Publication

Credyd Cynhwysol a’ch cartref

Updated 6 April 2018

1. Talu eich rhent

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol a gall gynnwys arian tuag at eich costau tai.

Y chi fydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian hyn i dalu eich landlord eich hunan.

Efallai na fydd swm ychwanegol ar gyfer costau tai a gewch gyda’ch Credyd Cynhwysol yn cwmpasu y cyfan o’ch rhent, felly chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw weddill eich hunan.

Bydd angen i chi reoli eich arian yn fwy gofalus er mwyn i chi allu talu eich landlord ar amser. Dylech siarad gyda’ch landlord i gytuno’r ffordd orau i’w talu, er enghraifft drwy sefydlu debydau uniongyrchol a/neu archebion sefydlog i dalu eich rent a biliau eraill fel nwy a thrydan.

Efallai y byddwch wedi arfer rheoli eich arian yn y ffordd hyn, ond mae cymorth ar gael os ydych angen rhywfaint o gymorth. Bydd eich anogwr gwaith yn siarad â chi am y mathau o help y gallech eu gweld yn ddefnyddiol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori Arian yn rhoi cyngor am ddim a diduedd trwy eu gwefan. Mae ganddynt declyn cymorth rheoli arian ar-lein sy’n darparu gwybodaeth a chyngor cyllidebu am ddim a di-duedd yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd mewn gwaith yn gyfrifol am dalu eu rhent eu hunan. Bydd talu eich costau tai i chi yn hytrach na’ch landlord yn eich helpu i ddod i arfer a gwneud y taliadau hyn.

2. Ffioedd gwasanaeth

Efallai bydd Credyd Cynhwysol yn cynnwys swm tuag at ffioedd gwasanaeth y bydd angen i chi ei dalu i’ch landlord. Gall landlordiaid nodi pa daliadau sy’n cael eu cefnogi gan Gredyd Cynhwysol a byddant yn gallu rhoi gwybod i chi am y cyfanswm y gallwch gael cymorth amdano. Y bwriad yw y bydd yr holl ffioedd gwasanaeth sy’n cael eu cwmpasu gan y system bresennol yn dal i gael eu cwmpasu gan Gredyd Cynhwysol.

3. Talu eich morgais

Os ydych chi a/neu’ch partner yn berchen ar y cartref rydych yn byw ynddo, efallai y byddwch yn gymwys i gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI). Telir SMI fel benthyciad, a bydd angen i chi dalu’n ôl pan werthir yr eiddo neu trosglwyddir y berchenogaeth. Bydd y swm a gewch yn seiliedig ar gyfradd llog a osodir i’ch morgais sy’n weddill. Fe’i telir yn uniongyrchol i’ch benthyciwr morgeisi. Unwaith y byddwch chi neu’ch partner yn cael incwm a enillir, ni fyddwch yn gymwys mwyach i gael taliadau benthyciad SMI.

Os yw’ch tŷ yn brydlesol, efallai y byddwch hefyd yn cael help gyda rhai taliadau gwasanaeth fel rhan o’ch Credyd Cynhwysol.