Canllawiau

Bwydo ar y fron yn adeiladau’r llysoedd a’r thribiwnlysoedd

Cyfarwyddyd ynglŷn â sut y bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn eich cefnogi os bydd arnoch eisiau bwydo ar y fron yn adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Ymrwymiad i’r rhai sy’n bwydo ar y fron

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sicrhau y gall y rhai sy’n bwydo ar y fron fynd ynglŷn â’u gwaith o ddydd i ddydd yn hyderus.

Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn eich cefnogi os bydd arnoch eisiau bwydo ar y fron neu dynnu llaeth yn adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Rydym yn ymrwymo i’r canlynol:

  • Gallwch fwydo ar y fron neu dynnu llaeth tra byddwch yn defnyddio ein hadeiladau.
  • Mae croeso ichi fwydo o’r fron neu dynnu llaeth yn y mannau cyhoeddus yn ein hadeiladau.
  • Os yw’n well gennych, gallwch fwydo o’r fron neu dynnu llaeth mewn ystafell breifat.

Ni fyddwn yn camwahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn bwydo ar y fron.

Cysylltwch ymlaen llaw

Os oes arnoch angen mynediad i ystafell breifat i fwydo ar y fron neu dynnu llaeth, byddai o gymorth ichi gysylltu â ni cyn ichi gyrraedd. Mae ystafelloedd arbennig ar gyfer bwydo ar y fron yn rhai o’n adeiladau.

Bydd ein manylion cyswllt ar unrhyw lythyrau yr ydych wedi eu derbyn gennym, neu gallwch chwilio am lys neu dribiwnlys yn eich ardal leol.

Cyhoeddwyd ar 31 October 2019