Cynllun cyhoeddi

Pa wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi a sut i gael gafael arni.


Am y cynllun cyhoeddi hwn

Rydym yn ymroddedig i gyflwyno gwasanaeth agored a thryloyw a’n bwriad yw cyhoeddi gwybodaeth sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd ei gweld. Fodd bynnag, byddai rhyddhau gwybodaeth benodol yn niweidiol i’n gallu i ganfod neu atal trosedd, felly er budd y cyhoedd ni chaiff ei datgelu. Mewn achosion o’r fath, bydd Cofrestrfa Tir EM, lle y bo’n briodol, yn rhoi ystyriaeth resymol i’r eithriadau a roddir gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Rydym yn dilyn model Y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer cynllun cyhoeddi ar gyfer awdurdodau cyhoeddus.

Pwy ydym ni a’r hyn rydym yn ei wneud

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:

Yr hyn rydym yn ei wario a sut

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:

Ein blaenoriaethau a’n perfformiad

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:

  • cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig. Os ydym am newid y rheolau neu’r gorchymyn ffi, bydd yn rhaid inni gynnal ymarfer ymgynghori gyda chymeradwyaeth Weinidogol cyn y gellir diwygio trefnau a chyflwyno newidiadau
  • gwybodaeth gefndirol ar gyfer cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig. Mae’r bwrdd yn blaenoriaethu materion polisi sy’n gofyn am ystyriaeth gan fwrdd Cofrestrfa Tir EM, gan amlinellu’r materion allweddol a gwneud argymhellion lle bo’n briodol. Yn y pendraw, cyfrifoldeb bwrdd Cofrestrfa Tir EM yw holl faterion a strategaethau polisi pwysig
  • ymgyngoriadau cyhoeddus
  • cofnodion cyfarfodydd lefel uchel
  • adroddiadau a phapurau a ddarperir i’w hystyried mewn cyfarfodydd lefel uchel
  • canllawiau cyfathrebu mewnol

Ein polisïau a’n gweithdrefnau

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:

Rhestrau a Chofrestri

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:

  • Y Gofrestr Agored ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae gwybodaeth a gesglir gennym fel rhan o’r gwaith craidd o gynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael fel hawl o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a’i rheolau cysylltiedig
  • Cofrestri Deddf 1862. Dirymwyd Deddf Cofrestru Tir 1862 gan adran 135 ac atodlen 13 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac mae wedi peidio â chael unrhyw effaith. Mae rhai teitlau Deddf 1862 yn bodoli o hyd. Bydd Cofrestrfa Tir EM yn parhau i feddu ar y cofnodion ond ni fydd yn cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r teitlau hyn
  • cofrestri asedion a’r gofrestr gwybodaeth am asedion. Cronfa ddata asedion Tir ac Eiddo
  • arddangosir gwybodaeth teledu cylch cyfyng ym mhob swyddfa
  • log datgelu. Detholiad o ymatebion i geisiadau a wnaed o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth am yr Amgylchedd
  • cofrestr rhoddion a lletygarwch a gwrthdaro buddion
  • buddion y Prif Gofrestrydd Tir

Ein gwasanaethau

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:

Data agored a setiau data

Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:

Gallwch weld cysylltau i setiau data Cofrestrfa Tir EM a’r rhestr ddataset a Chatalog Data’r Comisiwn Geo-ofodol ar Use land and property data a data.gov.uk.

Os oes gennych bryderon ynghylch diogelu data, cysylltwch â:

Diogelu data

Data Protection Officer
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

Gwneud cais am wybodaeth

Gallwch gael gwybodaeth a chyhoeddiadau trwy:

  • eu llwytho i lawr o’r wefan hon
  • eu llwytho i lawr o wefan trydydd parti y cyfeirir atynt yn y cynllun (nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau trydydd partïon)
  • eu prynu gan gyflenwr a restrir, ee Y Llyfrfa

Lle nad yw’r wybodaeth neu’r cyhoeddiad ar gael o’r adnoddau uchod, gellir eu cyflenwi gennym ni o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl cais ysgrifenedig i Swyddog y Cynllun Cyhoeddi:

Cynllun Cyhoeddi

Publication Scheme Officer
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano drwy’r cynllun hwn, neu ar y wefan hon, gallwch wneud cais inni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG) neu’r Rheoliadau Gwybodaeth am yr Amgylchedd 2004 (RhGA) yn ysgrifenedig i’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth. Byddwch yn fanwl am y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan y bydd hynny’n ein helpu i’w chanfod ichi.

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Freedom of Information Officer
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

Tâl

Fel rheol dim ond ar gyfer copïau caled neu gopïo ar gyfrwng (ee CD) y byddwn yn codi tâl. Lle bo tâl yn berthnasol, byddwn yn codi tâl am gopïo, argraffu a phostio (sylwer, mae TAW yn berthnasol i’r taliadau hyn). Os yw’r costau hyn yn llai na £10, byddwn yn cyflenwi’r ddogfen neu’r wybodaeth am ddim. Nid yw hyn yn berthnasol i ddogfennau a gyflenwir o dan ein gwasanaethau statudol, sy’n ddarostyngedig i ffïoedd o dan ein gorchymyn ffi presennol.

Rydym yn codi tâl am:

  • 10c fesul tudalen A4
  • 20c fesul tudalen A3
  • £1 i roi deunydd ar CD
  • postio seiliedig ar gostau cyfredol y Post Brenhinol

Ffurf ac iaith

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar ffurf arall, gwnawn yr hyn a allwn yn rhesymol i helpu. Nid yw Cofrestrfa Tir EM yn cyhoeddi ei dogfennau mewn ieithoedd heblaw Saesneg a (dogfennau penodol) yn Gymraeg.

Hawlfraint

Caiff y wybodaeth sy’n cael ei chynnwys yn y cynllun cyhoeddi ei gwarchod gan Ddeddf Hawlfraint, Cynlluniau a Phatentau 1988. Mae gennych hawl i’w defnyddio at eich dibenion eich hun, gan gynnwys unrhyw ymchwil anfasnachol a wnewch ac at ddibenion adrodd newyddion. Bydd angen caniatâd y deiliad hawlfraint ar gyfer unrhyw ddull arall o ailddefnyddio’r wybodaeth, er enghraifft cyhoeddi. Bydd y rhan fwyaf o ddogfennau a gyflenwir gan Gofrestrfa Tir EM wedi eu cynhyrchu gan swyddogion y llywodraeth a byddant yn ddarostyngedig i Hawlfraint y Goron ac wedi eu trwyddedu gan Gofrestrfa Tir EM o dan awdurdod dirprwyedig gan y Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus. I gael gwybodaeth bellach am bolisi hawlfraint y Goron a threfniadau trwyddedu’n gyffredinol, gan gynnwys cyfyngiadau defnyddio, gweler gwefan yr Archifau Cenedlaethol.

Weithiau, mae gwybodaeth a gynhyrchir gan Gofrestrfa Tir EM yn cynnwys deunydd hawlfraint y Goron sy’n perthyn i gyrff eraill y Goron. Mae hyn yn cynnwys y cyfeiriadau a ddefnyddiwn ar ein cofrestri a’n cynlluniau teitl. Nid oes gennym awdurdod i drwyddedu’r deunydd hwnnw sy’n eiddo i gyrff eraill y Goron, megis yr Arolwg Ordnans a’r Post Brenhinol, sy’n destun cytundebau trwyddedu ar wahân.

Mae gwybodaeth a gewch nad yw’n ddarostyngedig i Hawlfraint y Goron wedi ei gwarchod o hyd gan hawlfraint yr unigolyn, neu’r sefydliad o ble y daw’r wybodaeth. Rhaid ichi sicrhau y cewch ei ganiatâd cyn atgynhyrchu unrhyw wybodaeth trydydd parti (nad yw’n ddarostyngedig i Hawlfraint y Goron). I gael gwybodaeth am gael caniatâd gan drydydd parti, ewch i wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol.

Cysylltu â Chofrestrfa Tir EM am ein deunydd hawlfraint:

Swyddog Hawlfraint

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ