Canllawiau

Beth i'w ddisgwyl wrth ymuno â gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo

Gwybodaeth am sut y dylech chi baratoi ar gyfer gwrandawiad llys neu dribiwnlys dros y ffôn neu drwy fideo a beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod.

Dylai cyfranogwyr proffesiynol hefyd ddarllen ein canllawiau ar ymuno â gwrandawiad troseddol drwy fideo fel gweithiwr proffesiynol.

Gall barnwr benderfynu i gynnal eich gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo, yn seiliedig ar reolau perthnasol yn y maes hwnnw o’r gyfraith. Os ydych yn cymryd rhan mewn gwrandawiad, bydd y llys neu dribiwnlys yn dweud wrthych os cynhelir y gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo ac yn esbonio sut i ymuno.

Os ydych eisiau arsylwi gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo, cysylltwch â’r llys ymlaen llaw.

Gwrandawiadau dros y ffôn

Byddwn yn eich ffonio ar adeg y gwrandawiad ac efallai y byddwn yn defnyddio rhif anhysbys. Os ydych chi’n defnyddio gwasanaethau gwahardd galwadau, trowch nhw i ffwrdd er mwyn inni allu cysylltu â chi.

Pan fyddwn yn eich ffonio, byddwch yn clywed neges yn dweud eich bod wedi’ch gwahodd i ymuno â chynhadledd ffôn.

I ymuno â’r gwrandawiad:

  1. pwyswch y botwm ✱ (seren) a’r rhif 1 i ymuno
  2. dywedwch eich enw
  3. pwyswch y botwm # (hash)
  4. unwaith y byddwch chi yn y gwrandawiad, arhoswch yn dawel nes y gofynnir i chi siarad - pwyswch ✱6 fel eich bod yn fud i’r gwrandawiad a’i bwyso eto pan fydd gofyn ichi siarad

Ar ddechrau’r gwrandawiad, bydd y barnwr neu’r ynad yn cyflwyno’i hun ac yn egluro sut y bydd y gwrandawiad yn gweithio a beth fydd arnoch angen ei wneud.

Efallai bydd arnoch angen cael mynediad at gyfrifiadur neu ddyfais tabled (fel iPad) i allu cael dogfennau ychwanegol ar y diwrnod.

Os cewch unrhyw broblemau gyda chael dogfennau neu gymryd rhan mewn gwrandawiad dros y ffôn, rhowch wybod i’r llys neu’r tribiwnlys cyn gynted â phosib.

Gwrandawiadau fideo

Os cynhelir eich gwrandawiad drwy gyswllt fideo, bydd y llys neu’r tribiwnlys yn eich hysbysu am ba blatfform fydd yn cael ei ddefnyddio. Pan fyddwch yn gwybod hynny, dilynwch y ddolen briodol i gael canllawiau ar sut i ymuno â’r gwrandawiad fideo a phrofi eich offer:

Cyn y gwrandawiad rhaid i chi:

  • wirio fod gennych y porwr rhyngrwyd neu’r ap iawn ar eich dyfais
  • darllen y canllawiau ar sut i ymuno â’r gwrandawiad
  • profi eich offer gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau ar brofi platfform, fel eich bod chi’n gwybod ei fod yn gweithio - os nad ydych chi wedi gwneud hyn fe allai beri oedi neu darfu ar y gwrandawiad
  • dweud wrthym ar unwaith os cewch unrhyw broblemau wrth ymuno â’r platfform neu wrth brofi eich offer, gan ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt yn yr wybodaeth a anfonwyd atoch

Bydd y llys neu’r tribiwnlys yn ystyried eich anghenion ac yn gwneud popeth posibl i sicrhau y byddwch chi’n gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad. Gallai hyn olygu eich bod chi’n ymuno mewn ffordd wahanol.

Cyn eich gwrandawiad

Dylech ddweud wrth y llys neu’r tribiwnlys pa rif ffôn neu gyfeiriad e-bost y dylid ei ddefnyddio i gysylltu â chi ar gyfer y gwrandawiad.

Dylech hefyd ofyn i’r llys am unrhyw drefniadau neu fesurau arbennig a fyddai’n eich helpu i deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus i gymryd rhan yn y gwrandawiad. Gall hyn gynnwys mesurau i sicrhau na allwch gael eich gweld gan unigolyn arall sy’n ymwneud â’r achos. Bydd y llys yn ceisio darparu’r hyn y byddwch yn gofyn amdano, ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y llys neu’r tribiwnlys yn yr wybodaeth y maent wedi ei hanfon atoch, neu drwy chwilio ar-lein.

Cael cymorth cyfreithiol

Cewch wybodaeth yma ynghylch beth yw eich opsiynau cyfreithiol cyn eich gwrandawiad. Gallwch hefyd wirio a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol neu gael gwybodaeth am gymorth cyfreithiol fforddiadwy.

Os ydych chi’n cymryd rhan mewn gwrandawiad gyda chynrychiolydd cyfreithiol, trefnwch sut y byddwch chi’n cyfathrebu’n gyfrinachol yn ystod y gwrandawiad.

Tystion

Os ydych chi’n dyst dros yr erlyniad mewn achos troseddol, trafodwch unrhyw gefnogaeth y gallwch fod ei hangen arnoch gyda’ch swyddog gofal tyst.

Os ydych chi’n dyst dros yr amddiffyniad mewn achos troseddol, trafodwch unrhyw gymorth y gallwch fod ei hangen arnoch gyda chyfreithiwr yr amddiffyniad.

Dioddefwyr a thystion sy’n mynd i’r llys i roi tystiolaeth

Gofynnwch i rywun eich cefnogi yn ystod eich gwrandawiad

Mewn achosion nad ydynt yn droseddol gallwch ofyn i rywun ddarparu cefnogaeth i chi yn ystod eich gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo. Gallant fod yn rhan o sefydliad elusennol neu wasanaeth llywodraeth leol, yn ffrind neu’n aelod o’r teulu. Ni allant fod yn rhywun sy’n ymwneud â’r achos.

Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd y llys neu’r tribiwnlys iddynt ymuno. Ni allant roi cyngor cyfreithiol na siarad ar eich rhan ond gallant ddarparu cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth ymarferol am y broses.

Trefnu i rywun eich cefnogi yn ystod y gwrandawiad

Dewiswch ym mhle hoffech fod ar gyfer y gwrandawiad

Cyn y gwrandawiad rhaid i chi: * ddewis lle sy’n dawel ac yn breifat * gadael i bobl sy’n rhannu’r lle wybod na ddylid tarfu arnoch yn ystod y gwrandawiad * profi eich offer

Addasiadau rhesymol

Rydym yn gwybod bod angen cymorth ychwanegol ar bobl ag anableddau weithiau. Gall hyn olygu bod angen i ni ddarparu rhywbeth gwahanol fel y gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau yn yr un modd â rhywun heb anabledd. Rydym yn aml yn galw hwn yn addasiad rhesymol.

Os oes angen addasiad rhesymol arnoch chi, dywedwch wrthym gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a anfonwyd atoch. Byddwn yn trafod hyn gyda’r barnwr sy’n gwrando’r achos. Mae barnwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu rhoi’r dystiolaeth orau y gallant ei rhoi, cymryd rhan yn effeithiol a chael gwrandawiad teg.

Sicrhewch fod gennych yr holl ddogfennau angenrheidiol

Cysylltwch â’r llys neu’r tribiwnlys, neu siaradwch â’ch cynrychiolydd cyfreithiol, i sicrhau bod gennych fynediad hawdd at yr holl ddogfennau y bydd eu hangen arnoch ar y diwrnod. Os oes angen rhannu dogfennau ar y diwrnod, bydd y barnwr, yr ynad neu un o swyddogion y llys yn dweud wrthych sut y gallwch eu rhannu neu eu derbyn.

Diwrnod eich gwrandawiad

Paratoi ar gyfer gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo

Byddwch yn barod o leiaf 20 munud cyn y gwrandawiad a gwnewch yn siŵr:

  • fod batri’r ddyfais yr ydych am ei defnyddio i ymuno â’r gwrandawiad yn llawn neu bod y ddyfais wedi ei phlygio i mewn
  • fod gennych unrhyw ddogfennau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y gwrandawiad
  • fod gennych eich llyfr sanctaidd neu ysgrythur o’ch dewis i dyngu llw arno (os yw’n berthnasol)
  • eich bod wedi mynd ag unrhyw beth arall a allai dynnu sylw o’r ystafell, fel ffôn symudol (oni bai eich bod yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwrandawiad)

Os ydych chi’n ymuno trwy fideo, rhaid i chi hefyd wneud y canlynol: * gwisgo fel petaech yn mynd i adeilad llys neu dribiwnlys * bod â rhywbeth plaen y tu ôl i chi, fel wal wag * eistedd gyda golau o’ch blaen, felly nad oes cysgod dros eich wyneb * gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu gweld eich wyneb a’ch ysgwyddau

Os ydych yn arsylwi’r gwrandawiad yn hytrach na chymryd rhan, efallai y gofynnir ichi roi eich camera i ffwrdd.

Yn ystod y gwrandawiad

Mae gwrandawiadau dros y ffôn neu drwy fideo yn dilyn yr un broses â gwrandawiad mewn adeilad llys neu dribiwnlys.

Ar ddechrau’r gwrandawiad, bydd y barnwr neu’r ynad yn egluro beth fydd yn digwydd. Efallai y bydd yn gofyn cwestiynau i chi i sicrhau eich bod chi wedi deall. Mae’n bwysig os nad ydych chi’n deall rhywbeth eich bod chi’n rhoi gwybod i’r barnwr neu’r ynad.

Os ydych chi’n rhoi tystiolaeth yn ystod y gwrandawiad gofynnir i chi dyngu llw neu wneud addewid sy’n gyfreithiol rwymol (a elwir yn gadarnhad) y bydd eich tystiolaeth yn wir. Nid oes angen defnyddio llyfr sanctaidd neu ysgrythur oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny; os felly bydd angen i chi fod â’r llyfr wrth law.

Eich rôl yn y gwrandawiad

Er mwyn osgoi tarfu ar y gwrandawiad, diffoddwch eich meicroffon os yn bosibl, fel nad yw’r llys neu’r tribiwnlys yn clywed sŵn cefndir na sgwrsio. Efallai y diffoddir eich meicroffon ac y byddwch yn fud i’r gwrandawiad awtomatig, yn dibynnu ar y platfform sy’n cael ei ddefnyddio.

Os ydych chi’n ymuno drwy fideo, cofiwch y bydd pawb yn gallu eich gweld ar y sgrîn a dylech fod yn ymwybodol o iaith y corff ac ymddygiad, p’un a ydych chi’n siarad ai peidio.

Gallwch ofyn i’r barnwr neu’r ynad a oes angen ailadrodd rhywbeth na wnaethoch ei ddilyn na’i ddeall.

Pan fyddwch yn siarad, cofiwch sicrhau bod eich meicroffon ymlaen (dim ar ‘mute’) a chofiwch siarad yn glir.

Gallwch ofyn i’r barnwr neu’r ynad os bydd arnoch angen seibiant yn ystod eich gwrandawiad.

Rheolau’r gwrandawiad

Rhaid i chi drin gwrandawiadau ffôn a fideo mor ddifrifol â phe baent mewn adeilad llys neu dribiwnlys.

Yn ystod y gwrandawiad: * ni ddylech yfed dim ond dŵr * ni ddylech fwyta * ni ddylech ysmygu na defnyddio e-sigaret * dylech ddilyn cyfarwyddiadau’r llys neu’r tribiwnlys * dylech fod ar eich pen eich hun oni bai fod gennych ganiatâd fel arall

Mae recordio fideo neu sain y gwrandawiad, neu dynnu lluniau neu luniau sgrin yn drosedd.

Gallwch gymryd nodiadau ysgrifenedig os dymunwch a gallwch wneud cais am drawsgrifiad pan fydd gwrandawiadau’n cael eu recordio.

Ar ddiwedd eich gwrandawiad

Gall y barnwr neu’r ynad adael yr alwad ffôn neu fideo am gyfnod byr i feddwl am y penderfyniad.

Efallai y bydd yn penderfynu ar y diwrnod, neu anfonir y penderfyniad atoch trwy’r post wedi hynny.

Bydd y barnwr neu’r ynad yn dweud wrthych pryd y gallwch adael y gwrandawiad. Gweler y cyfarwyddyd ar gyfer eich platfform i gael gwybod sut i adael y gwrandawiad.

Dywedwch wrthym am eich profiad

Helpwch ni i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym am eich profiad o fod mewn gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae rhywfaint o’r cyfarwyddyd pwysig ar y dudalen hon hefyd ar gael fel fideo:

Paratoi ar gyfer eich gwrandawiad fideo

Cyhoeddwyd ar 30 October 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 July 2021 + show all updates
  1. Removed links to Microsoft Teams and Skype as they are no longer used for video hearings

  2. Added instructions on special arrangements and measures.

  3. Added signpost and link to professional guidance.

  4. Adding a video of the guidance

  5. Welsh translation added.

  6. First published.