Apelio i'r tribiwnlys treth
Os oes gennych wrandawiad
Byddwch yn cael gwybod pryd a sut y cynhelir y gwrandawiad.
Gall eich gwrandawiad ddigwydd dros y ffôn, drwy fideo neu wyneb yn wyneb. Darllenwch sut i gymryd rhan mewn gwrandawiad ffôn neu fideo.
Gallwch wylio fideo am yr hyn sy’n digwydd mewn gwrandawiad fideo.
Os ydych chi neu eich tyst neu gynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu’r cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.
Dogfennau y bydd arnoch eu hangen
Bydd y tribiwnlys yn gofyn am gopïau o’r holl ddogfennau sy’n berthnasol i’ch apêl (megis llythyrau, anfonebau a chyfrifol).
Efallai y cewch ‘fwndel’ o ddogfennau cyn y gwrandawiad. Gan amlaf, fe anfonir hwn atoch ar e-bost, ond gallwch ofyn am gael copi papur. Bydd eich llythyr cydnabod apêl yn dweud wrthych sut i wneud hyn.
Mae’n rhaid i chi allu troi at y ‘bwndel’ o ddogfennau yn ystod y gwrandawiad. Gall hyn fod ar eich dyfais, er enghraifft gliniadur.
Pwy fydd yn y gwrandawiad
Gallwch gynrychioli eich hun yn y gwrandawiad neu drefnu bod cynrychiolydd yn gweithredu ar eich rhan. Gall y cynrychiolydd fod yn gynghorydd cyfreithiol, yn gynghorydd treth neu’n gyfrifydd
Bydd panel tribiwnlys yn cael ei arwain gan farnwr. Mewn rhai achosion, gall y tribiwnlys benodi aelodau eraill i’r panel.
Gall cynrychiolwyr o’r sefydliad rydych yn apelio yn erbyn ei benderfyniad ddod i’r gwrandawiad.
Bydd y gwrandawiad yn agored i aelodau’r cyhoedd.
Gallwch hefyd ofyn i unrhyw un o’r bobl ganlynol ddod i’r gwrandawiad:
- cynrychiolydd, os oes gennych un
- ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
- tyst, os oes angen un arnoch
Os ydych yn cael gwrandawiad fideo, bydd angen i chi ddweud wrth y tribiwnlys os oes unrhyw un o’r bobl hyn yn mynychu fel y gellir rhoi mynediad iddynt i’r gwrandawiad.
Ni fydd y tribiwnlys yn talu am unrhyw gostau teithio na llety i ganiatáu i chi nac unrhyw un o’r bobl hyn fynychu’r gwrandawiad.
Os na allwch fynychu’r gwrandawiad
Os na allwch fynd i’r gwrandawiad ac nid oes gennych gynrychiolydd i fynd i’r gwrandawiad ar eich rhan, yna mae’n rhaid i chi gysyltu â’r:
- tribiwnlys cyn gynted â phosibl i egluro pam na allwch fynychu
- sefydliad a wnaeth y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn (bydd eu manylion cyswllt ar eich llythyr penderfynu)
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Byddwch chi (neu’ch cynrychiolydd) yn cyflwyno’ch achos i’r tribiwnlys. Rhaid i chi esbonio:
- yr hyn y cytunwyd arno
- beth rydych chi’n meddwl sy’n anghywir
- pa dystiolaeth sydd gennych i’ch cefnogi, fel unrhyw ddogfennau neu dystion
Bydd cynrychiolwyr o’r sefydliad rydych yn apelio yn erbyn ei benderfyniad yn cyflwyno’r achos yn eich erbyn.
Gall y cynrychiolwyr a’r tribiwnlys ofyn cwestiynau yn ystod y gwrandawiad hefyd.