Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol
Yr hyn rydym yn ei rannu a sut rydym yn cymedroli sylwadau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cofrestrfa Tir EF, gan gynnwys Twitter, Facebook ac YouTube.
Sianeli
Rydym yn cynnal y canlynol:
- cyfrif Twitter
- blog
- tudalen cwmni (a grwpiau) LinkedIn
- tudalen Facebook
- sianel YouTube
- fforwm cymorth
Rydym yn derbyn ac yn ymateb i negeseuon yn Gymraeg a Saesneg, yn unol â’n Cynllun iaith Gymraeg
Argaeledd
Caiff ein cyfrifon Twitter, Facebook a LinkedIn eu monitro a’u rheoli’n weithredol rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Yn achlysurol ni fydd y safleoedd hyn ar gael. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth oherwydd amser di-fynd.
Cyfrinachedd a diogelwch
Ni all Cofrestrfa Tir EF drafod achosion unigol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ni fyddwn yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol na thalu trwy Twitter, Facebook, LinkedIn nac ebost. Os cewch neges o’r fath, peidiwch ag ymateb – nid yw gan Gofrestrfa Tir EF a gall fod yn faleisus.
Darparwyr gwasanaethau trydydd parti sy’n cynnal ein sianeli cyfryngau cymdeithasol . Fe’ch cynghorir i ddarllen eu telerau defnyddio a’u polisïau preifatrwydd cyn cofrestru ar gyfer eu gwasanaethau a phostio sylwadau.
Negeseuon
Rydym yn croesawu argymhellion, adborth a syniadau gan ein dilynwyr a byddwn yn ymdrechu i ychwanegu gwerth i sgyrsiau lle y gallwn.
Byddwn yn darllen unrhyw negeseuon a gawn a sicrhau y caiff unrhyw themâu neu awgrymiadau defnyddiol sy’n ymddangos eu trosglwyddo i’r unigolion perthnasol yng Nghofrestrfa Tir EF. Oherwydd cyfyngiadau mewn adnoddau, ni fyddwn bob amser yn gallu ymateb yn unigol i’r negeseuon hyn.
Er mwyn cadw sgyrsiau’n agored ac yn gyhoeddus, mae’n well gennym beidio ag anfon na derbyn Negeseuon Uniongyrchol ar Twitter na Facebook. Os oes angen i chi gysylltu â ni ar gyfer gohebiaeth swyddogol, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu.
Dilyn
Os ydych yn dilyn neu’n tanysgrifio i unrhyw un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol, ni fyddwn yn eich dilyn yn awtomatig. Mae hyn yn osgoi gorfod delio â chyfrifon sbam.
Byddwn yn dilyn sefydliadau sy’n berthnasol i Gofrestrfa Tir EF, Llywodraeth y DU a Chofrestru Tir, a gallwn ddilyn unigolion lle y bo’n briodol. Os byddwn yn dilyn cyfrif, nid yw hynny’n golygu ardystiad o unrhyw fath gan Gofrestrfa Tir EF.
Byddwn yn dad-ddilyn unrhyw gyfrifon sy’n faleisus neu’n sbam yn ein barn ni.
Polisi trafod
Trwy ddefnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol rydych yn cytuno â’n polisi trafodaethau. Rydym yn cadw’r hawl i atal neu ddileu negeseuon defnyddiwr nad ydynt yn glynu wrth y polisi hwn.
- Ni fyddwch yn postio deunydd difenwol, difrïol, rheglyd, bygythiol, ymosodol nac anghyfreithlon.
- Os ydych am gwyno, darllenwch am sut i wneud cwyn. I ddeall sut rydym yn prosesu cwynion, gallwch ddarllen ein gweithdrefn gwyno.
- Ni fyddwch yn postio unrhyw ddeunydd hawlfreintiedig nad yw’n perthyn i chi, oni bai fod gennych hawl perchennog y deunydd hawlfreintiedig i wneud hynny.
- Ni fyddwch yn postio unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys manylion personol.
- Ni fyddwch yn defnyddio sianeli Cofrestra Tir EF i hyrwyddo gwasanaethau masnachol.
- Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am farn a gwybodaeth a anfonir gan eraill.
- Nid fyddwn yn cynnig cyngor cyfreithiol na phroffesiynol arall.
- Ni allwn roi barn wleidyddol na sylwadau ar bolisi’r llywodraeth, gan ein bod yn rhwym wrth God y Gwasanaeth Sifil.
- Rydym yn rheoli’r holl sylwadau a gaiff eu postio ar ein blog. Os nad yw sylw’n cydymffurfio â’n polisi trafod, ni chaiff ei gyhoeddi.
- Nid ydym yn gyfrifol am gamddefnydd unrhyw gynnwys neu wybodaeth sy’n cael eu postio.