Trosolwg

Os oes gennych anabledd difrifol o ganlyniad i frechiad yn erbyn afiechydon penodol, gallwch gael taliad di-dreth untro o £120,000. Gelwir hwn yn Daliad Niwed Trwy Frechiad.

Gallwch hefyd wneud cais am y taliad hwn ar ran rhywun sydd wedi marw ar ôl cael anabledd difrifol o ganlyniad i frechiadau penodol. Rhaid eich bod yn rheoli eu hystâd i wneud cais.

Gallwch gymryd gweithred gyfreithiol o hyd i wneud cais am iawndal, hyd yn oed os ydych yn cael Taliad Niwed Trwy Frechiad.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (Saesneg).

Effaith ar fudd-daliadau rydych yn eu derbyn

Gall Taliad Niwed Trwy Frechiad effeithio ar fudd-daliadau a hawliau fel:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Rhyddhad Treth Cyngor
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Bydd effaith y taliad yn dibynnu ar nifer o bethau. Mae hyn yn cynnwys y taliad sy’n cael ei roi mewn ymddiriedolaeth a’r taliadau sy’n cael eu gwneud ohono.

Os ydych yn cael Taliad Niwed Trwy Frechiad, rhowch wybod i’r swyddfa sy’n delio â’ch budd-dal neu gais credyd treth. Gallwch gael manylion cyswllt o lythyron maent wedi eu hanfon atoch.