Skip to main content

Amdanom ni

Rydym yn cofrestru perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr.


Mae Cofrestrfa Tir EF yn diogelu perchnogaeth tir ac eiddo sy’n werth bron £9 triliwn, gan alluogi gwerth dros £1.66 triliwn o fenthyciadau personol a masnachol i gael eu diogelu yn erbyn eiddo ledled Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn cynnwys mwy na 27 miliwn o deitlau yn dangos tystiolaeth perchnogaeth mwy nag 90% o’r ehangdir yng Nghymru a Lloegr.

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n prynu neu’n gwerthu tir neu eiddo, neu sy’n cymryd morgais, wneud cais inni gofrestru:

  • tir neu eiddo digofrestredig
  • unrhyw berchennog newydd tir neu eiddo cofrestredig
  • budd sy’n effeithio ar dir neu eiddo cofrestredig, megis morgais, prydles neu hawl tramwy

Wrth ystyried pob cais, rydym yn defnyddio’r gyfraith i benderfynu a ddylid cofrestru’r cais a sut i wneud hynny.

Pan fydd tir neu eiddo wedi ei gofnodi yn y gofrestr, rydym yn cofnodi unrhyw newid perchnogaeth, morgeisi neu brydlesi sy’n effeithio arno. Fel rheol, bydd unrhyw un sy’n dioddef colled o ganlyniad i wall neu hepgoriad yn y gofrestr, neu oherwydd bod angen cywiro’r gofrestr yn cael ei ddigolledi. Gyda gwerthiannau blynyddol eiddo yn y DU yn fwy na £360 biliwn, mae Cofrestrfa Tir EF yn gwasanaethu ac yn cefnogi un o farchnadoedd eiddo mwyaf y byd.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein busnes statudol a masnachol mewn ffordd deg, agored a gonest. Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau i atal llwgrwobrwyo.

Darllenwch am ein safonau gwasanaeth

Pwy ydym ni

Rydym yn adran anweinidogol o’r llywodraeth a grëwyd ym 1862.

Rydym yn gweithio mewn 14 lleoliad.

Darllenwch ragor am ein pobl a gweithio i Gofrestrfa Tir EF.

Ein cyfrifoldebau

Yng Nghymru a Lloegr ein cyfrifoldebau yw:

  • darparu cofnod dibynadwy o wybodaeth am berchnogaeth a buddion sy’n effeithio ar dir ac eiddo
  • darparu teitl tir i berchnogion, wedi ei warantu gan y llywodraeth
  • darparu cynllun teitl sy’n dangos terfynau cyffredinol

Nid ydym yn rhoi cyngor cyfreithiol ar union leoliadau terfynau a chyfrifoldebau.

Ein gweledigaeth, diben a gwerthoedd

Ein gweledigaeth yw: “i gyflawni gwasanaethau a phrofiad digidol sy’n datgloi marchnad eiddo well, gyflymach a llai trafferthus.”

Ein diben yw: “i warchod eich perchnogaeth eiddo, gwneud prynu tir yn hawdd ac yn ddiogel i bawb a darparu mynediad at wybodaeth am eiddo.”

Ein gwerthoedd yw:

  • rydym yn meddu ar unplygrwydd
  • rydym yn ysgogi arloesedd
  • rydym yn broffesiynol
  • rydym yn rhoi sicrwydd

Darllenwch Strategaeth Cofrestrfa Tir EF 2025+ i ddeall ein hymrwymiad i chi a’r hyn sydd ei angen gennych i’n helpu i gyflawni’n cenhadaeth.

Ein diwylliant

Yng Nghofrestrfa Tir EF:

  • mae gennym dreftadaeth gyfoethog a hanes rydym yn falch ohono – ers dros 160 o flynyddoedd rydym wedi diogelu perchnogaeth eiddo ac wedi cefnogi’r economi modern
  • mae ein pobl yn bwysig – ein nod yw cael ein hadnabod fel cyflogwr mwyaf cynhwysol y llywodraeth, gan sicrhau cyfle teg a chyfartal i bawb
  • rydym yn agored, yn onest ac yn trin pawb â pharch – rydym yn ymddiried yn ein gilydd ac yn dathlu ein pobl oherwydd ein bod yn falch o bwy ydynt
  • mae gennym ymdeimlad o berthyn ar y cyd ac rydym yn helpu ein gilydd – rydym yn cysylltu â’n gilydd i deimlo ein bod yn cael ein cefnogi, ein bod yn gyfforddus ac yn cael ein gwerthfawrogi
  • mae llais pawb yn bwysig – rydym yn annog herio â pharch ac yn parchu pob barn a chyfraniad
  • rydym yn canolbwyntio ar fod yn fedrus iawn a gwybodus – rydym wedi ein grymuso, yn atebol ac yn gyfrifol am ein gwaith ein hunain
  • rydym yn darparu gwasanaeth gwych i’n cwsmeriaid – ein nod yw rhagoriaeth, gan gydbwyso effeithlonrwydd a chynhyrchiant gydag ansawdd a chywirdeb
  • rydym yn creu hyder trwy fod yn wydn ac ymatebol ond tawel a hamddenol hefyd – rydym yn hyblyg, yn gallu addasu’n rhwydd a gweithio’n gyflym
  • rydym yn annog ein pobl i fod yn arloesol a gwella’r hyn a wnawn a’r ffordd a wneir hyn yn barhaus – rydym yn gwneud mynd i’r afael â heriau yn hwyl ac yn gyffrous trwy dimoedd cydweithredol, technoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio
  • mae ein harweinwyr yn gefnogol – rydym yn canolbwyntio ar hyfforddi a datblygu pobl i gyflawni eu gorau gyda hyder – mae arweinwyr cadarnhaol ac egnïol yn cynnwys eraill er mwyn cyflawni canlyniadau gwell a’n helpu i dyfu’n gryfach

Siarter Cwsmeriaid

Mae gan Gofrestrfa Tir EF Siarter Cwsmeriaid ar gyfer pawb sy’n defnyddio ei gwasanaethau, gan weithio mewn partneriaeth i sicrhau gwasanaeth cofrestru tir effeithlon ac effeithiol.

Mae’r Siarter Cwsmeriaid yn ailddatgan ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth proffesiynol, defnyddiol a hygyrch. Mae’n nodi sut mae’r sefydliad yn ceisio cefnogi cwsmeriaid, ymateb i ymholiadau a defnyddio adborth i wella’r ffordd mae’n gweithio.

Mae’n esbonio hefyd sut gall cwsmeriaid weithio gyda’r sefydliad i’w helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl iddynt. Mae hyn yn cynnwys darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol mewn cais, defnyddio’r sianeli cyswllt cywir, a thrin staff Cofrestrfa Tir EF â pharch.

Mae Cofrestrfa Tir EF bob amser wedi rhoi ei chwsmeriaid wrth wraidd ei meddwl strategol – ymrwymiad a gafodd ei ailgadarnhau’n gyson gydol y Strategaeth 2025+ ddiweddar. Mae cyhoeddi’r Siarter hon yn sefydlu’r ymrwymiad hwn ymhellach, gan nodi’r hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl – os ydynt aelodau o’r cyhoedd, yn drawsgludwyr, yn rhoddwyr benthyg, yn awdurdodau lleol neu’n sefydliadau eraill.

Mae adborth gan gwsmeriaid yn parhau i fod yn ganolog i’r gwaith hwn. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn parhau i weithio gyda chwsmeriaid, gwrando ar eu profiadau a defnyddio mewnwelediad i wella gwasanaethau i’w holl gwsmeriaid.

Mae’r Siarter Cwsmeriaid ar gael ar GOV.UK, a bydd yn helpu cwsmeriaid i ddeall ymrwymiadau gwasanaeth y sefydliad a sut gallant gydweithio ag ef yn effeithiol.

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Dysgu Am ein gwasanaethau.