Polisi dogfennau hygyrch

Dogfennau hygyrch yng Nghofrestrfa Tir EF.


Mae’r polisi hwn yn egluro pa mor hygyrch yw’r dogfennau y mae Cofrestrfa Tir EF yn eu cyhoeddi ar GOV.UK. Mae’n cynnwys dogfennau PDF, taenlenni a dogfennau testun. Ymdrinnir â dogfennau HTML gan brif ddatganiad hygyrchedd GOV.UK.

Dogfen y gellir ei defnyddio gan gynifer o bobl â phosibl yw dogfen hygyrch.

Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd â:

  • nam ar y golwg
  • anawsterau modur
  • namau gwybyddol neu anableddau dysgu
  • byddardod neu nam ar y clyw

Dogfen y mae rhai pobl yn ei chael yn anodd neu’n amhosibl ei defnyddio yw dogfen anhygyrch.

Defnyddio ein dogfennau

Rydym yn cyhoeddi dogfennau mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys:

  • PDF
  • Microsoft Word
  • CSV (gwerthoedd wedi eu gwahanu gan goma)
  • OpenDocument

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r dogfennau hynny. Pan fyddwn yn cynhyrchu dogfen, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud y canlynol:

  • darparu opsiwn HTML lle bo modd
  • tagio penawdau a rhannau eraill o’r ddogfen yn iawn, er mwyn i ddarllenwyr sgrin ddeall strwythur y dudalen
  • defnyddio testun alt i ddisgrifio delweddau nad ydynt yn addurniadol, er mwyn i bobl nad ydynt yn gallu eu gweld ddeall pam eu bod yno
  • osgoi defnyddio tablau, ac eithrio wrth gyflwyno data
  • ysgrifennu mewn Cymraeg neu Saesneg clir

Gwneud ein dogfennau yn hygyrch

Mae dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi a dogfennau y mae angen ichi eu lawrlwytho neu eu llenwi i gael gafael ar y gwasanaethau a ddarperir gennym yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Nid yw pob un ohonynt:

  • wedi eu nodi mewn ffordd sy’n galluogi defnyddwyr darllenwyr sgrin i’w deall
  • wedi eu tagio’n gywir – er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys penawdau cywir
  • wedi eu hysgrifennu mewn Cymraeg neu Saesneg clir

Mae hyn yn gymwys i’n papurau polisi a’n hymgynghoriadau yn bennaf. Mae’r mathau hyn o ddogfennau wedi eu heithrio o’r rheoliadau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i’w gwneud yn hygyrch.

Os na allwch ddefnyddio un o’n dogfennau

Os oes angen ichi gael gafael ar wybodaeth mewn math o ddogfen nad yw’n hygyrch, gallwch anfon neges atom i ofyn am fformat gwahanol.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gydag un o’n dogfennau

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein dogfennau. Gallwch anfon neges atom os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ein dogfennau

Rydym wedi ymrwymo i wneud ein dogfennau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r dogfennau y mae Cofrestrfa Tir EF yn eu cyhoeddi yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae gan rai o’n dogfennau ddelweddau nad oes ganddynt ddewis arall o destun, felly nid yw’r wybodaeth ynddynt ar gael i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 1.1.1 (cynnwys di-destun).

Rydym yn bwriadu ychwanegu testun amgen ar gyfer pob diagram erbyn mis Medi 2020. Byddwn yn sicrhau bod ein delweddau yn bodloni safonau hygyrchedd pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau newydd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw llawer o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai nad ydynt wedi eu strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 4.1.2 (enw, gwerth rôl).

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ffurflenni wedi eu cyhoeddi fel dogfennau Microsoft Word. Byddwn yn cyweirio’r rhain cyn gynted ag y gallwn lle bo modd.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol inni gyweirio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cyweirio ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon 2013 i 2014.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Sut y profwyd ein dogfennau

Profwyd sampl o’n dogfennau ddiwethaf ar 25 Chwefror 2020. Roedd y prawf yn seiliedig ar ba mor aml mae pobl yn edrych arnynt ac a ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Profwyd y canlynol:

  • Dogfennau PDF
  • Dogfennau Microsoft Word

Dyma’r prif fathau o fformatau dogfen nad ydynt yn HTML yr ydym yn eu cyhoeddi.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Er mwyn gwella hygyrchedd, rydym yn:

  • diweddaru templedi Word a PDF corfforaethol i fod yn hygyrch
  • disodli dogfennau PDF gyda HTML
  • cyhoeddi adroddiadau mewn HTML ochr yn ochr â dogfennau PDF lle bo modd
  • darparu dewisiadau amgen OpenDocument a CSV yn lle taenlenni Excel
  • profi dogfennau gyda meddalwedd technoleg gynorthwyol

Byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru’r polisi hwn wrth i’n gwaith fynd rhagddo.

Paratowyd y dudalen hon ar 25 Chwefror.