Cymhwyster

Gallwch gael taliad os oes gennych anabledd difrifol a chafodd eich anabledd ei hachosi gan frechiad yn erbyn un o’r afiechydon canlynol:

  • coronafeirws (COVID-19)
  • diphtheria
  • haemophilus influenzae math b (Hib)
  • human papillomavirus
  • ffliw, heblaw am ffliw a achosir gan feirws ffliw pandemig
  • y frech goch
  • meningococal grŵp B (llid yr ymennydd B)
  • meningococal grŵp C (llid yr ymennydd C)
  • meningococal grŵp W (llid yr ymennydd W)
  • clwy’r pennau
  • ffliw pandemig A (H1N1) 2009 (ffliw moch) – hyd at 31 Awst 2010
  • pertwsis (y pas)
  • haint niwmococol
  • poliomyelitis
  • rotavirus
  • rwbela (brech goch yr Almaen)
  • y frech wen – hyd at 1 Awst 1971
  • tetanws
  • twbercwlosis (TB)

Efallai eich bod wedi cael brechiad cyfun yn erbyn nifer o afiechydon sydd wedi’u rhestri. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael brechiad yn erbyn DTP (diptheria, tetanws a pertwsis) neu MMR (y frech goch, clwy’r pennau a rwbela).

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael taliad os oes gennych anabledd difrifol oherwydd:

  • bod eich mam wedi cael brechiad yn erbyn un o afiechydon sydd wedi’u rhestri tra’r oedd hi’n feichiog

  • rydych wedi bod mewn cyswllt corfforol agos â rhywun sydd wedi cael brechiad drwy’r geg yn erbyn poliomyelitis

Gallwch hefyd wneud cais am y taliad hwn ar ran rhywun sydd wedi marw ar ôl cael anabledd difrifol o ganlyniad i frechiadau penodol. Rhaid eich bod yn rheoli eu hystâd i wneud cais.

Beth sy’n cyfri fel ‘anabledd difrifol’

Mae anabledd yn cael ei chyfrifo fel canran, ac mae ‘anabledd difrifol’ yn meddwl anabledd o leiaf 60%.

Gall hwn fod yn anabledd meddyliol neu gorfforol a bydd yn seiliedig ar dystiolaeth o ddoctoriaid neu ysbytai sydd ynghlwm â’ch triniaeth.

Pryd a ble mae’n rhaid bod y brechiad wedi’i gynnal

Fel arfer mae’n rhaid eich bod wedi cael y brechiad cyn eich pen-blwydd yn 18 oed, oni bai bod y brechiad yn ystod brigiad o afiechyd yn y DU neu Ynys Manaw, neu roedd yn erbyn:

  • coronafeirws (COVID-19)

  • poliomyelitis

  • rwbela

  • meningococal group C

  • human papillomavirus

  • pandemig ffliw A (H1N1) 2009 (ffliw moch)

  • meningococal grŵp W cyn eich penblwydd yn 26

  • ffliw

Mae’n rhaid bod y brechiad wedi cael ei rhoi yn y DU neu Ynys Manaw, oni bai eich bod wedi cael brechiad fel rhan o’ch triniaeth feddygol y lluoedd arfog.