Ffurflen

Ffurflenni cais Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Ffurflenni cais Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol i'w hargraffu a'u llenwi â beiro.

Dogfennau

Manylion

Darllenwch ganllaw Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol cyn ddefnyddio’r ffurflenni hyn.

Defnyddiwch ffurflen BI100AW i wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar gyfer ddamwain a achoswyd gan waith.

Defnyddiwch ffurflen gais BI100PDW i wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar gyfer afiechyd a achoswyd gan waith.

Gwneud cais am fyddardod galwedigaethol

Os ydych yn gwneud cais oherwydd mae gennych fyddardod galwedigaethol, darllenwch ganllaw byddardod galwedigaethol cyn cwblhau’r ffurflenni Bl100PDW a Bl100ODW.

Gwneud cais am Dupuytren’s Contracture

Os ydych yn gwneud cais oherwydd mae gennych Dupuytren’s contracture, darllenwch ganllaw Dupuytren’s contracture cyn cwblhau’r ffurflenni BI100PDW.

Cyn i chi ddechrau’r ffurflen hon

Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu lechen

Ni allwch gwblhau’r ffurflen hon yn defnyddio ffôn symudol neu lechen. Mae’n rhaid i chi naill ai:

  • defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur
  • argraffu’r ffurflen a’i gwblhau â llaw

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur

Defnyddiwch ddarllenwr PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenwr PDF am ddim ar-lein.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenwr sgrin i gael mynediad at y ffurflen, rydym yn awgrymu eich bod yn adolygu’r holl nodiadau a chwestiynau ar y ffurflen cyn ei gwblhau. Wrth i chi gwblhau’r ffurflen, byddwch yn cael eich tywys trwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych yn ei roi.

Peidiwch â defnyddio porwr eich cyfrifiadur, neu os ydych yn ddefnyddiwr Apple Macintosh, y rhaglen Preview.

Gallwch arbed gwybodaeth wedi’i deipio yn y ffurflen hon os ydych yn defnyddio darllenwr PDF. Mae hwn yn golygu nad oes angen i chi lenwi’r holl ffurflen mewn un sesiwn.

Mae trafferthion dibynadwyedd gyda rhai meddalwedd cynorthwyol, a all meddwl ni fydd y ffurflen yn arbed yn gywir.

Bydd y ffurflen hon dim ond yn arbed os yw:

  • wedi’i harbed ar eich cyfrifiadur
  • ar agor mewn fersiwn gyfredol o ddarllenwr PDF

Ni fydd y ffurflen yn arbed mewn:

  • fersiynau o Acrobat Reader sy’n hŷn na fersiwn XI
  • rhai darllenwr PDF eraill, er enghraifft Preview ar Mac neu Foxit ar PC

Cymorth wrth ddefnyddio’r ffurflen gais PDF hon

Am gyngor a chefnogaeth ar y wybodaeth mae’n rhaid i chi roi ar y ffurflen neu am y budd-dal rydych am ei hawlio, cysylltwch â Chanolfan IIDB Barnsley

Cysylltwch â DWP Online Helpdesk, os ydych yn cael trafferthion technegol wrth:

  • lawrlwytho’r ffurflen
  • llywio o gwmpas y ffurflen
  • argraffu’r ffurflen

DWP Online Helpdesk

E-bost dwponline.helpdesk@dwp.gov.uk

Ffôn 0800 169 0154

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am i 6pm

Ar gau ar benwythnosau ac ar bob gwyl cyhoeddus a banc

Darganfyddwch am gostau galwadau

Os oes angen y ffurflen hon arnoch mewn fformat gwahanol

Cysylltwch â Chanolfan IIDB Barnsley i ofyn am:

  • copi o’r ffurflen wedi’i argraffu
  • fformat gwahanol, fel print bras, braille neu CD sain
Cyhoeddwyd ar 1 October 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 February 2024 + show all updates
  1. Updated Accidents: Industrial Injuries Disablement Benefit interactive claim form (BI100A), Accidents: Industrial Injuries Disablement Benefit notes, Diseases: Industrial Injuries Disablement Benefit interactive claim form (BI100PD), Diseases: Industrial Injuries Disablement Benefit notes -- English and Welsh.

  2. Updated Accidents: Industrial Injuries Disablement Benefit interactive claim form (BI100A - 9/23) and notes (BI100 notes - 9/23) English and Welsh (Welsh version not interactive).

  3. Updated the form: Diseases: Industrial Injuries Disablement Benefit interactive claim form and also Diseases: Industrial Injuries Disablement Benefit notes.

  4. Updated the form: Diseases: Industrial Injuries Disablement Benefit interactive claim form.

  5. DWP have introduced a new Industrial Injuries Disablement Benefit interactive claim form. We have also provided new guidance about how to use the form, what to do if you cannot access the form, and how you can request a different format if you need to.

  6. Added claim form and guidance notes to claim Industrial Injuries Disablement Benefit for occupational deafness.

  7. Added form A15, Dupuytren’s Contracture notes.

  8. Updated the claim forms (English and Welsh) for diseases caused by work.

  9. Replaced forms BI100A and BI100AW for accidents caused by work - telephone numbers updated to freephone numbers.

  10. Replaced form BI100PD to claim Industrial Injuries Disablement Benefit for diseases. The changes include a change the name of prescribed disease 'emphysema' to 'chronic obstructive pulmonary disease (COPD)'.

  11. Published revised version of form BI100a - Accidents: Industrial Injuries Disablement Benefit (accidents) claim form - English and Welsh.

  12. Changed Barrow Industrial Injuries Disablement Benefit mailing address on form BI100PD form - English and Welsh versions.

  13. First published.