Canllawiau

Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn dod i lys neu dribiwnlys

Canfod beth ddylech ddod gyda chi ar gyfer gwrandawiad llys neu wrandawiad tribiwnlys, sut i gael cymorth, a beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod.

Cyn eich gwrandawiad

Beth ddylech chi ddod gyda chi

Os ydych yn dod i lys neu dribiwnlys ar gyfer gwrandawiad, dylech ddod â’r canlynol:

  • eich llythyr gwrandawiad gyda’ch rhif achos - mae rhif yr achos yn eich helpu i ddod o hyd i ble y mae angen i chi fynd yn yr adeilad
  • unrhyw bapurau y mae eu hangen arnoch ar gyfer eich gwrandawiad
  • gorchudd wyneb (oni bai eich bod wedi eich eithrio rhag gorfod gwisgo gorchudd wyneb)
  • hylif glanhau dwylo, os oes gennych beth
  • bwyd a diod, gan gynnwys dŵr - nid oes lluniaeth ar gael ym mhob adeilad

Ni chaniateir ichi ddod ag arfau, gwydr na hylifau heblaw diodydd di-alcohol neu hylif glanhau dwylo i’r adeilad.

Beth i’w wisgo

Ar wahân i orchudd wyneb, ni allwch wisgo unrhyw beth ar eich pen yn adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd oni bai fod hynny am resymau crefyddol.

Nid oes unrhyw reolau eraill ynglŷn â’r hyn y dylech ei wisgo, ond gwisgwch yn daclus os gallwch chi.

Pryd ddylech chi gyrraedd

Mae angen i chi gyrraedd 30 munud cyn yr amser a nodir yn eich llythyr gwrandawiad. Peidiwch â chyrraedd yn gynt na hyn oherwydd mae’n bosib na chewch ddod i mewn i’r adeilad, yn enwedig yn ystod adegau prysur.

Amser cychwyn achosion y dydd yw’r amser a nodir yn eich llythyr. Efallai nad eich achos chi fydd yr achos cyntaf felly byddwch yn barod i aros.

Gwnewch unrhyw drefniadau angenrheidiol, er enghraifft gofal plant neu gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.

Eich diogelwch

Rydym yn gwybod y gall dod i lys neu dribiwnlys fod yn brofiad llethol neu’n frawychus.

Mae gennym drefn ddiogelwch ym mhob un o’n hadeiladau.

Dylech gysylltu â’r llys neu’r tribiwnlys a nodir yn eich llythyr os oes gennych unrhyw bryderon am eich diogelwch ar y diwrnod.

Mae yna bethau eraill y gallwn eu gwneud i’ch helpu i deimlo’n ddiogel, er enghraifft:

  • eich rhoi i eistedd mewn rhan wahanol o’r adeilad i bobl eraill yn eich achos wrth i chi aros
  • darparu sgrin yn yr ystafell wrandawiad fel na all y parti arall eich gweld

Pwy fydd yn eich gwrandawiad

Rhagor o wybodaeth am bwy arall fydd efallai yn eich gwrandawiad a beth fydd eu rolau.

Cefnogaeth sydd ar gael

Pwy all ddod gyda chi

Tra bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn weithredol, ni fydd llawer o le mewn mannau aros a galerïau cyhoeddus.

Os oes arnoch angen cefnogaeth, dewch ag un unigolyn gyda chi yn unig – fel ffrind neu aelod o’ch teulu.

Os byddwch yn dod â mwy nag un unigolyn gyda chi, efallai na chânt nhw ddod i mewn i’r adeilad.

Nid oes cyfleusterau gofal plant ar gael ac ni all staff ofalu am eich plant tra byddwch yn y gwrandawiad. Gellir bwydo ar y fron neu dynnu llaeth yn holl adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Os oes gennych anabledd

Gallwch gael cefnogaeth yn adeilad y llys neu’r tribiwnlys ac yn ystod eich achos. Weithiau gelwir hyn yn ‘addasiad rhesymol’.

Cyn dyddiad eich gwrandawiad, cysylltwch â’r llys neu’r tribiwnlys yn eich llythyr i roi gwybod iddynt beth sydd ei angen arnoch.

Er enghraifft, un o’r canlynol:

  • rampiau neu doiledau hygyrch
  • dolen glyw
  • ffurflenni print bras
  • cyfarwyddyd llafar neu mewn fformat hawdd ei ddarllen

Diwrnod eich gwrandawiad

Gwisgwch orchudd wyneb

Rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb bob amser yn rhannau cyhoeddus a chymunedol adeilad llys neu dribiwnlys, oni bai eich bod wedi’ch eithrio rhag gwisgo un.

Os byddwch chi’n cyflwyno tystiolaeth yn yr ystafell llys, gall y barnwr neu’r ynad hefyd ofyn i chi dynnu’ch gorchudd wyneb dros dro. Os oes angen i chi gyfathrebu â rhywun sy’n dibynnu ar ddarllen gwefusau, mynegiant wyneb a sain glir, efallai y gofynnir ichi dynnu’ch gorchudd wyneb.

Os na allwch wisgo gorchudd wyneb, gallwch ein helpu drwy wisgo un o’n cortynnau blodyn haul a chario cerdyn eithrio. Byddwn yn cynnig y rhain ichi pan fyddwch yn cyrraedd yr adeilad os ydych wedi’ch eithrio.

Pan fyddwch yn dod i mewn i’r adeilad

Pan fyddwch yn dod i mewn i adeilad llys neu dribiwnlys, bydd eich bagiau a’ch pocedi yn cael eu chwilio fel y byddent mewn maes awyr. Gall hyn gynnwys:

  • rhoi eich bag i swyddog i gael ei chwilio
  • gwagio eich pocedi a rhoi’r cynnwys ar hambwrdd
  • tynnu eich esgidiau, eich côt, eich menig, eich het neu eich gwregys
  • cerdded drwy fwa diogelwch
  • chwiliad gyda ffon sganio

Efallai y gofynnir i chi adael rhai eitemau gyda’r staff diogelwch - byddwch chi’n eu cael yn ôl pan fyddwch yn gadael.

Os ydych wedi lawrlwytho ap profi ac olrhain y GIG ar eich ffôn, gallwch ‘fewngofnodi’ i’r adeilad trwy sganio’r cod QR sydd ar bosteri yn y fynedfa. Mewn rhai rhannau o’r adeilad efallai y cewch eich cynghori i ddiffodd y nodwedd olrhain cyswllt dros dro. Er enghraifft, pan fydd sgriniau wedi’u gosod i’ch diogelu.

Bydd aelod o staff yn eich galw i mewn i’r ystafell wrandawiadau ac yn dangos i chi ble i eistedd.

Beth i’w wneud yn ystod y gwrandawiad

Rhaid i chi ddiffodd sain ddyfeisiau symudol pan fyddwch chi yn yr ystafell wrandawiadau.

Cewch gymryd nodiadau ond ni chaniateir i chi dynnu lluniau na gwneud fideos.

Pan fydd aelod o staff yn dweud ‘safed pawb’ rhaid i chi sefyll. Mae hyn yn golygu bod y barnwr neu’r ynad ar fin dod i mewn i’r ystafell. Dywedir wrthych pryd y gallwch eistedd i lawr eto.

Gallwch ofyn i aelod o staff os oes angen i chi gael saib ar unrhyw adeg yn ystod eich gwrandawiad.

Beth i’w ddweud yn y gwrandawiad

Fel rhan o’r gwrandawiad, bydd rhywun yn egluro pwy fydd yn siarad a phryd.

Rhoddir amser ichi ofyn cwestiynau a rhoi tystiolaeth yn eich achos. Os oes gennych gyfreithiwr neu fargyfreithiwr, bydd yn gofyn cwestiynau ar eich rhan.

Os ydych chi’n rhoi tystiolaeth yn ystod y gwrandawiad gofynnir i chi dyngu llw neu wneud addewid sy’n gyfreithiol rwymol (a elwir yn gadarnhad) fod eich tystiolaeth yn wir.

Bydd y tywysydd yn darllen y llw ac yn gofyn ichi ailadrodd y geiriau ar ei ôl. Bydd y llyfr sanctaidd perthnasol yn cael ei roi o’ch blaen, ond ni fydd angen i chi gyffwrdd â’r llyfr. Mae’r cadarnhad yr un mor ddifrifol ac arwyddocaol ac yn dod â’r un cyfrifoldebau â llw crefyddol. Os yw’n well gennych gadarnhau, bydd y tywysydd yn darllen y cadarnhad ac yn gofyn ichi ailadrodd y geiriau ar ei ôl.

Siaradwch yn glir ac yn gwrtais â’r barnwr neu’r ynad. Mae’n iawn eu galw’n ‘farnwr’ os ydyn nhw’n farnwr, neu’n ‘syr’ neu’n ‘madam’ os ydyn nhw’n ynad. Efallai y byddwch yn gweld rhai pobl yn ymgrymu i’r barnwr neu’r ynad pan fyddant yn cerdded i mewn neu allan o’r ystafell wrandawiad. Nid oes rhaid i chi wneud hyn, ond gallwch wneud hynny os mynnwch.

Ar ddiwedd y gwrandawiad

Efallai y bydd y barnwr neu’r ynad yn gadael yr ystafell i feddwl am eu penderfyniad. Gall wneud penderfyniad ar y diwrnod neu ei anfon atoch trwy’r post yn ddiweddarach.

Gadewch yr adeilad ar unwaith ar ôl eich gwrandawiad, mae hyn yn helpu i gyfyngu ar nifer y bobl sydd yn yr adeilad ar yr un pryd.

Cyhoeddwyd ar 30 January 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 October 2022 + show all updates
  1. Added COVID-19 information

  2. Updated following government's announcement on COVID-19 guidance.

  3. Links to government guidance on self-isolation updated

  4. Updated in response to latest guidance on the Omicron variant.

  5. Updating links to self-isolation and other COVID guidance.

  6. removed reference to clinically extremely vulnerable

  7. Updates to content following changes to the Covid restrictions from 19 July 2021

  8. Updated the Welsh version

  9. Several changes to reflect update in Covid restrictions

  10. Update to the guidance around COVID testing.

  11. Updated Welsh language translation to reflect changes made to English version about COVID-secure practices.

  12. Updated information throughout the page to highlight the need to follow COVID-secure practices.

  13. Added section called 'Getting tested'.

  14. Added translation

  15. Added the section 'Who will be at your hearing'.

  16. New Welsh version added.

  17. Changes to update information regrading to coronavirus and lockdown / local restrictions guidance.

  18. Changes to related links to provide information on courts opening and jury service

  19. Add link to coronavirus guidance.

  20. Added translation

  21. First published.