Gweithdrefn gwyno

Os oes gennych broblem gyda wasanaethau neu gweithdrefnau Cofrestrfa Tir EF, cysylltwch â ni.


Os ydych yn anfodlon â’r ffordd rydym wedi delio â chi, rydym am i chi roi gwybod i ni fel y gallwn unioni pethau, os yw’n bosibl. Os ydym wedi gwneud rhywbeth o’i le, bydd eich adborth yn rhoi cyfle inni wella’n gwasanaeth ar gyfer pob un o’n cwsmeriaid.

Sut i wneud cwyn

Cysylltwch â’r tîm rydych wedi bod yn delio ag ef yng Nghofrestrfa Tir EF. Fel arall, defnyddiwch ein ffurflen adborth ar-lein.

Byddwn yn:

  • cydnabod eich cwyn o fewn 24 awr
  • adolygu ac ymateb i’ch cwyn o fewn 20 niwrnod gwaith o dan Gam 1 a Cham 2 ein trefn gwyno fewnol

Os nad ydych yn fodlon o hyd

Gallwch ofyn i’r person a ymatebodd i’ch cwyn ei huwchgyfeirio i gam nesaf ein trefn gwyno. Caiff y gŵyn ei huwchgyfeirio at y person mwyaf priodol.

Cam 2 fydd cam olaf ein camau cwynion mewnol. Yn dibynnu ar natur y gŵyn, gall ein hymateb i Gam 2 ddod gan Gofrestrydd Tir, y Rheolwr Gweithrediadau, y rheolwr llinell perthnasol neu ryw uwch swyddog arall. Mae penderfyniad Cofrestrydd Tir yn derfynol a dim ond mewn llys mae modd ei herio.

Nid oes gan ein Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir rôl uniongyrchol yn ein gweithdrefn gwynion. Mae’r pŵer a’r cyfrifoldeb i ddelio â phenderfyniadau cofrestru wedi eu dirprwyo i’r Cofrestrydd Tir ym mhob swyddfa.

Adolygydd Cwynion Annibynnol

Os gwnaed cwyn trwy weithdrefn gwyno fewnol Cofrestrfa Tir EF ac rydych yn anfodlon o hyd, gallwch gysylltu â’r Adolygydd Cwynion Annibynnol i Gofrestrfa Tir EF (ACA). Rôl yr ACA yw adolygu cwynion gan Gofrestrfa Tir EF yn annibynnol.

Dim ond cwynion am y canlynol y bydd yr ACA yn eu hystyried:

Nid oes gan yr ACA bŵer i adolygu na gwrthdroi unrhyw un o’n penderfyniadau mewn perthynas â materion cofrestru tir neu i wneud sylwadau am y gyfraith.

Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad archwiliad yr ACA, gallwch ofyn i’ch AS gyfeirio cwyn i’r Ombwdsman Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.

Cwynion ynghylch gwasanaeth data

Os yw eich cwyn yn ymwneud â gwybodaeth a roddwyd gan ein Gwasanaethau Masnachol neu a ddarparwyd am ddim o dan fenter data agored y Llywodraeth ac rydym wedi rhoi ymateb terfynol i chi, yn ogystal â chysylltu â’r ACA, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n ystyried cwynion yn ymwneud â thorri Ailddefnyddio Rheoliadau Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015.

Bydd ein hymateb terfynol yn egluro â pha sefydliad y dylech gysylltu, os ydych yn penderfynu mynd â’ch cwyn ymhellach.

Cwynion Pridiannau Tir Lleol

Mae Cofrestrfa Tir EF yn y broses o gymryd cyfrifoldeb statudol am y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol, gan ddechrau yn haf 2018. Mae hyn yn digwydd mewn camau wrth i’r cofrestri sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol unigol gael eu trosglwyddo i Gofrestrfa Tir EF. Gallwch weld a yw Cofrestrfa Tir EF wedi cymryd cyfrifoldeb am ardal awdurdod lleol benodol.

Os yw eich cwyn yn ymwneud â phridiannau tir lleol mewn ardal sy’n gyfrifoldeb Cofrestrfa Tir EF, defnyddiwch ein ffurflen adborth ar-lein. Byddwn yn dilyn trefn gwyno fewnol dau gam. Os yw eich cwyn wedi bod trwy ein gweithdrefn gwyno fewnol eisoes ac rydych yn anfodlon o hyd, byddwn yn eich cynghori ynghylch y cam nesaf. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y gŵyn.

Ni fyddwn yn gallu ystyried cwynion am ddogfennau’n ymwneud â phridiannau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol, gan eu bod yn cadw cyfrifoldeb amdanynt. Hefyd, mae ymholiadau a chwynion CON 29 y tu allan i gwmpas y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol sy’n cael ei chynnal gan Gofrestrfa Tir EF.

Felly, os yw eich cwyn yn ymwneud ag unrhyw un o’r materion hyn neu am bridiannau tir lleol mewn ardal nad yw’n gyfrifoldeb Cofrestrfa Tir EF eto, dylech gysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol. Os ydych yn parhau’n anfodlon â’r ymateb gan yr awdurdod lleol, gallwch fynd at yr Ombwdsman Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol a gofyn iddo edrych ar eich pryderon.

Os yw eich cwyn yn ymwneud â gwybodaeth a ddarparwyd o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 ac eisoes wedi bod trwy ein gweithdrefn gwyno fewnol ac rydych yn anfodlon o hyd, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Achos trwy’r llys

Os na ellir datrys eich cwyn trwy ein trefn gwyno ac rydych yn ystyried achos trwy’r llys, dylech: