Apelio i'r tribiwnlys treth
Apelio i'r tribiwnlys
Gallwch apelio i’r tribiwnlys treth ar-lein neu drwy’r post.
Fel arfer mae gennych 30 diwrnod i apelio o ddyddiad eich llythyr penderfyniad.
Os byddwch yn methu’r dyddiad terfyn yna bydd angen i chi egluro pam bod eich apêl yn hwyr. Bydd barnwr yn penderfynu os gellir derbyn eich apêl hwyr.
Fe ddychwelir eich cais i chi os yw rhywbeth ar goll neu os nad yw’n gyflawn.
Apelio ar-lein
Bydd arnoch angen:
- sgan neu lun o’ch hysbysiad gwreiddiol neu lythyr casgliad adolygiad
- rhesymau dros eich apêl, fel y gall y barnwr ddeall eich ochr chi o’r ddadl
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud cais i gau ymholiad.
Apelio drwy’r post
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen hysbysiad o apêl (T240).
Os ydych yn gwneud cais i gau ymholiad sy’n bodoli’n barod, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais (T245).
Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi i’r tribiwnlys. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os ydych eisiau i rywun eich cynrychioli
Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen awdurdodi os nad yw’r unigolyn sy’n eich cynrychioli yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithwr sy’n ymarfer.
Os oes angen help arnoch
Cysylltwch â’r tribiwnlys treth os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich apêl. Ni all y tribiwnlys roi cyngor cyfreithiol i chi.
Tribiwnlys treth
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Ffôn: 0300 303 5857
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Beth fydd yn digwydd nesaf
Cewch lythyr gan y tribiwnlys yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai y gofynnir i chi ddarparu mwy o ddogfennau i gefnogi eich achos.
Ni fydd pob achos yn cael gwrandawiad, ond gallwch ofyn am un. Fel arfer, byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad. Bydd y tribiwnlys yn ysgrifennu atoch gyda manylion yr hyn y mae angen i chi ei wneud.