Sut i wneud cais

Gwnewch gais trwy lenwi ffurflen gais. Gallwch wneud cais ar ran rhywun os:

  • maent o dan 16 oed a chi yw eu rhiant neu warcheidwad
  • nid ydynt yn gallu rheoli eu materion eu hunain ac rydych chi’n gweithredu fel eu cynrychiolydd
  • maent wedi marw ac rydych chi’n rheoli ei hystâd.

Anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau i:

Vaccine Damage Payment Scheme
Unit 5 Greenfinch Way
Newburn Business Park
Newcastle-upon-Tyne
NE15 8NX

Gallwch hefyd gysylltu â Chynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad i ofyn am ffurflen gais:

Cynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad
nhsbsa.vdps@nhs.net
Ffôn: 0300 330 0013
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4:30pm Darganfyddwch am gostau galwadau

Terfynau amser ar wneud cais

Gallwch ond wneud cais am blentyn pan maent yn 2 mlwydd oed.

I wneud cais am oedolyn, gwnewch gais erbyn pa un bynnag yw’r hwyraf o’r dyddiadau canlynol:

  • ar neu cyn eu pen-blwydd yn 21 oed (neu os ydynt wedi marw, y dyddiad y byddent wedi troi’n 21 oed)
  • o fewn 6 mlynedd o’r brechiad

Faint o amser mae’n ei gymryd?

Gall gymryd o leiaf 6 mis i brosesu cais Taliad Niwed Trwy Frechiad. Os ydych yn gwneud cais am frechiad coronafeirws (COVID-19) bydd yn cymryd mwy o amser.

Cymorth arall y gallwch ei gael

Efallai y byddwch yn gallu: