Ffurflen

Byddardod galwedigaethol: arweiniad ar gwblhau’r ffurflenni cais (BI100PDW a BI100ODW)

Diweddarwyd 19 February 2024

Defnyddiwch y nodiadau hyn i’ch helpu i gwblhau’r ffurflenni cais os ydych yn gwneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol am fyddardod galwedigaethol (afiechyd rhagnodedig A10).

Cymhwysedd

I fod yn gymwys i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) am yr afiechyd rhagnodedig A10 byddardod galwedigaethol, mae’n rhaid i chi fod wedi:

  • colli clyw o 50dB neu fwy ym mhob clust
  • gweithio, neu’n gweithio’n agos at rywun, am 10 mlynedd neu fwy, gan ddefnyddio offer neu beiriannau penodol sy’n debygol o achosi byddardod

Gallwch ddefnyddio gwahanol gyfnodau i gwmpasu’r 10 mlynedd.

Enghraifft

Os ydych yn hawlio ar 19 Chwefror 2020 gallwch fod wedi gweithio, neu wedi gweithio’n agos i rywun, gan ddefnyddio offer neu beiriannau penodol sy’n debygol o achosi byddardod am:

  • y 3 blynedd o 1 Chwefror 2000 i 31 Ionawr 2003
  • y 2 flynedd o 1 Chwefror 2008 i 31 Ionawr 2010
  • y 5 mlynedd o 13 Chwefror 2015 i 12 Chwefror 2020

Nid yw cyfnodau hunangyflogaeth yn cyfrif.

Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn gwneud y gwaith hwnnw o fewn 5 mlynedd i’r dyddiad rydych yn gwneud cais.

Dewch o hyd i restr o offer neu beiriannau sy’n debygol o achosi byddardod o dan afiechyd rhif A10 byddardod galwedigaethol.

Aelodau o’r lluoedd arfog

Mae Veterans UK yn gweithredu cynllun ar wahân ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch: 0800 169 2277.

Sut i wneud cais

Cwblhewch ffurflenni BI100PDW a BI100ODW.

Ffurflen BI100PDW, Rhan 3: Ynglŷn â’ch gwaith neu’ch cynllun neu gwrs hyfforddi cyflogaeth a gymeradwywyd a’ch afiechyd

Lle byddwch yn cwblhau ‘Rhan 3: Ynglŷn â’ch gwaith neu’ch cynllun neu gwrs hyfforddi cyflogaeth a gymeradwywyd a’ch afiechyd, dywedwch wrthym:

  • pa afiechyd neu afiechydon sydd gennych
  • manylion pob un o’r swyddi neu’r hyfforddiant lle gwnaethoch ddefnyddio, neu weithio’n agos i rywun sy’n defnyddio, offer neu beiriannau sy’n debygol o achosi byddardod

Mae’n rhaid i’ch gwybodaeth gyflogaeth:

  • cwmpasu 10 mlynedd neu fwy
  • dangos yr oeddech yn gwneud y gwaith neu’r hyfforddiant hwnnw yn ystod y 5 mlynedd diwethaf

Efallai y byddwch am ystyried y cyflogwyr roeddech yn gweithio iddynt am y cyfnod hiraf. Gallai hyn gwmpasu’r 10 mlynedd sydd ei angen ac efallai na fydd angen i chi roi manylion pob cyflogwr.

Os oes angen i chi ddweud wrthym am fwy na 2 gyflogwr, defnyddiwch dudalen olaf y ffurflen gais BI100PDW i roi’r wybodaeth ychwanegol i ni. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r un wybodaeth am y cyflogwyr hyn a’r gwaith a wnaethoch fel y rhoddwch yn Rhan 3.

Ffurflen BI100ODW

Pan fyddwch yn cwblhau’r ffurflen BI100ODW mae angen i chi ddweud wrthym am yr un cyflogwyr roeddech wedi dweud wrthym amdanynt yn y BI100PDW.

Ar gyfer pob cyflogwr mae angen i chi ddweud wrthym am yr offer neu’r peiriannau y gwnaethoch eu defnyddio neu weithio’n agos at rywun yn eu defnyddio.

Cysylltu â’ch cyflogwyr

Efallai y bydd angen i ni gysylltu ag unrhyw un o’r cyflogwyr rydych yn dweud wrthym amdanynt.