Skip to main content

Os yw’ch incwm dros £35,000

Os yw cyfanswm eich incwm dros £35,000, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl.

Nid yw incwm eich partner yn cyfrif tuag at gyfanswm eich incwm.

Gallwch wirio a yw’ch incwm dros y trothwy. Bydd angen i chi nodi cyfanswm yr incwm rydych yn disgwyl ei gael yn y flwyddyn dreth wrth law, cyn unrhyw ddidyniadau.

Fel arfer, bydd CThEF yn casglu’r swm sy’n ddyledus gennych drwy’ch cod treth. Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, byddwch yn ei dalu drwy’ch bil treth yn lle hynny.

Gallwch eithrio allan o gael Taliad Tanwydd Gaeaf os yw’ch incwm dros £35,000 neu os nad ydych am gael y taliad.

Os bydd CThEF yn newid eich cod treth

Os bydd CThEF yn newid eich cod treth er mwyn talu’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl, byddant yn cysylltu â chi drwy e-bost neu drwy’r post. Mae hyn yn golygu bydd y dreth sy’n cael ei didynnu oddi wrth eich cyflog, salari neu bensiwn yn cynyddu.

Os na all CThEF gasglu’r swm llawn yn ystod y flwyddyn dreth, bydd yn anfon llythyr cyfrifiad treth atoch.

Os bydd angen i CThEF gasglu 2 daliad

Bydd CThEF yn casglu 2 daliad drwy’ch cod treth ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu mwy o dreth bob mis.

Enghraifft

Os yw CThEF eisoes yn casglu’ch taliad ar gyfer 2025, bydd eich cod treth yn newid ym mis Ionawr 2027 er mwyn casglu eich taliad ar gyfer 2026. Byddwch yn talu tua £30 i £33 yn fwy o dreth bob mis os mai £200 yw’ch Taliad Tanwydd Gaeaf yn y ddwy flynedd dan sylw.

Os na fyddwch yn eithrio allan o gael Taliad Tanwydd Gaeaf, bydd CThEF yn newid eich cod treth eto ym mis Ebrill 2027 er mwyn parhau i gasglu’ch taliad ar gyfer 2026 ac i ddechrau casglu’ch taliad ar gyfer 2027 ymlaen llaw.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Mae’n rhaid i chi gynnwys eich Taliad Tanwydd Gaeaf ar eich Ffurflen Dreth, a hynny ar gyfer bob blwyddyn y byddwch yn ei gael.

Os ydych yn cyflwyno Ffurflenni Treth ar-lein, fel arfer bydd CThEF yn cynnwys y swm yn awtomatig. Bydd yn ymddangos fel ‘Tâl Taliad Tanwydd Gaeaf’ a bydd yn cael ei gynnwys yn eich cyfrifiad treth.

Os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Ni allwch dalu’ch Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’ch meddalwedd sy’n cydweddu.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i gadarnhau’r canlynol:

  • y swm y bydd angen i chi ei dalu
  • sut i wneud taliad, a phryd i wneud hynny, gan ddefnyddio gwasanaeth talu ar-lein CThEF

Dylech aros i CThEF gysylltu â chi cyn i chi geisio gwneud y taliad.

Os ydych yn delio ag ystâd rhywun sydd wedi marw

Os cafodd y person a fu farw Daliad Tanwydd Gaeaf ac roedd ei incwm dros £35,000, fel arfer bydd y taliad yn cael ei dalu’n ôl pan fyddwch yn setlo ei ystâd. Dysgwch sut i setlo dyledion a threthi ar gyfer rhywun a fu farw.