Taliad Tanwydd Gaeaf
Optio allan o’r Taliad Tanwydd Gaeaf
Ni allwch optio allan o’r Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2026 i 2027 mwyach.
Byddwch yn gallu optio allan o’r Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2027 i 2028 o 21 Rhagfyr 2026.
Os nad ydych yn optio allan ac mae cyfanswm eich incwm dros £35,000 byddwch yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf ond bydd CThEF yn ei gymryd yn ôl.
Os ydych am optio i mewn eto
Gallwch optio i mewn eto drwy gysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf. I gael taliad ar gyfer gaeaf 2026 i 2027 bydd angen i chi gysylltu â hwy cyn 31 Mawrth 2027.
Cysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf
Pan fyddwch yn cysylltu â’r ganolfan, bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:
- eich enw
- eich cyfeiriad
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol
Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth neu anfon llythyr drwy’r post.
Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: 0800 731 0160
Relay UK
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych yn denfyddio cyfrifiadur – dysgwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Dysgwch ragor am gostau galwadau
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR