Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Effaith ar fudd-daliadau eraill
Gallwch barhau i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os ydych chi’n hawlio:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
- Pensiwn y Wladwriaeth
Bydd IIDB yn effeithio ar y budd-daliadau canlynol os ydych chi neu’ch partner yn eu hawlio:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Credyd Pensiwn
- Budd-dal Tai
- Credyd Cynhwysol
Efallai y bydd hefyd yn effeithio ar Ryddhad Treth Gyngor – cysylltwch â’ch cyngor lleol am fwy o wybodaeth.