Rhaglen Waith ac Iechyd

Mae’r Rhaglen Waith ac Iechyd yn eich helpu i ddod o hyd i swydd a chadw swydd os ydych chi’n ddi-waith.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cymhwyster

Gallech fod yn gymwys os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr a’ch bod chi:

  • yn anabl
  • yn ddi-waith
  • yn ofalwr neu gyn-ofalwr
  • yn ddigartref
  • yn gyn-aelod o lluoedd arfog Ei Fawrhydi (EF)
  • yn aelod o lluoedd arfog EF wrth gefn
  • yn bartner i aelod neu gyn-aelod o’r lluoedd arfog EF
  • yn gadael gofal
  • person ifanc mewn gang neu mewn perygl o ymwneud â gang
  • yn ffoadur
  • unigolyn sy’n cael ei adsefydlu o Afghanistan
  • yn ddioddefwr trais yn y cartref
  • yn ddibynnol (neu wedi bod yn ddibynnol) ar gyffuriau neu alcohol ac mae’n eich atal rhag cael gwaith
  • yn gyn-droseddwr ac rydych chi wedi cwblhau dedfryd o garchar neu ddedfryd gymunedol
  • yn droseddwr gyda dedfryd gymunedol

Nid oes rhaid i chi fod yn cael budd-daliadau i wneud cais.

Beth fyddwch yn ei gael

Cewch gymorth personol i’ch helpu chi i:

  • adnabod eich anghenion cyflogaeth
  • paru eich sgiliau i waith sydd ar gael
  • eich rhoi mewn cysylltiad â chyflogwyr
  • dod o hyd i gyflogaeth hirdymor
  • gael hyfforddiant i’ch helpu i ddod o hyd i waith
  • rheoli problemau iechyd i leihau eu heffaith ar waith

Sut i wneud cais

Gofynnwch i’ch anogwr gwaith os ydych chi’n gymwys. Byddant yn gwneud cais ar eich rhan.

Os nad oes gennych anogwr gwaith, ewch i’ch Canolfan Byd Gwaith leol a gofyn i gael siarad gydag anogwr gwaith am y Rhaglen Waith ac Iechyd.