Cymhwysedd

Damweiniau

Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os:

  • cawsoch eich cyflogi pan ddigwyddodd y ddamwain neu’r digwyddiad
  • yr oeddech ar gynllun neu gwrs hyfforddiant cyflogaeth cymeradwy pan ddigwyddodd y ddamwain neu’r digwyddiad
  • digwyddodd y ddamwain waith neu’r digwyddiad a achosodd eich salwch neu anabledd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Mae rhai eithriadau y gallwch ofyn i’ch Canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol rhanbarthol amdanynt.

Clefydau

Gallwch hawlio IIDB os oeddech yn gyflogedig mewn swydd neu os oeddech ar gynllun neu gwrs hyfforddi cyflogaeth cymeradwy a achosodd eich clefyd. Mae’r cynllun yn cwmpasu mwy na 70 o glefydau, gan gynnwys:

  • asma
  • broncitis cronig neu emffysema - a elwir hefyd yn glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
  • byddardod
  • niwmoconiosis (gan gynnwys silicosis ac asbestosis)
  • osteoarthritis o’r pen-glin mewn glowyr
  • clefyd rhagnodedig A11 (a elwid gynt yn fys gwyn dirgryniad)
  • Crebachdod Dupuytren

Mae’r cynllun hefyd yn ymdrin â chlefydau sy’n ymwneud ag asbestos gan gynnwys:

  • niwmoconiosis (asbestosis)
  • mesothelioma ymledol
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint gydag asbestosis
  • carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint heb asbestosis ond lle bu amlygiad galwedigaethol helaeth i asbestos mewn galwedigaethau penodedig
  • tewhau plewrol gwasgaredig unochrog neu ddwyochrog

Gallwch gael rhestr lawn o afiechydon o’ch canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol rhanbarthol.

Ni allwch wneud cais Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig.