Sut i gael rhywun i’ch cefnogi yn ystod gwrandawiad dros y ffôn neu fideo
Mae’r canllaw hwn ar gyfer achosion nad ydynt yn droseddol. Defnyddiwch y canllaw hwn i ddeall sut i drefnu i rywun eich cefnogi yn ystod eich gwrandawiad dros y ffôn neu fideo.
Os gofynnwyd i chi ymuno â gwrandawiad dros y ffôn neu fideo, edrychwch ar y canllaw hwn i weld beth i’w ddisgwyl a sut i ymuno.
Trosolwg
Mae’r canllaw hwn ar gyfer achosion nad ydynt yn droseddol. Gallwch ofyn i rywun roi cefnogaeth i chi yn ystod eich gwrandawiad o bell, boed hynny dros y ffôn neu fideo. Gallant fod yn rhan o sefydliad elusennol, gwasanaeth llywodraeth leol, yn ffrind neu’n aelod o’r teulu. Ni allant fod yn rhywun sy’n ymwneud â’r achos.
Cynhelir rhai gwrandawiadau, fel gwrandawiadau teulu cyfrinachol, yn breifat felly bydd angen i chi wirio gyda’r llys a yw’r person rydych chi am iddo eich cefnogi yn cael mynychu.
Gallant eich helpu trwy wneud y canlynol:
- darparu cefnogaeth emosiynol a bod yn gefn i chi cyn, yn ystod ac ar ôl y gwrandawiad
- cymryd nodiadau
- gofyn am seibiant i chi os ydych chi wedi cynhyrfu
- siarad â chi ar ôl y gwrandawiad i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall yr hyn a ddywedwyd
Oni bai bod y Barnwr neu’r panel barnu yn rhoi caniatâd, ni allant wneud y canlynol:
- cymryd rhan mewn gwrandawiad
- eich cynrychioli nac ymuno â’r gwrandawiad
- rhoi cyngor cyfreithiol i chi
- recordio, cyhoeddi neu rannu manylion y gwrandawiad
Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, gallech gael ‘cyfaill McKenzie’ a all eich helpu a’ch cynghori yn ystod eich gwrandawiad. Darllenwch am yr hyn y gallant ei wneud ar wefan Legal Choices.
Mae Support Through Court yn elusen sy’n cynnig cefnogaeth ac arweiniad ymarferol i’r rhai heb gynrychiolydd cyfreithiol, gan gynnwys ar gyfer gwrandawiadau dros y ffôn a fideo. Ffoniwch eu llinell gymorth cenedlaethol ar 03000 810 006 neu ewch i wefan Support Through Court.
Gall unrhyw un yn y gwrandawiad ddweud nad ydyn nhw eisiau i’r person sy’n darparu cefnogaeth fod yn rhan o’r gwrandawiad. Bydd y barnwr neu’r panel yn adolygu’r rhesymau a ddarparwyd ac yn penderfynu a all y person sy’n darparu cefnogaeth fynychu.
Gofyn i rywun eich cefnogi
Mae angen i chi gysylltu â’r person neu’r sefydliad rydych chi eisiau iddynt eich cefnogi. Trafodwch eich anghenion a chytunwch ar argaeledd ar gyfer y gwrandawiad.
Gwnewch yn siŵr eu bod:
- ar gael adeg y gwrandawiad
- â lle tawel, preifat i ymuno ohono
- â’r dechnoleg angenrheidiol i ymuno (a eglurir yn eich hysbysiad o wrandawiad)
- yn gallu diwallu eich anghenion cymorth
Trefnu gyda’r llys neu’r tribiwnlys i rywun eich cefnogi
Bydd angen i chi wirio gyda’r llys neu’r tribiwnlys y gall y person yr hoffech chi eich cefnogi ymuno â’r gwrandawiad o bell. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar eich hysbysiad o wrandawiad a darparwch yr wybodaeth ganlynol:
- eich rhif achos
- amser a dyddiad y gwrandawiad
- enw’r person neu’r sefydliad
- rhif ffôn y person i’w helpu i ymuno â’r gwrandawiad
- sut hoffech i’r person eich cefnogi
Os yw’r llys yn cymeradwyo, anfonwch fanylion y gwrandawiad at y person sy’n eich cefnogi fel y gallant ymuno. Os oes gennych wrandawiad dros ffôn, bydd y llys yn ffonio’r person sy’n eich cefnogi pan fydd y gwrandawiad yn dechrau.
Os nad ydych wedi derbyn ymateb gan y llys cyn dyddiad y gwrandawiad, esboniwch eich cais i’r barnwr neu’r panel ar ddechrau eich gwrandawiad.
Os na all y person sy’n eich cefnogi rannu ei rif ffôn ac mae gennych wrandawiad dros y ffôn
Nid yw rhai sefydliadau’n rhannu manylion cyswllt gwirfoddolwyr gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Yn yr achos hwn, os oes gennych wrandawiad dros y ffôn, bydd angen i’r sefydliad gysylltu â’r llys neu’r tribiwnlys eu hunain i ganiatáu iddynt gael eu hychwanegu i’r gwrandawiad.
Rhowch gyfeiriad e-bost a rhif ffôn y llys neu’r tribiwnlys o’ch hysbysiad o wrandawiad a manylion yr achos i’r sefydliad.
Bydd angen i’r sefydliad neu’r gwirfoddolwr anfon e-bost gyda’r canlynol:
- rhif ffôn y person sy’n cefnogi
- llinell bwnc yr e-bost yn nodi ‘Gwrandawiad ffôn brys, dyddiad (diwrnod/mis/blwyddyn), parti v parti a rhif yr achos’
Er enghraifft – Gwrandawiad ffôn brys, 20/9/2020, Smith v Jones, Rhif yr achos:123456
Bydd hyn yn helpu staff y llys i ddod o hyd i fanylion y gwrandawiad yn gyflym a sicrhau y gallant eu hychwanegu i’ch gwrandawiad.
Updates to this page
-
Added a Welsh version of the guide.
-
Added signposting paragraph to Support through Court
-
First published.