) hefyd wrando a phenderfynu ar geisiadau ac atgyfeiriadau gwreiddiol.

Gweler rhestr o enghreifftiau o geisiadau ac atgyfeiriadau.

Cyn i chi apelio

Mae yna gamau y dylech eu cymryd cyn y gallwch gyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Mae yna reolau gwahanol yn dibynnu ar y math o dreth.

Os yw eich apêl am dreth uniongyrchol, er enghraifft, treth incwm neu dreth gorfforaeth:

  • dylech apelio i CThEF neu’r WRA cyn ichi apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf
  • mae taliad y dreth dan sylw fel arfer yn cael ei ohirio nes bydd canlyniad yr apêl yn hysbys
  • os na fydd CThEF neu’r WRA yn cytuno i ohirio casglu’r dreth tra rydych yn apelio, gallwch wneud cais i’r tribiwnlys i’w ohirio

Os yw eich apêl am dreth anuniongyrchol, er enghraifft, treth ar werth neu dollau tramor:

  • cyn ichi gyflwyno eich apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, dylech naill ai dalu’r dreth dan sylw (neu flaendal), neu dylech wneud cais caledi ariannol i CThEF yn egluro pam y byddai talu’r dreth dan sylw yn achosi caledi ichi.
  • pan fyddwch yn cyflwyno eich apêl, dylech ddweud wrth y Tribiwnlys Haen Gyntaf pa un a ydych wedi talu’r dreth dan sylw (neu flaendal), neu pa un a ydych wedi gwneud cais caledi ariannol i CThEF

Nid ydych angen aros i CThEF ymateb i’ch cais caledi ariannol cyn ichi gyflwyno eich apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf y dylid ei chyflwyno o fewn y terfyn amser gofynnol.

Os nad yw CThEF yn cytuno y byddech yn dioddef caledi, bydd y tribiwnlys yn trefnu gwrandawiad fel y gall benderfynu pa un ai i hepgor y gofyniad.

Os yw taliad y dreth dan sylw wedi’i ohirio a’ch bod yn colli eich apêl, rydych yn debyg o orfod talu llog.

Terfynau amser ar gyfer apelio

Mae yna derfynau amser ar gyfer cyflwyno eich apêl i’r tribiwnlys am dreth anuniongyrchol neu eu hysbysu ynglŷn â’ch apêl am dreth uniongyrchol. Y terfyn amser yw 30 diwrnod o’r canlynol:

  • llythyr barn ar y mater – treth uniongyrchol
  • yr asesiad neu’r penderfyniad – treth anuniongyrchol
  • llythyr casgliad adolygiad – naill ai treth anuniongyrchol neu uniongyrchol

Bydd y terfynau amser sy’n berthnasol wedi eu nodi yn y llythyr penderfyniad a gyflwynir ichi. Mae’r amser yn rhedeg o’r dyddiad ar y llythyr neu’r asesiad, nid o’r dyddiad rydych yn ei gael. Os nad ydych wedi apelio o fewn y terfyn amser, gallwch wneud cais i’r tribiwnlys am ganiatâd i ddod ag apêl hwyr ar yr hysbysiad o apêl.

Rhaid i chi roi rheswm da dros yr oedi. Bydd apeliadau hwyr ond yn cael eu derbyn os yw barnwr yn ystyried yn yr amgylchiadau ei fod er budd cyfiawnder. Byddant yn cymryd i ystyriaeth hyd yr oedi ac unrhyw resymau am yr oedi.

Ynglŷn â cheisiadau

Os bydd deddfwriaeth yn caniatáu, gallwch wneud cais neu atgyfeiriad i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud gan CThEF. Gelwir y rhain yn ‘geisiadau gwreiddiol’. Gweler rhestr o’r mathau mwyaf cyffredin o geisiadau.

Mae yna reolau gwahanol am yr hyn y dylech ei wneud a therfynau amser sy’n berthnasol pan fyddwch yn gwneud cais gwreiddiol neu atgyfeiriad i Dribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae’n bosibl y byddwch am geisio cefnogaeth gyda’ch apêl.

Sut i apelio neu wneud cais gwreiddiol i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf:

Mae’r ffurflen ar-lein a’r ffurflen hysbysiad o apêl yn rhestru’r wybodaeth a’r dogfennau i’w cynnwys gyda’r cais.

Gallwch wneud rhai ceisiadau drwy ddefnyddio’r ffurflen hysbysiad o apêl. Dylech ei llenwi a’i hanfon i swyddfa’r tribiwnlys drwy e-bost neu drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein neu ffurflen bapur berthnasol i apelio neu i wneud eich cais gwreiddiol, gallwch ysgrifennu at y tribiwnlys drwy e-bost neu drwy’r post. Dylech gynnwys:

  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd
  • cyfeiriad ble gellir anfon dogfennau
  • manylion y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
  • y canlyniad a geisir gennych
  • manylion eich rhesymau dros apelio, gan gynnwys unrhyw ffeithiau neu gyfraith rydych yn dibynnu arni
  • copi o’r penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn, neu’r rheswm pam na allwch gael copi

Os yw eich apêl neu gais yn hwyr, dylech egluro pam.

Costau apelio

Nid oes unrhyw ffi ar gyfer apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Yn y mwyafrif o apeliadau, bydd y ddwy ochr yn talu costau eu hunain. Bydd eich costau eich hun yn dibynnu ar gymhlethdod eich apêl a pha un a ydych yn defnyddio cynrychiolydd.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall y tribiwnlys orchymyn i un parti dalu costau parti arall. Bydd hyn ond yn digwydd os:

  • yw eich apêl wedi’i dyrannu i’r categori cymhleth ac nid ydych wedi gofyn i’r apêl gael ei heithrio o atebolrwydd am gostau posibl.
  • mae’r tribiwnlys yn cytuno bod un parti wedi ymddwyn yn afresymol wrth ddwyn, amddiffyn neu gynnal yr apêl.

Os yw taliad y dreth dan sylw wedi’i ohirio a’ch bod yn colli eich apêl, rydych yn debygol o orfod talu llog.

Cefnogaeth gyda’ch apêl a chynrychiolwyr

Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno cael rhywun i’ch cefnogi i:

  • lenwi’r ffurflen apêl
  • delio gyda llythyrau gan y tribiwnlys
  • gwneud ac ymateb i sylwadau
  • ymddangos gerbron y barnwr i chi os oes yna wrandawiad

Gelwir y person hwn yn ‘gynrychiolydd’. Gallwch ddefnyddio cyfreithiwr, cyfrifydd neu unrhyw un arall i weithredu fel eich cynrychiolydd.

Anaml mae arian cyhoeddus, fel cymorth cyfreithiol, ar gael ar gyfer apeliadau treth. Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth am ddim gan:

Os oes gennych gynrychiolydd, rhaid ichi hysbysu’r tribiwnlys am ei enw a chyfeiriad (cyfeiriad e-bost os oes ganddynt un).

Os yw eich cynrychiolydd yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr sy’n ymarfer, gallent hysbysu’r tribiwnlys ar eich rhan.

Os nad yw eich cynrychiolydd yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr, rhaid ichi lenwi’r ffurflen awdurdodi cynrychiolwyr i ddechrau.

Hyd yn oed os nad oes gennych gynrychiolydd, gallwch ddod ag unigolyn arall i wrandawiad. Gyda chaniatâd y barnwr, gall yr unigolyn hwnnw eich cynorthwyo i gyflwyno eich achos.

Gan fod yna derfynau amser i apelio, efallai y byddwch yn gorfod apelio cyn ichi ddod o hyd i gynrychiolydd. Os felly, gallwch hysbysu’r tribiwnlys ar ôl eu penodi.

Ar ôl eich apêl

Os yw eich apêl yn anghyflawn, bydd swyddfa’r tribiwnlys yn ei dychwelyd i chi neu eich cynrychiolydd, os oes gennych un, i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sydd ar goll. Gall olygu, pan fyddwch yn ei hailgyflwyno, bydd yn apêl hwyr – bydd yn rhaid ichi egluro pam ei bod yn hwyr.

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno apêl gyflawn i’r tribiwnlys, byddant yn:

  • cydnabod eu bod wedi derbyn eich apêl yn ysgrifenedig
  • anfon copi o’ch apêl at y parti arall
  • rhoi cyfarwyddiadau i’r ddau barti – gelwir yn ‘gyfarwyddiadau’
  • gofyn i CThEF os yw’r dreth dan sylw wedi’i thalu neu os ydych wedi gwneud cais caledi ariannol, os yw eich apêl am dreth anuniongyrchol

Bydd y tribiwnlys yn dyrannu eich apêl i gategori achos, yn dibynnu ar gymhlethdod eich apêl a’r swm dan sylw.

Os gwnaethoch gyflwyno eich apêl drwy’r post neu e-bost, byddwn yn anfon cyfeirnod atoch pan fyddwn yn cydnabod yr apêl. Os gwnaethoch gyflwyno eich apêl ar-lein, byddwch wedi derbyn cyfeirnod ar unwaith pan wnaethoch gyflwyno eich apêl. Rhaid i chi ddyfynnu’r cyfeirnod pan fyddwch yn cysylltu â’r tribiwnlys.

Dulliau amgen o ddatrys anghydfodau

Unwaith y bydd gennych gyfeirnod Tribiwnlys Haen Gyntaf, os yw eich apêl yn erbyn penderfyniad CThEF, gall fod yn briodol ymgysylltu gyda nhw i weld a allwch ddatrys yr anghydfod heb ddod i wrandawiad. Gelwir hyn yn ‘datrys anghydfod y tu allan i’r llys’ (ADR).

Os byddwch yn cael eich derbyn ar gyfer ADR, caiff eich apêl ei gohirio gan y tribiwnlys am gyfnod byr i’ch galluogi i gymryd rhan mewn ADR gyda CThEF.

Mae yna rwymedigaeth statudol ar y tribiwnlys i hwyluso ac annog ADR. Mae yna hefyd y grym i gyfeirio’r partïon i gymryd rhan mewn ADR ble mae barnwr yn ei ystyried yn briodol.

Categorïau achos

Apeliadau papur oherwydd diffyg

Unwaith y caiff eich apêl ei chydnabod gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mae gan y parti arall 42 diwrnod i anfon y canlynol atoch chi a’r tribiwnlys:

  • datganiad o’r achos, gan nodi eu safbwynt ar eich apêl
  • set electronig o ddogfennau sy’n berthnasol i’ch apêl, a elwir yn ‘fwndel’

Yna bydd gennych 30 diwrnod i gyflwyno unrhyw ymateb ysgrifenedig, ac unrhyw ddogfennau pellach y dymunwch eu hanfon at y tribiwnlys a’r parti arall. Rhaid i chi ddyfynnu’r cyfeirnod pan fyddwch yn cysylltu â’r tribiwnlys.

Penderfynir ar apeliadau papur oherwydd diffyg heb wrandawiad fel arfer. Fodd bynnag, gallwch chi neu’r parti arall ofyn am wrandawiad.

Oni bai y gofynnwyd am wrandawiad, bydd y tribiwnlys yn anfon y dogfennau a’r wybodaeth a gyflwynwyd gennych chi a’r parti arall at farnwr i’w hystyried. Bydd y tribiwnlys yn anfon y penderfyniad ysgrifenedig atoch gynted â phosibl ar ôl i’r barnwr wneud penderfyniad ar eich apêl.

Apeliadau sylfaenol

Unwaith y caiff eich apêl ei chydnabod gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mae gan y parti arall 42 diwrnod i anfon y canlynol atoch chi a’r tribiwnlys:

  • datganiad o resymau, gan nodi eu safbwynt ar eich apêl
  • set electronig o ddogfennau sy’n berthnasol i’ch apêl, a elwir yn ‘fwndel’

Yna bydd gennych 14 diwrnod i gyflwyno unrhyw ymateb ysgrifenedig, ac unrhyw ddogfennau pellach y dymunwch eu hanfon at y tribiwnlys a’r parti arall. Rhaid i chi ddyfynnu’r cyfeirnod pan fyddwch yn cysylltu â’r tribiwnlys .

Gallwch hefyd ofyn i’r parti arall anfon copi papur o’r bwndel atoch.

Yna bydd y tribiwnlys yn trefnu gwrandawiad ar gyfer eich apêl.

Mae apeliadau yn y categori sylfaenol fel arfer yn cael eu gwrando mewn gwrandawiad fideo.

Apeliadau safonol

Unwaith y caiff eich apêl ei chydnabod gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mae gan y parti arall 60 diwrnod i anfon datganiad o’r achos, gan nodi eu safbwynt ar eich apêl atoch chi a’r tribiwnlys.

Yna, bydd gennych 42 diwrnod i ddarparu rhestr o ddogfennau y byddwch yn dibynnu arnynt yn y gwrandawiad i’r tribiwnlys a’r parti arall. Bydd y parti arall hefyd yn rhoi rhestr o ddogfennau ichi y byddant yn bwriadu dibynnu arnynt yn y gwrandawiad.

Bydd y tribiwnlys yn cyflwyno cyfarwyddiadau pellach sy’n nodi beth ddylech chi a’r parti arall ei wneud i baratoi ar gyfer y gwrandawiad. Cyflwynir canllawiau pellach gyda’r cyfarwyddiadau ond dylech chi a’r parti arall:

  • gyfnewid copïau o ddogfennau
  • paratoi a chyfnewid datganiadau tyst
  • darparu gwybodaeth pryd fyddwch chi a’ch tystion ar gael i fynychu gwrandawiad
  • darparu amlinelliad ysgrifenedig o’r dadleuon a wneir yn y gwrandawiad – a elwir yn ‘ddadl fframwaith’

Bydd un parti yn cael cyfarwyddyd i baratoi set electronig o ddogfennau ar gyfer y gwrandawiad, a elwir yn fwndel.

Apeliadau cymhleth

Pan fydd eich apêl yn cael ei dyrannu i’r categori cymhleth, mae gennych 28 diwrnod i wneud cais ysgrifenedig i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf i gael eich eithrio o atebolrwydd am gostau neu dreuliau posibl os dymunwch. Os byddwch yn dewis cael eich eithrio, gallwch adfer unrhyw gostau rhesymol sy’n gysylltiedig â’r apêl – dim ond os bydd eich apêl yn llwyddiannus. Os bydd eich apêl yn aflwyddiannus, bydd gan y parti arall hawl i adfer eu costau rhesymol gennych chi.

Unwaith y caiff eich apêl ei chydnabod gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mae gan y parti arall 60 diwrnod i anfon datganiad o’r achos, gan nodi eu safbwynt ar eich apêl atoch chi a’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Yna, bydd gennych 42 diwrnod i ddarparu rhestr o ddogfennau y byddwch yn dibynnu arnynt yn y gwrandawiad i’r tribiwnlys a’r parti arall. Bydd y parti arall hefyd yn rhoi rhestr o ddogfennau ichi y byddant yn bwriadu dibynnu arnynt yn y gwrandawiad.

Yna, bydd y tribiwnlys yn cyflwyno cyfarwyddiadau pellach sy’n nodi beth ddylech chi a’r parti arall ei wneud i baratoi ar gyfer y gwrandawiad. Cyflwynir canllawiau pellach gyda’r cyfarwyddiadau ond dylech chi a’r parti arall:

  • gyfnewid copïau o ddogfennau
  • paratoi a chyfnewid datganiadau tyst
  • darparu gwybodaeth pryd fyddwch chi a’ch tystion ar gael i fynychu gwrandawiad
  • darparu amlinelliad ysgrifenedig o’r dadleuon a wnaed yn y gwrandawiad (‘dadl fframwaith’).

Bydd un parti yn cael cyfarwyddyd i baratoi set electronig o ddogfennau ar gyfer y gwrandawiad, a elwir yn fwndel.

Y gwrandawiad

Oni bai bod yr apêl yn y categori papurau oherwydd diffyg, fe’i phenderfynir yn, neu ar ôl, gwrandawiad.

Lleoliad

Weithiau mae’r gwrandawiad mewn lleoliad Tribiwnlys Haen Gyntaf ond gall fod ar-lein mewn gwrandawiad fideo. Disgwylir i’r ddau barti fynychu’r gwrandawiad.

Y prif leoliadau tribiwnlys yw Llundain, Birmingham, Manceinion a Caeredin. Weithiau cynhelir gwrandawiadau mewn lleoliadau llys eraill os nad yw pobl yn gallu teithio. Ble bo’n bosibl bydd y tribiwnlys yn trefnu’r gwrandawiad yn seiliedig ar yr hyn a ffefrir gan y partïon, os darperir yn y cyfarwyddiadau ar gyfer achosion categori safonol a chymhleth. Bydd swyddfa’r tribiwnlys yn anfon y dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad atoch. Mae’r amser a nodir yr amser hwyraf y dylech gyrraedd y lleoliad.

Gwrandawiadau drwy fideo

Os bydd y tribiwnlys yn trefnu gwrandawiad fideo, byddant hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau ichi ar sut i ymuno. Gofynnir ichi lenwi a dychwelyd ffurflen fynychu gwrandawiad fideo. Canfod sut i gael rhywun i’ch cefnogi yn ystod gwrandawiad o bell.

Nid yw’n bosibl i chi na thyst ymuno â gwrandawiad fideo y tu allan i’r DU, oni bai bod llywodraeth y wlad honno wedi rhoi caniatâd i bobl yn y wlad honno roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo. Gweler ein canllawiau ar dderbyn a rhoi tystiolaeth drwy gyswllt fideo mewn achosion llys a thribiwnlysoedd y DU.

Dogfennau fydd eu hangen arnoch

Bydd set o ddogfennau wedi eu paratoi ymlaen llaw ar gyfer y gwrandawiad – gelwir hwn yn ‘fwndel’. Dylech ddod â’ch copi papur, os oes gennych un, neu ddyfais y gallwch agor y bwndel electronig arno, fel gliniadur, i’r gwrandawiad. Byddwch angen copi papur neu electronig o’r bwndel gyda chi i weld y dogfennau yn ystod y gwrandawiad.

Pwy fydd yn y gwrandawiad

Bydd y gwrandawiad fel arfer gerbron panel sy’n cynnwys barnwr ac aelod sydd wedi cymhwyso’n broffesiynol. Fodd bynnag, weithiau barnwr yn unig fydd yn gwrando’r achos. Mae gwrandawiadau’n cael eu cynnal yn gyhoeddus fel arfer. Caiff rhestr o wrandawiadau sydd ar y gweill ei chyhoeddi fel y gall arsylwyr fod yn bresennol, ond anaml maent yn bresennol.

Os ydych wedi penodi cynrychiolydd, dylent fod yn bresennol

Dylai unrhyw un sydd wedi paratoi datganiad tyst hefyd fod yn bresennol.

Gallwch hefyd ofyn i ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr fynychu’r gwrandawiad.

Beth sy’n digwydd yn y gwrandawiad

Yn y gwrandawiad, caiff pob parti’r cyfle i:

  • gyflwyno eu hachos, gan gynnwys egluro’r gyfraith berthnasol
  • dangos y dogfennau perthnasol yn y bwndel i’r panel
  • galw ar dystion i roi tystiolaeth

Gall y barnwr neu’r panel roi penderfyniad ar ddiwedd y gwrandawiad, fodd bynnag, mae hyn yn gymharol anarferol. Caiff penderfyniad ysgrifenedig bob amser ei anfon atoch chi neu eich cynrychiolydd, os oes gennych un, ar ôl i’r gwrandawiad gael ei gynnal.

Os na allwch fynychu’r gwrandawiad

Os na allwch fynychu’r gwrandawiad, dylech gysylltu â’r Tribiwnlys Haen Gyntaf cyn gynted â phosibl, yn egluro eich rhesymau. Dylech hefyd hysbysu’r parti arall.

Os ydych yn dymuno gohirio’r gwrandawiad tan ddyddiad arall, dylech gysylltu â’r tribiwnlys gynted â phosibl i egluro pam. Bydd barnwr yn penderfynu beth ddylai ddigwydd. Ni ddylech gymryd y caiff gwrandawiad ei ganslo neu ei ohirio oherwydd eich bod wedi gofyn – bydd gwrandawiad yn parhau oni bai bod y tribiwnlys yn dweud ei fod wedi’i ganslo. Os na fyddwch yn mynychu’r gwrandawiad, bydd y panel neu’r barnwr yn penderfynu pa un ai i barhau hebddoch chi.

Os byddwch yn rhedeg yn hwyr i’r gwrandawiad, dylech gysylltu â’r tribiwnlys i’w hysbysu gynted â phosibl.

Tynnu eich apêl yn ôl

Os ydych yn dymuno tynnu eich apêl yn ôl, dylech hysbysu’r tribiwnlys a’r parti arall yn ysgrifenedig drwy e-bost neu’r post.

Os bydd eich apêl yn cael ei thynnu’n ôl, ond eich bod yn dymuno ei hadfer, dylech ysgrifennu at y tribiwnlys o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad wnaethoch hysbysu’r parti eich bod wedi ei thynnu’n ôl. Os byddwch yn hwyr, mae’n bosibl na fydd yn bosibl i’ch apêl gael ei hadfer.

Y penderfyniad

Bydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf bob amser yn anfon penderfyniad ysgrifenedig atoch chi neu eich cynrychiolydd. Bydd y penderfyniad ysgrifenedig yn cynnwys rhesymau llawn neu grynodeb o’r rheswm gan gynnwys canfod y ffeithiau perthnasol. Fodd bynnag, os ydych chi a’r parti arall wedi cytuno y gellir cyflwyno penderfyniad byr, ni fydd y tribiwnlys yn cynnwys rhesymau llawn neu grynodeb yn y penderfyniad ysgrifenedig.

Os byddwch yn colli eich achos

Os nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad, gallwch:

Os ydych eisiau gwneud cais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf am orchymyn ar gyfer eich costau, dylai hwn gyrraedd y tribiwnlys o fewn 28 diwrnod o’r penderfyniad ysgrifenedig. Dylai gynnwys rhestr o’r costau a’r treuliau rydych yn eu hawlio.

Gwneud cais i’r penderfyniad gael ei ganslo (rhoi o’r neilltu)

Gall y barnwr ganslo’r penderfyniad os yw’n ystyried ei fod er budd cyfiawnder i wneud hynny – gelwir hyn yn ‘rhoi y penderfyniad o’r neilltu’.

Gallent wneud hyn os bydd rhywbeth anarferol neu annisgwyl wedi digwydd yn yr achos, fel dogfen wedi mynd ar goll neu barti neu eu cynrychiolydd ddim yn bresennol mewn gwrandawiad.

Dylech wneud cais yn ysgrifenedig drwy e-bost neu’r post i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf i osod penderfyniad o’r neilltu o fewn 28 diwrnod o’r tribiwnlys yn anfon yr hysbysiad o benderfyniad.

Gwneud cais am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys

Gall yr Uwch Dribiwnlys wrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Gallwch chi a’r parti arall wneud cais am ganiatâd i’r Uwch Dribiwnlys. Os byddwch yn dewis peidio defnyddio’r ffurflen hawl i apelio gallwch wneud eich cais yn ysgrifenedig drwy e-bost neu’r post.

Mae’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Dreth a Siawnsri) yn gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn unig a all fod yn anghywir ar bwynt cyfreithiol. Nid oes yna hawl apelio ble rydych yn syml yn anghytuno â’r canlyniad.

Gofyn am ganiatâd i apelio

Cyn ichi apelio i’r Uwch Dribiwnlys, dylech wneud cais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf am ganiatâd i apelio yn gyntaf.

I wneud cais am ganiatâd i apelio, rhaid ichi gael penderfyniad llawn. Os cawsoch ddyfarniad diannod neu fyr byddwch angen gwneud cais am ffeithiau a rhesymau llawn o fewn 28 diwrnod o gael y penderfyniad diannod neu fyr.

Rhaid i’ch cais am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys gyrraedd y Tribiwnlys Haen Gyntaf o fewn 56 diwrnod o’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn anfon y canlynol atoch:

  • hysbysiad ysgrifenedig o’r ffaith llawn a’r rhesymau dros y penderfyniad
  • rhesymau a ddiweddarwyd am, neu gywiriad o’r penderfyniad yn dilyn adolygiad
  • hysbysiad nad yw cais i ganslo, boed ar amser neu gydag estyniad amser, wedi bod yn llwyddiannus.

Gall barnwr ymestyn y terfyn amser hwn os ydynt yn teimlo ei fod er budd cyfiawnder i wneud hynny. Dylech wneud eich cais drwy lenwi’r ffurflen hawl i apelio neu drwy gysylltu â’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Pan fyddwch yn gofyn am hawl i apelio rhaid i chi nodi’r camgymeriadau cyfreithiol yr ydych yn credu a wnaed a dweud pa ganlyniad a geisir gennych.

Pan fydd y barnwr yn cael eich cais am ganiatâd i apelio, gallent adolygu’r penderfyniad a’i ganslo, newid y rhesymau neu ei gywiro. Os bydd y tribiwnlys yn penderfynu adolygu’r penderfyniad, bydd yn gofyn ichi roi eich sylwadau ar unrhyw gamau a fwriedir eu cymryd.

Os nad yw’r barnwr yn adolygu’r penderfyniad, neu’n penderfynu peidio newid y penderfyniad, mae’n bosibl y bydd yn rhoi caniatâd ichi apelio i’r Uwch Dribiwnlys neu gwrthodir caniatâd. Bydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn eich hysbysu yn ysgrifenedig drwy e-bost neu’r post ac yn rhoi rhesymau os gwrthodir caniatâd, naill ai’n gyfan gwbl neu mewn perthynas ag unrhyw seiliau apêl.

Sut i wneud cais neu apelio i’r Uwch Dribiwnlys

Os rhoddir caniatâd

Os yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn rhoi caniatâd ichi apelio, gallwch gyflwyno eich apêl i’r Uwch Dribiwnlys. Rhaid ichi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i chi gael y penderfyniad gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n rhoi caniatâd ichi. Ni all y Tribiwnlys Haen Gyntaf ymestyn y terfyn amser hwn ichi.

Os gwrthodir caniatâd

Os yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gwrthod rhoi caniatâd i chi apelio, gallwch wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio. Rhaid ichi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i chi gael y penderfyniad gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n gwrthod caniatâd ichi. Ni all y Tribiwnlys Haen Gyntaf ymestyn y terfyn amser hwn.

Mae’r canllawiau Uwch Dribiwnlys yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio a’r terfynau amser.

Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno cael cyngor cyfreithiol, gan ei bod yn bosibl y byddwch angen talu costau ychwanegol.

Deddfwriaeth a chanllawiau

Mae’r gyfraith weithdrefnol sy’n rheoli ceisiadau ac apeliadau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn cynnwys Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Siambr Dreth) 2009.

Mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer sy’n rhoi arweiniad ar feysydd penodol:

  • bwndeli electronig
  • tystiolaeth lafar o dramor
  • gwŷs tyst a gorchymyn i lunio dogfennau
  • dyrannu achosion i gategorïau
  • dulliau amgen o ddatrys anghydfodau
  • dirprwyo swyddogaethau i staff
  • cyfarwyddiadau canolfan uwchlwytho dogfennau

Penderfyniadau a gyhoeddwyd

Cyhoeddir nifer o benderfyniadau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, hyd yn oed os nad oedd yna wrandawiad. Gallwch ganfod manylion penderfyniadau a gyhoeddwyd.

Enghreifftiau o benderfyniadau y gellir eu hapelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

Mae enghreifftiau o benderfyniadau y gellir eu hapelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Dreth) yn cynnwys penderfyniadau sy’n ymwneud â:

  • treth incwm
  • treth gorfforaeth
  • treth enillion cyfalaf
  • cyfraniadau yswiriant gwladol
  • taliadau statudol
  • treth etifeddiant
  • treth refeniw petrol
  • benthyciadau myfyrwyr
  • treth stamp ar dir
  • treth trafodiadau tir (yng Nghymru)
  • treth i’w gasglu o dan y cynllun Talu Wrth Ennill a Chynllun y Diwydiant Adeiladu
  • treth ar werth
  • tollau tramor
  • lefi ar agregau
  • tollau ar deithwyr awyr
  • lefi’r newid yn yr hinsawdd
  • treth premiwm yswiriant
  • treth tirlenwi
  • treth gwarediadau tirlenwi (yng Nghymru)
  • tollau cartref gan gynnwys ar gyfer gwirodydd, olewon hydrocarbon, bingo, hapchwarae, betio cyffredinol, loteri, cronfa betio, hapchwarae o bell a chynnyrch tybaco
  • Y Rheoliadau Gwyngalchu Arian 2007 a’r Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Cronfeydd (Gwybodaeth am y Talwr) 2017
  • yr Ardoll Trosedd Economaidd

Enghreifftiau o geisiadau ac atgyfeiriadau

  • cais gan drethdalwr yn gofyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf gau ymholiad i ffurflen dreth a agorwyd gan CThEF, y WRU neu’r NCA
  • cais gan drethdalwr yn gofyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf bennu neu ddosrannu gwerth y farchnad o ased at ddibenion treth enillion cyfalaf
  • cais gan drethdalwr yn gofyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf benderfynu a ddylid gwneud penderfyniad adferol er gwaethaf bod y cais i’r penderfyniad wedi cael ei wneud yn hwyr
  • cais gan drethdalwr yn gofyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf benderfynu a yw dogfennau penodol â braint rhag eu datgelu
  • atgyfeiriad gan drethdalwr o gais cliriad a wnaed i CThEF
  • atgyfeiriad gan bartner o wrthwynebiad partneriaeth yn ymwneud â dyrannu elw neu golled
  • cais ar y cyd (gan drethdalwr a CThEF) i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf benderfynu ar gwestiwn sy’n codi o ymholiad i ffurflen dreth
  • cais gan CThEF am hysbysiad yn gofyn i drethdalwr ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau, neu am ganiatâd i archwilio eiddo
  • cais gan CThEF i gosbau penodol gael eu gorfodi ar drethdalwr