Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi lenwi ac anfon ffurflen gais.
Daw’r ffurflen gyda nodiadau sy’n:
- eich helpu i’w lenwi
- dweud wrthych ble i’w anfon
Lawrlwytho ac argraffu ffurflen gais
Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen wahanol yn dibynnu a ydych yn hawlio am:
- ddamweiniau a achosir gan waith (ffurflen BI100A)
- clefydau a achosir gan waith (ffurflen BI100PD)
Lawrlwythwch ac argraffwch y ffurflen gais briodol
Gofyn am ffurflen gais dros y ffôn
Gallwch hefyd ofyn i Ganolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol Barnsley (IIDB) anfon ffurflen gais atoch.
Canolfan IIDB Barnsley
Ffôn: 0800 121 8379
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Gwasanaeth ‘video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Fformatau amgen
Ffoniwch i ofyn am fformatau amgen, fel braille, print bras neu CD sain.
Ar ôl i chi anfon eich ffurflen
Bydd eich cais yn cael ei asesu gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir yn eich ffurflen gais, neu mewn asesiad meddygol wyneb yn wyneb.
Bydd y Ganolfan Asesiadau Iechyd ac Anabledd (CHDA) yn cysylltu â chi os oes angen asesiad meddygol wyneb yn wyneb arnoch. Byddant yn anfon gwybodaeth atoch am yr hyn i’w ddisgwyl yn yr apwyntiad.
Bydd sain eich asesiad yn cael ei recordio. Os nad ydych am iddo gael ei recordio, cysylltwch â’ch darparwr asesiad iechyd gan ddefnyddio’r manylion yn eich llythyr gwahoddiad.
Ni fydd angen i chi fynychu asesiad wyneb yn wyneb os ydych yn derfynol wael neu os oes gennych unrhyw un o’r clefydau canlynol:
- mesothelioma ymledol
- angiosarcoma o’r iau oherwydd amlygiad i finyl clorid monomer
- carsinoma sylfaenol y broncws neu’r ysgyfaint drwy ddod i gysylltiad â llosgi bwriadol
- carsinoma sylfaenol y broncws neu’r ysgyfaint drwy ddod i gysylltiad â chyfansoddion Nickel/Nickel
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint lle ceir tystiolaeth ategol o asbestosis
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint, drwy ddod i gysylltiad ag asbestos
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint, wedi’i gysylltu â thun a chemegau penodedig eraill neu’n gweithio gyda ffwrn coke
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint lle ceir silicosis sy’n cyd-fynd ag ef
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich hawliad. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyried gorfodol’.